Môr lawes

Oddi ar Wicipedia
Photo of squid with prominent eye
Môr-lawes gawraidd, Architeuthis dux

Seffalopod dectroed o'r urdd Teuthoidea gyda chyrff hirgul taprog, llygaid mawr, wyth coes, dau dentacl a phâr o esgyll cynffonnol trionglog neu grwn yw'r fôr-lawes neu sgwid. Fel pob seffalopod arall, mae gan fôr-lawes ben o natur benodol, cymesuredd dwyochrol a mantell. Mae eu cyrff yn feddal gan fwyaf, fel octopysau, ond mae ganddynt gragen fewnol weddilliol ar ffurf pluen a wedi'i gwneud o gitin.

Ymwahanodd y fôr-lawes oddi wrth seffalopodau eraill yn ystod y cyfnod Jwrasig ac mae'n cymryd rôl debyg i bysgod esgyrnog fel ysglyfaethwyr dŵr agored o faint ac ymddygiad tebyg. Maent yn chwarae rhan bwysig yn y we bwyd dŵr agored. Defnyddir y ddau dentacl hir i afael yn yr ysglyfaeth a'r wyth braich i'w ddal a'i rheoli. Yna mae'r pig yn torri'r bwyd yn ddarnau maint addas ar gyfer llyncu. Mae môr-lewys yn nofwyr cyflym, yn symud trwy jet-yriant, ac yn lleoli eu hysglyfaeth yn bennaf gan ddefnyddio eu golwg. Maent ymhlith y mwyaf deallus o anifeiliaid di-asgwrn-cefn, ac mae grwpiau o fôr-lawys Humboldt wedi eu gweld yn hela ar y cyd. Mae morgwn, pysgod eraill, adar y môr, morloi a morfilogion yn eu bwyta, yn arbennig morfilod sberm.

Gall môr-lewys newid lliw fel cuddliw neu i anfon signalau. Mae rhai rhywogaethau yn fioymoleuol, ac yn defnyddio eu bywoleuni fel cuddliw gwrth-oleuo, tra gall llawer o rywogaethau ryddhau cwmwl o inc i dynnu sylw ysglyfaethwyr.

Caiff môr-lewys eu bwyta gan bobl a cheir pysgodfeydd masnachol yn Japan, Môr y Canoldir, de-orllewin Cefnfor yr Iwerydd, dwyrain y Cefnfor Tawel a mannau eraill. Fe'u defnyddir mewn bwydydd trwy'r byd i gyd, a gelwir hwy yn aml yn ‘calamari’. Mae môr-lewys wedi ymddangos mewn llenyddiaeth ers yr Henfyd clasurol, yn enwedig mewn straeon am fôr-lewys gawraidd a bwystfilod môr.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]