Nodyn:Pigion/Wythnos 11

Oddi ar Wicipedia
Pigion
Llun enwog A.C. Michael yn dangos Owain yn arwain ei fyddin i'r gad.
Llun enwog A.C. Michael yn dangos Owain yn arwain ei fyddin i'r gad.

Yn ddisgynydd i dywysogion Powys, Owain Glyn Dŵr neu Owain ap Gruffudd (1354-c.1416) oedd y Cymro olaf i gael ei goroni'n Dywysog Cymru. Ymddangosodd comed yn ystod misoedd Chwefror a Mawrth 1402, a ystyrid gan lawer yn argoel o fuddugoliaeth Owain dros Loegr, ac felly, rhoddwyd iddo'r llysenw Y Mab Darogan.

Etifeddodd arglwyddiaethau Glyndyfrdwy a Chynllaith gyda'i brif ganolfan yn Sycharth, ger Llansilin, Powys. Wedi iddo astudio'r gyfraith yn Llundain, a gwasanaethu gyda lluoedd Henry Bolingbroke, ym Medi 1400, flwyddyn ar ôl i Harri feddiannu gorsedd Lloegr, daeth ffrae rhwng Glyndŵr a'i gymydog Reginald Grey, 3ydd Barwn Grey de Ruthyn i'w anterth, ffrae a ddatblygodd yn gyflym i fod yn wrthryfel dros annibyniaeth Cymru. mwy... 


Mwy o bigion · Newidiadau diweddar

Erthyglau dewis