Neidio i'r cynnwys

Barry Hoban

Oddi ar Wicipedia
Barry Hoban
Dyddiad geni5 Chwefror 1940(1940-02-05)
Dyddiad marw19 Ebrill 2025(2025-04-19) (85 oed)
Manylion timau
DisgyblaethFfordd
RôlReidiwr
Golygwyd ddiwethaf ar
5 Hydref 2007

Seiclwr ffordd Seisnig oedd Barry Hoban (5 Chwefror 194019 Ebrill 2025).[1] Bu'n rasio yn yr 1960au a'r 1970au, ac mae'n dal recordiau am y nifer fwyaf o fuddugoliaethau mewn cymalau o'r Tour de France gan seiclwr Prydeinig, gan ennill wyth rhwng 1967 a 1975, ac am y nifer fwyaf o'r Tour a gyflawnwyd gan seiclwr Prydeinig, gan orffen 11 o'r 12 a ddechreuodd rhwng 1965 ac 1978. Ef hefyd, yw'r unig Brydeinwr i ennill dau gymal canlynol o'r Tour.

Gyrfa Cynnar

[golygu | golygu cod]

Dechreuodd Hoban rasio yn 1955, ac erbyn diwedd y flwyddyn roedd yn cystadlu yn erbyn Tom Simpson mewn Treialon Amser. Dwy flynedd yn ddiweddarach, daeth yn bedwerydd ym mhencampwriaeth dringo allt y British League of Racing Cyclists. Er i'w ddringo fod yn gryfder iddo yn gynnar yn ei yrfa, ei sbrintio oedd iw sefydlu fel un o sbrintwyr gorau Ewrop.

Cafodd Hoban ei ysbrydoli gan lwyddiant Ewropeaidd ei gyd-Efrogwyr, Brian Robinson a Tom Simpson, aeth i Ffrainc yn 1962, trodd yn broffesiynol dyflwydd yn ddiweddarach ac arhosodd dramor am 16 mlynedd arall.

Buddugoliaethau mewn cymalau'r Tour de France

[golygu | golygu cod]

Buddugoliaethau eraill Nnodweddiadol

[golygu | golygu cod]

Enillodd Hoban bedwar cymal o'r Vuelta a España yn 1964 a enillodd y Gent-Wevelgem yn 1974. Yng nghlasuron y ffordd, ei ganlyniad orau oedd trydydd yn y Liège-Bastogne-Liège 1969 a Paris-Roubaix 1972. Gwariodd y rhanfwyaf o'i amser tuag at ddiwedd ei yrfa yn nhir mawr Ewrop, dychwelodd i Brydain i gystadlu ar adegau gan ennill ras Llundain-Bradford a dod yn ail ym Mhencampwriaethau Cenedlaethol Ras Ffordd Proffesiynol Prydain yn 1979, enillodd hefyd Grand Prix Manceinion yn 1980.

Gwneuthurwyd o leiaf un beic gyda enw Hoban arni.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Hood, Edmond (2025-04-19). "Barry Hoban RIP". PezCycling News (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-04-20.
Baner LloegrEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.