Margaret Lindsay Williams
| Margaret Lindsay Williams | |
|---|---|
Williams yn 1920 wrthi'n paentio llun olew o Arlywydd UDA, Warren G. Harding. | |
| Ganwyd | 18 Mehefin 1888 Caerdydd |
| Bu farw | 4 Mehefin 1960 Llundain |
| Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | arlunydd |
| Adnabyddus am | Warren G. Harding (llun) |
| Arddull | portread |
Arlunydd benywaidd o Gymru oedd Margaret Lindsay Williams (18 Mehefin 1888 – 4 Mehefin 1960).[1]
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganwyd Margaret Lindsay Williams yng Nghaerdydd yn 1888 a symudodd i’r Barri yn fuan wedyn. Aeth i astudio yn yr Academi Frenhinol yn Llundain. Hi oedd y fyfyrwraig ieuengaf yno ar y pryd, a’r artist cyntaf o Gymru i ennill y fedal aur yno. Un o’i darnau pwysig cyntaf oedd y ‘Gwasanaeth Cenedlaethol Cymru yn Abaty San Steffan’, sydd bellach yn cael ei harddangos yn Llys y Goron Caerdydd.[2]
O'r 1920 ymlaen canolbwyntiodd ar bortreadau a daeth yn nodedig am beintio lluniau o'r dosbarth uchaf o fewn cymdeithas.
Fe wnaeth hi arlunio’r Brenin Siôr V, y Frenhines Mari, ac ar bum achlysur gwahanol, y Frenhines Elizabeth II. Cafodd hi hefyd ei chomisiynu i arlunio portreadau plentyndod o’r Tywysog Charles, a’i chwaer y Dywysoges Anne.
Ar y cyd â’i gwaith brenhinol, fe wnaeth hi arlunio enwogion arall o’i chyfnod, gan gynnwys y Prif Weinidog David Lloyd George a’r cyfansoddwr Cymreig, Ivor Novello.
Yn rhyngwladol, fe baentiodd bortreadau o arlywydd yr UDA, Warren Harding, y dyn busnes Henry Ford, ac Alexandra o Ddenmarc.
Mae casgliad pwysig o luniau ganddi wedi cael eu canfod yn Tŷ Dyffryn, ym Mro Morgannwg. Cafodd un o'r luniau, "The Imprisoned Soul", ei baentio ym 1920.[3]
Yn ystod ei hoes cafodd glod a chyhoeddusrwydd mawr, ond ers ei marwolaeth ychydig iawn o sôn a fu amdani.[4]
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Nid oedd Margaret yn briod. Bu farw yn ei chartref yn St John’s Wood yn Llundain yn 1960.
Fe'i claddwyd ym mynwent Merthyr Dyfan yn y Barri, ond nid oes cofnod penodol o’i hunion fan gorffwys olaf. Yn 2024 aeth Dr. Jonathan Hicks ati i lansio apêl er mwyn codi cofeb iddi. Cododd yr apêl dros £2,000 er mwyn comisiynu carreg bedd gan CJ Ball Memorial Masons yn y Barri. Datgelwyd y garreg fedd mewn seremoni arbennig ar ddydd Sadwrn, 18 Meheifin 2025, diwrnod ei phen-blwydd. Roeddd Maer y Barri yno, ynghyd â chwe aelod o deulu’r artist, a deithiodd o Ganada.[2]
Rhai arlunwyr eraill o'r un cyfnod
[golygu | golygu cod]Rhestr Wicidata:
| Erthygl | dyddiad geni | man geni | dyddiad marw | man marw | galwedigaeth | maes gwaith | tad | mam | priod | gwlad y ddinasyddiaeth |
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
| Caroline Bardua | 1781-11-11 | Ballenstedt | 1864-06-02 | Ballenstedt | arlunydd perchennog salon |
Duchy of Anhalt | ||||
| Fanny Charrin | 1781 | Lyon | 1854-07-05 | Paris | arlunydd | Ffrainc | ||||
| Hannah Cohoon | 1781-02-01 | Williamstown | 1864-01-07 | Hancock | arlunydd arlunydd |
paentio | Unol Daleithiau America | |||
| Lucile Messageot | 1780-09-13 | Lons-le-Saunier | 1803-05-23 | arlunydd bardd llenor |
Jean-Pierre Franque | Ffrainc | ||||
| Lulu von Thürheim | 1788-03-14 1780-05-14 |
Tienen | 1864-05-22 | Döbling | llenor arlunydd |
Joseph Wenzel Franz Thürheim | ||||
| Margareta Helena Holmlund | 1781 | 1821 | arlunydd | Sweden | ||||||
| Maria Margaretha van Os | 1780-11-01 | Den Haag | 1862-11-17 | Den Haag | arlunydd drafftsmon |
paentio | Jan van Os | Susanna de La Croix | Brenhiniaeth yr Iseldiroedd | |
| Mariana De Ron | 1782 | Weimar | 1840-10-06 | Paris | arlunydd | Carl von Imhoff | Louise Francisca Sophia Imhof | Sweden |
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan theartofpainting.be; adalwyd Rhagfyr 2016.
- ↑ 2.0 2.1 "Carreg fedd o'r diwedd i un o arlunwyr 'gorau Cymru' ar ei phenblwydd". newyddion.s4c.cymru. 2025-06-21. Cyrchwyd 2025-06-21.
- ↑ "Canfod lluniau coll artist mewn plasty ym Mro Morgannwg". BBC. 9 Mehefin 2018.
- ↑ Angela Gaffney (1999). Wedded to her Art, Margaret Lindsay Williams. University of Wales Centre for Advanced Welsh and Celtic Studies. ISBN 0947531807.
Dolennau allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan biography.com Archifwyd 2019-04-23 yn y Peiriant Wayback
