Neidio i'r cynnwys

Cneuen goco

Oddi ar Wicipedia
Cneuen goco
Enghraifft o:tacson Edit this on Wikidata
Mathplanhigyn defnyddiol Edit this on Wikidata
Safle tacsonrhywogaeth Edit this on Wikidata
Rhiant dacsonCocos Edit this on Wikidata
DechreuwydMileniwm 56. CC Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/0djtd edit this on wikidata
Thesawrws y BNCF32713 edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cneuen goco wedi'i thorri yn hanner.
Cocos nucifera
Cefnffordd cnau coco

Mae'r goeden cnau coco (Cocos nucifera) yn aelod o deulu'r balmwydden (Arecaceae) a'r unig rywogaeth fyw o'r genws Cocos.[1] Gall y term "cneuen goco" gyfeirio at y balmwydden gnau coco, yr hedyn, neu'r ffrwyth, sydd yn fotanegol yn aeronen, nid cneuen. Mae'r term yn deillio o'r gair 'coco' ym Mhortiwgaleg a Sbaeneg yr 16g, a oedd yn golygu "pen" neu "benglog". Roedd yn cael ei ddefnyddio fel enw am fod tri phant ar gragen y gneuen goco yn debyg i nodweddion wyneb.[2]

Mae cnau coco yn gallu cael eu defnyddio at nifer o bwrpasau, yn amrywio o fwyd i gosmetigau.[3] Mae'r cig sydd yn yr hedyn aeddfed yn rhan gyson o ddeiet nifer o bobl yn y trofannau a'r isdrofannau. Mae cnau coco yn wahanol i ffrwythau eraill am fod eu endosberm yn cynnwys llawer o hylif clir,[3] sy'n cael ei alw'n "llaeth",[4] a phan yn anaeddfed, gellir ei gynaeafu a'i gadw fel "dwr" neu "sudd".

Gall cnau coco aeddfed gael eu defnyddio fel hadau bwytadwy, neu eu prosesu i gael olew neu laeth planhigyn o'r cig, golosg o'r gragen galed, a rhisgl o'r plisgyn edafeddog. Mae cig cnau coco sych yn cael ei alw'n copra, ac mae'r olew a'r llaeth yn aml yn cael eu defnyddio wrth goginio – ffrio yn arbennig – yn ogystal â mewn sebonau a cosmetigau. Gellir defnyddio'r cregyn caled, y plisgyn edafeddog a'r dail hirion fel deunydd ar gyfer amrywiaeth o gynhyrchion addurniedig a dodrefn. Mae gan y gneuen goco arwyddocad diwylliannol a chrefyddol mewn rhai cymdeithasau, yn arbennig yn India, lle mae'n cael ei ddefnyddio mewn defodau Hindŵaidd.[5]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Royal Botanic Gardens, Kew. Cocos. World Checklist of Selected Plant Families.
  2. Dalgado, Sebastião. "Glossário luso-asiático". google.com. t. 291. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 Mehefin 2016.
  3. 3.0 3.1 "Cocos nucifera L. (Source: James A. Duke. 1983. Handbook of Energy Crops; unpublished)". Purdue University, NewCROP – New Crop Resource. 1983. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Mehefin 2015. Cyrchwyd 4 June 2015.
  4. "Coconut botany". Agritech Portal, Tamil Nadu Agricultural University. Rhagfyr 2014. Cyrchwyd 14 Rhagfyr 2017.
  5. Patil, Vimla. "Coconut – Fruit Of Lustre In Indian Culture". eSamskriti. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 Mai 2016. Cyrchwyd 18 Mai 2016.