Octopws

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Octopws
Octopus2.jpg
Amrediad amseryddol: Jwrasig canol – presennol
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Mollusca
Dosbarth: Cephalopoda
Is-ddosbarth: Coleoidea
Urdd: Octopoda (Leach, 1818)
Isurddau

(traddodiadol)

Cyfystyron
  • Octopoida
    Leach, 1817[1]

Molwsg corff meddal, gydag wyth braich o urdd yr Octapoda yw'r octopws (ll. octopysau). Mae'r urdd yn cynnwys tua 300 o rywogaethau ac mae wedi'i grwpio o fewn y dosbarth Cephalopoda gyda'r môr-lewys, yr ystifflogod a'r cregyn Pedr. Yn yr un modd â seffalopodau eraill, mae octopws yn ddwyochrol gymesur gyda dau lygad a cheg unigryw yn bwynt canolog i'r wyth braich. Gall y corff meddal newid ei siâp gryn dipyn, gan alluogi octopysau i wasgu trwy fylchau bach. Tra'n nofio, mae'r corff ar y blaen a'r breichiau'n dilyn.

Defnyddir y'r organ a elwir yn seiffon i respiradu ac ymsymud, trwy allyrru jet dŵr. Mae gan octopysau system nerfol gymhleth ac mae ei olwg yn glir ac effeithiol; maent ymhlith yr infertebratau mwyaf deallus ac amrywiol o ran ymddygiad.

Triga octopysau mewn rhanau gwahanol y môr, gan gynnwys riffiau cwrel, dyfroedd dyfnion iawn, ac ar wely'r môr. Mae'r rhan fwyaf o rywogaethau'n tyfu'n gyflym, yn aeddfedu'n gynnar, ac yn fyrhoedlog. Yn y rhan fwyaf o rywogaethau, mae'r gwryw yn defnyddio braich sydd wedi'i hymaddasu'n arbennig i ddosbarthu bwndel o sberm yn uniongyrchol i geudod mantell y fenyw, ac ar ôl hynny mae'n heneiddio ac yn marw, tra bod y fenyw yn dodwy'r wyau mewn ffau ac yn gofalu amdanynt nes eu bod yn deor; ar ôl hynny mae hithau'n marw. Mae eu strategaethau i amddiffyn eu hunain rhag ysglyfaethwyr yn cynnwys diarddel inc du, defnyddio cuddliw, arddangosiadau bygythiad, y gallu i chwipio'n gyflym trwy'r dŵr a chuddio. Mae pob octopws yn wenwynig, ond dim ond yr octopysau torchog (neu fodrwyog) sy'n farwol i bobl.

Mae octopysau'n ymddangos mewn chwedloniaeth fel bwystfilod e.e. y ceffyl dŵr Norwy ac akkorokamui yr Ainŵaid, ac mae'n debyg gorgon y Groegiaid gynt. Mae brwydr ag octopws yn ymddangos yn llyfr Victor Hugo Toilers of the Sea, sy'n ysbrydoli gweithiau eraill fel Octopussy Ian Fleming. Ceir hefyd octopysau yn ymddangos mewn celf erotig Japaneaidd, shunga. Bwyteir yr octopws a chant eu hystyried yn ddanteithfwyd gan bobl mewn sawl rhan o'r byd, yn enwedig Môr y Canoldir a moroedd Asia.

Octopws cyffredin (Octopus vulgaris) yn symud.

Sach inc[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae sach inc yr octopws wedi'i lleoli o dan y chwarren dreulio. Ceir chwarren sy'n cynhyrchu'r inc, ac mae'r sach yn ei storio. Mae'r sach yn ddigon agos at y twndis i'r octopws saethu allan yr inc gyda jet dŵr. Cyn iddo adael y twndis, mae'r inc yn mynd trwy chwarennau sy'n ei gymysgu â mwcws, gan greu blob trwchus, tywyll sy'n caniatáu i'r anifail ddianc rhag ysglyfaethwr.[2] Prif bigment yn yr inc yw melanin, sy'n rhoi ei liw du iddo.[3][4]

Cylch bywyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Atgynhyrchu[golygu | golygu cod y dudalen]

Drawing of a male octopus with one large arm ending in the sexual apparatus
Tremoctopus violaceus gwryw llawndwf gyda hectocotylws

Mae octopysau yn gonocorig ac mae ganddynt un gonad sy'n gysylltiedig â'r selom. Mae ceilliau'r gwrywod ac ofari'r octopws benywaidd yn chwyddo i'r gonocoel ac mae'r gametau'n cael eu rhyddhau yma. Cysylltir y gonocoel i geudod y fantell, ac aiff i fewn drwy'r gonopore.[5] Ceir chwarren optig creu hormonau sy'n achosi i'r octopws sy'n aeddfedu a heneiddio gan ysgogi cynhyrchu gametau. Gall y chwarren gael ei sbarduno gan amodau amgylcheddol megis tymheredd, golau a maeth, sydd felly'n rheoli amseriad atgenhedlu ac einioes.[2][6]

