Bywoleuni
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
![]() Magïen (Photinus pyralis) yn hedfan ac yn tywynnu. | |
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | proses fiolegol, lliw yn y byd natur ![]() |
Math | cell metabolism, luminescence ![]() |
![]() |
Cynhyrchiad ac allyrriant goleuni gan organeb byw yw bywoleuni,[1] bywdywynnu[1] neu bioymoleuedd.[2] Ffurf ar gemoleuni ydyw, ac mae'n digwydd gan amlaf mewn fertebrata ac infertebrata'r môr, a hefyd ffyngau, micro-organebau megis bacteria, ac infertebrata'r tir megis pryfed tân. Mewn ambell anifail, cynhyrchir y golau gan organebau symbiotig megis bacteria Vibrio.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ 1.0 1.1 Geiriadur yr Academi, [bioluminescence].
- ↑ bioymoleuedd. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 12 Mehefin 2017.
Dolen allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
- Trafodaeth am fywoleuni ar BBC Radio Cymru (24 Medi 2016)