Michael Wright

Oddi ar Wicipedia
Michael Wright
Gwybodaeth bersonol
Enw llawnMichael Wright
LlysenwMichel
Dyddiad geni (1941-03-25) 25 Mawrth 1941 (83 oed)
Manylion timau
DisgyblaethFfordd
RôlReidiwr
Math seiclwrSbrint
Tîm(au) Amatur
Tîm(au) Proffesiynol
1962-1966
1967
1968-1971
1972-1973
1974
1975
1976
Wiel's-Groene Leeuw
Tibetan-Groene Leeuw-Pull Over Centrale
Bic
Gitane
Sonolor-Gitane
Gero-Jaga Kercka
Ijsboerke-Colnago
Prif gampau
3 Cymal Tour de France
4 Cymal Vuelta a España
Golygwyd ddiwethaf ar
4 Hydref 2007

Cyn-seiclwr proffesiynol Seisnig ydy Michael Michel Wright (ganwyd 25 Mawrth 1941, Bishop's Stortford, Swydd Hertford), roedd yn rasio'n broffesiynol rhwng 1962 ac 1976. Enillodd gymalau yn y Tour de France a'r Vuelta a España a chynyrchiolodd Brydain mewn sawl Pencampwriaeth y Byd.

Dyddiau cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd Wright yn Bishop's Stortford, Swydd Hertford. Bu farw ei dad yn yr Ail Ryfel Byd ac ail-briododd ei fam i filwr Belgaidd. Symudodd y teulu i wlad Belg pan oedd Wright ond yn dri oed a thyfodd ef i fyny yn Liège.

Chwaraeon cyntaf Wright oedd Pêl-droed ond pan fu farw ei llys-dad gan adael y teulu yn brin o arian, trodd Wright tuag at seiclo fel ffordd mwy enillfawr o ddefnyddio ei dalent athletig.

Iaith cyntaf Wright oedd Ffrangeg, ond er iddo gynyrchioli Prydain yn y Tour de France a sawl Pencampwriaeth y Byd, ychydig iawn o Saesneg oedd yn ei afael. Yn ystod gaeaf 1967-1968, cymerodd ddosbarthiadau gyda'r nos er mwyn gwella ei Saesnag; yn barod ar gyfer cystadlu yn nhîm Prydain. Yn 2006, cyfaddefodd mewn cyfweliad gyda cylchgrawn Procycling fod ei Saesneg yn wael.

Dywedodd wrth Procycling ei fod wedi manteisio ar ei genediglrwydd Prydeinig gan nad oedd erioed yn ddigon da i gynyrchioli gwlad Belg. Roedd bod yn Brydeinig yn rhoi'r cyfle iddo gystadlu ym Mhencampwriaethau'r Byd ac yn y Tour de France yn 1967 ac 1968. ROedd yn reidio gyda baner yr undeb wedi ei wnio i lewys ei grys.

Pan ddaeth ei yrfa seiclo i ben, gweithiodd fel Gwerthwr dros gwmni hufen iâ Ijsboerke, roedd y cwmni'n noddi ei dîm seiclo proffesiynol ei hun ar un adeg.

Gyrfa Broffesiynol[golygu | golygu cod]

Roedd Wright yn ddyn a oedd yn rhy fawr i gystadlu yn y mynyddoedd, ond bu'n orffenwr cyflym o rŵp bychan.

Tour de France[golygu | golygu cod]

Reidiodd Wright y Tour de France 8 gwaith gan orffen yn 24ydd yn 1965 ac ennill 3 cymal. Ynghyd â Barry Hoban, darparodd Wright gyfnod mwyaf cyson Prydain gyda cyfres o fuddugoliaethau mewn cymalau yn ystod diwedd yr 1960au a'r 1970au cynnar. Bu'n aelod o dîm Prydain yn 1967 - y flwyddyn a fu ei gyd-aelod tîm, Tommy Simpson farw ar y Mont Ventoux.

Canlyniadau yn y Tour:

Vuelta a España[golygu | golygu cod]

Enillodd Wright 4 cymal o'r Vuelta a España: 2 yn 1968 a 2 yn 1969. Yn 1968 roedd yn chweched yn y gystadleuaeth Pwytiau (ar gyfer sbrintio), ac yn 1969 daeth yn 5ed yn y canlyniadau terfynol, 2il yn y gystadleuaeth Pwytiau a gwisgodd crys arweinydd y ras am ddeu ddydd yn ystod y ras.

Buddugoliaethau mewn cymalau:

Prif ganlyniadau[golygu | golygu cod]

1961 - Amatur
21 o fuddugoliaethau
1962 - Blwyddyn cyntaf fel reidiwr proffesiynol
1af Grand Prix du Brabant Wallon
1963
1af Ras Hoegaarden
1964
1af Tour du Condroz
1af Grand Prix de Denain
1af Critéruim de Visé
1af Bruxelles-Nandrin
13ydd Pencampwriaethau Ras Ffordd y Byd
1af Cymal 2, Tour du Nord
56ed Tour de France (2il ar gymal 1 ac 11 a 3ydd ar gymal 10)
1965
1af Hoeilaart-Diest-Hoeilaart
1af Criterium of London
5ed Liège-Bastogne-Liège
24ydd Tour de France (1af ar gymal 20, 2il ar gymal 3, 3ydd ar gymal 13, 5ed yn y gystadleuaeth Pwytiau)
2il Cymal 4, Tour of Belgium
1966
1af Bruxelles-Verviers
4ydd Henninger Turm
2il Cymal 2, Grand Prix du Midi Libre
3ydd Cymal 3, Tour of Holland
2il Cymal 3, Volta a Catalunya (hefyd 3ydd ar gymal 8 a 3ydd yn y gystadleuaeth Pwytiau)
1967
1af Vaux Grand Prix
1af Grand Prix de Pamel
3ydd Manx Trophy
6ed Omloop "Het Volk"
1af Cymal 7, Tour de France
1968
1af Flèche Hesbignonne
1af Critérium d'Hasselt
5ed Tour de l'Oise
1af Cymal 1, Tour du Luxembourg
14ydd Vuelta a España (1af ar gymal 2 a 4, 2il ar gymal 9, 3ydd yn y gystadleuaeth Pwytiau)
28fed Tour de France (2il ar gymal 21, 3ydd ar gymal 15)
2il Cymal1, Paris-Nice
1969
1af Tour du Condroz
5ed Vuelta a España (1st stages 1 and 13, 2nd stage 12, 2nd on points classification)
2il Cymal 4, Grand Prix du Midi Libre (3rd stage 2)
1af Cymal 1, Vuelta al Pais Vasco - G.P Eibar (3ydd ar gymal 4)
1af Cymal 1 a 4, Tour du Nord
1970
1af Cymal 3, Volta a Catalunya (3ydd ar gymal 8)
39fed Vuelta a España (3rd stage 3)
1972
3ydd Cymal 2, Grand Prix du Midi Libre
2il Cymal 1 & 9, Tour de France
1973
1af Cymal 10, Tour de France
1974
1af Circuit du Port de Dunkerque
2il Four Days of Dunkirk
3ydd Cymal 2, Tour du Luxembourg
1975
2il Circuit de Wallonie
1976
1af Circuit de Niel

Dolenni Allanol[golygu | golygu cod]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • W.Fotheringham, (2005), Roule Britannia: A History of Britons in the Tour de France, Llundain: Yellow Jersey, ISBN 0-224-07425-3