Pan fydd octopysau'n atgenhedlu, mae'r gwryw yn defnyddio braich arbenigol o'r enw hectocotylws i drosglwyddo sbermatofforau (pecynnau o sberm) o'r cephalopod ("pidyn") i geudod mantell y fenyw.[7] Yr hectocotylws mewn rhai rhywogaethau yw'r drydedd fraich dde, sydd a phant bychan siâp llwy a sugnolynnau wedi'u haddasu ar flaen y fraich. Yn y rhan fwyaf o rywogaethau, fodd bynnag, mae'r ffrwythloniad yn digwydd yng ngheudod y fantell ei hun.[5]

Rhychwant oes[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae gan octopysau ddisgwyliad oes cymharol fyr; mae rhai rhywogaethau yn byw cyn lleied â chwe mis. Gall octopws cawraidd y Môr Tawel (Enteroctopus dofleini), un o'r ddwy rywogaeth fwyaf o octopws, fyw am gymaint â phum mlynedd. Cyfyngir oes yr octopws gan atgenhedlu: gall gwrywod fyw am ychydig fisoedd yn unig ar ôl paru, ac mae benywod yn marw yn fuan ar ôl i'w hwyau ddeor. Mae octopws mawr streipiog y Môr Tawel (dim enw gwyddonol ar hyn o bryd) yn eithriad, oherwydd gall atgenhedlu sawl gwaith dros einioes o tua dwy flynedd.[8] Mae organau atgenhedlu octopws yn aeddfedu'n sydyn oherwydd dylanwad hormonaidd y chwarren optig ond mae hyn yn arwain at atal y chwarennau treulio rhag gweithio, gan achosi i'r octopws farw o newyn fel arfer.[9] Credir bod einioes fer yn digwydd i atal gorboblogi rhy gyflym.[10]

Dosbarthiad a chynefin[golygu | golygu cod y dudalen]

An octopus nearly hidden in a crack in some coral
Octopus cyanea yn Kona, Hawaii

Mae octopysau yn byw ym mhob cefnfor, ac mae gwahanol rywogaethau wedi ymaddasu i wahanol gynefinoedd morol. Tra'n ifanc, mae octopysau cyffredin yn byw mewn pyllau llanw bas. Ar riffiau cwrel mae'r octopws dydd Hawaii (Octopus cyanea) yn byw; mae'r gragen Bedr bapur fawr (Argonauta argo) yn drifftio mewn dyfroedd eigionol. Mae'r octopws algâu (Abdopus aculeatus) yn byw yn bennaf mewn gwelyau morwellt ger y lan. Mae rhai rhywogaethau wedi ymaddasu i ddyfnderoedd oer y cefnforoedd e.e. mae'r octopws llwyfraich (Bathypolypus arcticus) i'w ganfod ar ddyfnder o 1,000 metr, ac mae Vulcanoctopus hydrothermalis yn byw ger fentiau hydrothermol ar ddyfnder o tua 2,000 metr.[2] Mae'r rhywogaethau cyrrad yn aml yn nofio'n rhydd ac yn byw mewn dŵr dwfn.[11][12] Ni wyddys am unrhyw rywogaeth sy'n byw mewn dŵr croyw.[13]

Symud[golygu | golygu cod y dudalen]

An octopus swimming with its round body to the front, its arms forming a streamlined tube behind
Mae octopysau'n nofio gyda'u breichiau'n llusgo y tu ôl i'r corff.

Mae octopysau yn symud o gwmpas yn bennaf trwy gropian yn gymharol araf gyda rhywfaint o nofio yn y safle pen-cyntaf. Jet-yriant neu nofio yn ôl yw eu dull cyflymaf o symud, ac yna nofio a chropian.[14] Pan nad ydynt ar frys, maent fel arfer yn cropian ar arwynebau solet neu feddal. Gallant ymestyn sawl braich ymlaen, mae rhai o'r sugnolynnau yn glynu wrth y swbstrad ac mae'r anifail yn tynnu ei hun ymlaen â chyhyrau pwerus ei freichiau, tra gall breichiau eraill wthio yn hytrach na thynnu. Yn ystod cropian, mae cyfradd curiad y galon bron yn dyblu, ac mae angen deg neu bymtheg munud ar yr anifail i atgyfnerthu ar ôl ymarfer corff cymharol fach.[15]

