Pabi coch (symbol)
Mae'r pabi coch yn cael ei ddefnyddio ers 1920 i gofio milwyr a laddwyd ar faes y gad. Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, sylwyd bod blodyn y pabi coch yn arbennig o gyffredin o gwmpas y rhesi o feddi milwyr yng ngogledd Ffrainc a Gwlad Belg, ac felly penderfynnodd y Lleng Brydeinig y byddai'n symbol addas o goffadwriaeth o'r "Rhyfel Mawr" yng ngwledydd Prydain. Caiff ei werthu ganddynt sy'n ymgyrchu dros hawliau cyn-filwyr yn y DU. Mae'n cael ei wisgo fel bathodyn ar Sul y Cofio ac am wythnos neu ddwy cyn hynny yn rhai o wledydd y Gymanwlad, er bod symbolau a blodau eraill mewn gwledydd dros y byd, e.e. y "bleuet" glas (glas yr ŷd) yn Ffrainc.
Ar ddechrau mis Tachwedd mae'r pabi i'w weld yn gyffredin iawn ar wisg cyflwynwyr teledu, gwleidyddion ac ati. Dywedir bod "rheol anysgrifenedig" sy'n golygu bod disgwyl i unrhyw un sy'n ymddangos ar y BBC wisgo pabi coch yn ystod y cyfnod hwn. Fodd bynnag, mae rhai yn dadlau bod y pabi coch fel symbol o gofio yn cael ei gamddefnyddio, a'i fod yn cael ei ddefnyddio i glodfori rhyfel ac fel rhan o ddiwylliant o gyfiawnhau rhyfela yn y cyfnod presennol. Mae rhai yn dewis gwisgo pabi gwyn yn lle'r pabi coch; mae'r pabi gwyn yn cael ei wisgo i gofio'r rhai a fu farw ar faes y gad, ond gan ddadlau hefyd dros heddwch ac yn erbyn rhyfel.
Fe'u gwisigir yng ngwledydd y Gymanwlad yn unig ar Sul y Cofio; nid yw Iwerddon yn cydnabod y Pabi; yn 2017 gwisgodd Leo Varadkar "babi shamrock" - y Taoiseach cyntaf i wneud hynny - yn y Dáil. Ond mae'r rhan fwyaf o drigolion Iwerddon yn gwisgo'r lili i goffáu'r rhai a fu farw yng Ngwrthryfel y Pasg yn 1916 a'r gwrthdaro dilynol.
Mae gan lawer o wledydd symbolau gwahanol i gofio meirwon y Rhyfeloedd Byd:
- Ffrainc: y "bleuet" glas (glas yr ŷd) yn hytrach na'r popi. Mae'r bleuet hefyd yn tyfu ar faes y gad yn Ffrainc, a daeth yn symbol genedlaethol o goffâd a gobaith i filwyr Ffrengig.
- Gwlad Belg: Daisy - llygad Ebrill. Mae'r madeliefje (llygad Ebrill) yn fwy cyffredin fel symbol coffa Belgiaidd, na'r pabi coch.
- India: y "melyn Mair melyn llachar geiriadur
- Rwmania: Ers 2015, mae rhosyn-y-mynydd gwyllt (peony Rwmanaidd) yn cael ei wisgo
- Rwsia: Rhuban oren a du
- Serbia: Ramonda Natalija. Mae'r blodyn hwn yn symbol o wydnwch brwydr Serbia yn y Rhyfel Byd Cyntaf ac yn cynrychioli adfywiad y genedl.
- Yr Iseldiroedd: Penigan pêr (neu'r Carnasiwn Gwyn). Caiff ei wisgo ar 4 Mai (Diwrnod Dodenherdenking: Coffâd y Meirw) i gofio'r rhai a fu farw ers dechrau'r Ail Ryfel Byd.
- Iwerddon: Lili'r Pasg (Lilium longiflorum). Mae rhai yn Iwerddon yn gwisgo'r lili i goffáu'r rhai a fu farw yng ngwrthryfel y Pasg yn 1916 a'r gwrthdaro dilynol.