Mae'r rhan fwyaf o octopysau yn nofio trwy allyrru jet dŵr o'r fantell trwy'r seiffon i'r môr. Yr egwyddor ffisegol y tu ôl i hyn yw bod y grym sydd ei angen i gyflymu'r dŵr drwy'r twll yn cynhyrchu adwaith sy'n gyrru'r octopws i'r cyfeiriad arall.[16] Mae'r cyfeiriad y teithio yn dibynnu ar gyfeiriadedd y seiffon. Wrth nofio, mae'r pen yn y blaen ac mae'r seiffon yn cael ei bwyntio'n ôl ond. Mewn dull amgen o nofio, mae rhai rhywogaethau'n gwastatáu eu hunain ac yn nofio gyda'r breichiau wedi'u dal allan i'r ochr, a gall hyn roi lifft a nofio yn gyflymach na'r arfer. Defnyddir jet i ddianc rhag perygl, ond mae'n ffisiolegol aneffeithiol, sy'n gofyn am bwysau mantell mor uchel i atal y galon rhag curo, gan arwain at ddiffyg ocsigen.[14]

Three images in sequence of a two-finned sea creature swimming with an 8-cornered web
Symudiadau o'r rhywogaeth finned Cirroteuthis muelleri

Deallusrwydd[golygu | golygu cod y dudalen]

A captive octopus with two arms wrapped around the cap of a plastic container
Octopws yn agor cynhwysydd trwy ddadsgriwio'r ceuad

Mae octopysau yn ddeallus iawn.[17] Mae arbrofion datrys problemau ymarferol wedi dangos tystiolaeth o gof tymor byr a hirdymor. Nid yw octopysau ifanc yn dysgu dim gan eu rhieni, gan nad yw oedolion yn darparu unrhyw ofal rhiant y tu hwnt i ofalu am eu hwyau nes bod yr octopysau ifanc yn deor.[18]

Mewn arbrofion labordy, mae'n hawdd hyfforddi octopysau i wahaniaethu rhwng gwahanol siapiau a phatrymau. Adroddwyd eu bod yn ymarfer dysgu arsylwi,[19] er bod dilysrwydd y canfyddiadau hyn yn cael ei herio.[17] Gwelwyd octopysau hefyd yn yr hyn a ddisgrifir fel chwarae: rhyddhau poteli neu deganau dro ar ôl tro i gerrynt crwn yn eu acwariwm ac yna eu dal.[20] Mae octopysau'n aml yn torri allan o'u acwariwm ac weithiau i mewn i eraill i chwilio am fwyd.[21][22][23] Mae'r octopws gwythiennol yn casglu masglau (plisg) cnau coco wedi'u taflu, yna'n eu defnyddio i adeiladu lloches, sy'n enghraifft o anifail yn defnyddio offer. [24]

Cuddliw a newid lliw[golygu | golygu cod y dudalen]

Fideo o Octopus cyanea yn symud ac yn newid ei liw, ei faint a llyfnder ei groen

Mae octopysau'n defnyddio cuddliw wrth hela ac i osgoi ysglyfaethwyr. I wneud hyn maen nhw'n defnyddio celloedd croen arbenigol sy'n newid edrychiad y croen trwy addasu ei liw, didreiddedd neu adlewyrchedd. Mae cromatofforau'n cynnwys pigmentau melyn, oren, coch, brown neu ddu; mae gan y rhan fwyaf o rywogaethau dri o'r lliwiau hyn, tra bod gan rai ddau neu bedwar. Celloedd eraill sy'n newid lliw yw iridofforau adlewyrchol a lleucofforau gwyn.[25] Defnyddir y gallu hwn i newid lliw hefyd i gyfathrebu ag octopysau eraill neu i'w rhybuddio o berygl.[2]

Mae tric "craig symudol" yn golygu bod yr octopws yn dynwared craig ac yna'n gogwyddo ar draws y man agored gyda chyflymder sy'n cyfateb i gyflymder y dŵr o'i amgylch.[26]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Coleoidea – Recent cephalopods". Mikko's Phylogeny Archive.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 Mather, Anderson & Wood (2010).
  3. Derby, C. D. (2014). "Cephalopod Ink: Production, Chemistry, Functions and Applications". Marine Drugs 12 (5): 2700–2730. doi:10.3390/md12052700. PMC 4052311. PMID 24824020. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=4052311.
  4. "Finned Deep-sea Octopuses, Grimpoteuthis spp". MarineBio. Cyrchwyd 14 May 2021.
  5. 5.0 5.1 Ruppert, Edward E.; Fox, Richard S.; Barnes, Robert D. (2008). Invertebrate Zoology. Cengage Learning. tt. 363–364. ISBN 978-81-315-0104-7.
  6. Wells, Martin J.; Wells, J. (1972). "Optic glands and the state of the testis in Octopus". Marine Behaviour and Physiology 1 (1–4): 71–83. doi:10.1080/10236247209386890.
  7. Young, R. E.; Vecchione, M.; Mangold, K. M. (1999). "Cephalopoda Glossary". Tree of Life web project.
  8. Hooper, Rowan (Dec 21, 2019). "Octopuses were thought to be solitary until a social species turned up". New Scientist.
  9. Anderson, Roland C.; Wood, James B.; Byrne, Ruth A. (2002). "Octopus Senescence: The Beginning of the End". Journal of Applied Animal Welfare Science 5 (4): 275–283. doi:10.1207/S15327604JAWS0504_02. PMID 16221078. https://www.researchgate.net/publication/7545324.
  10. Wodinsky, Jerome (1977). "Hormonal Inhibition of Feeding and Death in Octopus: Control by Optic Gland Secretion". Science 198 (4320): 948–951. Bibcode 1977Sci...198..948W. doi:10.1126/science.198.4320.948. PMID 17787564.
  11. Marshall Cavendish Corporation (2004). Encyclopedia of the Aquatic World. Marshall Cavendish. t. 764. ISBN 978-0-7614-7424-1.
  12. Jamieson, A.J.; Vecchione, M. (2020). "First in situ observation of Cephalopoda at hadal depths (Octopoda: Opisthoteuthidae: Grimpoteuthis sp.)". Marine Biology 167 (82). doi:10.1007/s00227-020-03701-1.
  13. Norman, Mark (16 January 2013). "Ask an expert: Are there any freshwater cephalopods?". ABC Science. Cyrchwyd 26 April 2017.
  14. 14.0 14.1 Huffard, Christine L. (2006). "Locomotion by Abdopus aculeatus (Cephalopoda: Octopodidae): walking the line between primary and secondary defenses". Journal of Experimental Biology 209 (Pt 19): 3697–3707. doi:10.1242/jeb.02435. PMID 16985187.
  15. Carefoot, Thomas. "Octopuses and Relatives: Locomotion, Crawling". A Snail's Odyssey. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 May 2013. Cyrchwyd 19 April 2017.
  16. Kassim, I.; Phee, L.; Ng, W. S.; Gong, F.; Dario, P.; Mosse, C. A. (2006). "Locomotion techniques for robotic colonoscopy". IEEE Engineering in Medicine and Biology Magazine 25 (3): 40–56. doi:10.1109/MEMB.2006.1636351. PMID 16764431.
  17. 17.0 17.1 Stewart, Doug (1997). "Armed but not dangerous: Is the octopus really the invertebrate intellect of the sea". National Wildlife 35 (2). http://www.nwf.org/News-and-Magazines/National-Wildlife/Animals/Archives/1997/Armed-But-Not-Dangerous.aspx.
  18. "Giant Pacific Octopus (Enteroctopus dofleini) Care Manual" (PDF). AZA (Association of Zoos and Aquariums) Aquatic Invertebrate Taxonomic Advisory Group in association with AZA Animal Welfare Committee. 9 September 2014. Cyrchwyd 31 May 2016.
  19. "Octopus intelligence: Jar opening". BBC News. 25 February 2003. Cyrchwyd 4 February 2014.
  20. Mather, J. A.; Anderson, R. C. (1998). Wood, J. B. (gol.). "What behavior can we expect of octopuses?". The Cephalopod Page.
  21. Wood, J. B; Anderson, R. C (2004). "Interspecific Evaluation of Octopus Escape Behavior". Journal of Applied Animal Welfare Science 7: 95–106. doi:10.1207/s15327604jaws0702_2. PMID 15234886. http://www.thecephalopodpage.org/_pdf/2004Escape.pdf. Adalwyd 11 September 2015.
  22. Lee, Henry (1875). "V: The octopus out of water". Aquarium Notes – The Octopus; or, the "devil-fish" of fiction and of fact. London: Chapman and Hall. tt. 38–39. OCLC 1544491. The marauding rascal had occasionally issued from the water in his tank, and clambered up the rocks, and over the wall into the next one; there he had helped himself to a young lump-fish, and, having devoured it, returned demurely to his own quarters by the same route, with well-filled stomach and contented mind. |access-date= requires |url= (help)
  23. Ainge Roy, Eleanor (14 April 2016). "The great escape: Inky the octopus legs it to freedom from aquarium". The Guardian (Australia).
  24. Finn, J. K.; Tregenza, T.; Norman, M. D. (2009). "Defensive tool use in a coconut-carrying octopus". Current Biology 19 (23): R1069–70. doi:10.1016/j.cub.2009.10.052. PMID 20064403.
  25. Meyers, Nadia. "Tales from the Cryptic: The Common Atlantic Octopus". Southeastern Regional Taxonomic Centre. Cyrchwyd 27 July 2006.
  26. Hanlon, R. T.; Messenger, J. B. (2018). Cephalopod Behaviour (arg. 2nd). Cambridge University Press. tt. 110–111. ISBN 978-0521723701.