Maes Awyr Keflavík
| Math | maes awyr rhyngwladol, maes awyr, erodrom traffig masnachol |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | Keflavík |
| Agoriad swyddogol | 1943 |
| Sefydlwyd | |
| Cylchfa amser | Atlantic/Reykjavik |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Reykjanesbær, Suðurnesjabær |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 171 troedfedd |
| Cyfesurynnau | 63.985°N 22.6056°W |
| Nifer y teithwyr | 7,776,147 |
| Rheolir gan | Isavia |
![]() | |
| Perchnogaeth | Isavia |
Maes Awyr Keflavík (Islandeg: Keflavíkurflugvöllur; cod awyrfa: IATA: KEF ICAO: BIKF), a adnabir hefyd fel Maes Awyr Reykjavík–Keflavík, yw'r awyrfa fwyaf yng Ngwlad yr Iâ a phrif ganolfan trafnidiaeth ryngwladol y wlad. Mae'r awyrfa 3.1 km i'r gorllewin o dref Keflavík a 50 km i'r de orllewin o'r brifddinas,Reykjavík. Lleolir hi ger dref Keflavík.
Mae gan y maes awyr dair hedfa (runway); mae dau yn cael eu defnyddio. Maint y maes awyr yw oddeutu 25 km sgwâr. Mae mwyafrif yr hediadau sy'n mynd i mewn ac allan o Wlad yr Iâ yn mynd drwy'r awyrfa yma.
Y prif gwmnïau hedfan yno yw Icelandair a WOW air, ill dau yn defnyddio'r maes awyr fel ei prif ganolfan. Defnyddir y maes awyr bron yn unswydd ar gyfer hediadau rhyngwladol. Bydd y rhan fwyaf o hediadau domestig yr ynys yn hedfan o Faes Awyr Reykjavík sydd 3 km o ganol y brifddinas. Ceir hediadau tymhorol o dref Akureyri yng ngogledd yr ynys i Keflavík. Gweinyddir Maes Awyr Keflavík gan Isavia, menter llywodraethol.
Hanes
[golygu | golygu cod]
Adeiladwyd y maes awyr gan yr Unol Daleithiau yn ystod yr Ail Ryfel Byd gan ddisodli hedfa (landing strip) bychan Brydeinig oedd i'r gogledd yn Garður. Adeiladwyd dau hedfa a enwyd ar ôl dau beilot bu farw yn y rhyfel, George Meeks a Patterson. Caewyd hedfa Patterson ar ôl y Rhyfel ond cyflwynwyd 'Meeks Field' i reolaeth yr Islandwyr gan ei hail-enwi yn Orsaf Awyr y Llynges, Keflavik (Naval Air Station Keflavik) ar ôl y dref gyfagos. Ar 5 Mai 1951, cyflwynodd llu filwrol yr Unol Daleithiau y maes awyr i Wlad yr Iâ fel rhan o gytundeb amddiffyn rhwng y ddwy wlad.[1]
Roedd presenoldeb lluoedd milwrol NATO ar yr ynys, y sgil Cytundeb Amddiffyn 1951 yn ddadleuol i nifer o drigolion Gwlad yr Iâ gan nad oedd gan y genedl lu arfog cynhenid heblaw am Wylwyr y Glannau y wlad.[2] Yn ystod yr 1960au a 70au cynhaliwyd ralïau i brotestio yn erbyn presenoldeb filwrol yr Unol Daleithiau, gyda'r maes awyr yn bwynt ffocws amlwg iawn. Byddai protest flynyddol yn golygu cerdded y 50om ar hyd y ffordd o'r brifddinas, Reykjavík i Keflavík. Byddai'r protestwyr yn llafarganu, "Ísland úr NATO, herinn burt" (llythrennol: Gwlad yr Iâ allan o NATO, i ffwrdd gyda'r militari"). Nid oedd y protestiadau'n llwyddiannus. Ymysg y protestwyr oedd Vigdís Finnbogadóttir, a ddaeth, maes o law, yn Arlywydd cyntaf Gwlad yr Iâ.[3]
Oherwydd natur filwrol y maes awyr, hyd nes 1987, roedd yn rhaid i deithwyr a thwristiaid sifil basio drwy dollau milwrol yn y derfynfa nes i'r derfynfa gyhoeddus gael ei hagor.
Roedd y ddau hedfa 3,000 metr o hyd a 61 metr o led yn ddigon mawr i groesawu 'Space Shuttle' NASA ac ar 29 Mehefin 1999 glaniodd yr awyren Concorde wedi hedfan o Faes Awyr Heathrow yno.
Ail-ddyfodiad Filwrol
[golygu | golygu cod]Yn 2016 dechreuodd yr Unol Daleithiau drefniadau i ail-sefydlu canolfan yn Keflavík.[4] ac yn 2017 cyhoeddodd Unol Daleithiau ei bwriad i adeiladu canolfan awyr fodern ar y penrhyn[5] er gwaethaf hanes o wrthwynebiad gan nifer o Islandwyr i strategaeth filwrol yr Unol Daleithiau ar yr ynys.
Adnoddau
[golygu | golygu cod]Enwir terfynfa'r maes awyr ar ôl Leif Erikson, (Flugstöð Leifs Eiríkssonar) un o'r Ewropeaid cyntaf i lanio yng Ngogledd America. Agorwyd hi ym mis Ebrill 1987[6] gan rannu traffig sifil cyhoeddus oddi ar y ganolfan filwrol. Ehangwyd hi yn 2001 wrth agor Adeilad y De, er mwyn ateb gofynion Cytundeb Schengen, ac ehangwyd arni yn 2007. Estynnwyd Adeilad y Gogledd hefyd yn 2007.
Ceir siopau di-doll yn y lolfa gadael ac ymadael. Yn 2016 ehangwyd y terfynfa ymhellach.[7] ac agorwyd 7 gât.[8] Mae llwyddiant y maes awyr a Gwlad yr Iâ fel cyrchfan dwristiaeth yn golygu bod bellach, hefyd, gynlluniau ar gyfer agor trydydd hedfa.[9]
Cyrchfanau mwyaf prysur
[golygu | golygu cod]| Safle | Awyrfa | Teithwyr |
|---|---|---|
| 1. | 653,508
| |
| 2. | 437,182
| |
| 3. | 309,827
| |
| 4. | 301,713
| |
| 5. | 271,041
| |
| 6. | 266,689
| |
| 7. | 203,466
| |
| 8. | 167,847
| |
| 9. | 144,682
| |
| 10. | 125,463
| |
| 11. | 123,367
| |
| 12. | 118,793
| |
| 13. | 110,608
| |
| 14. | 110,166
| |
| 15. | 110,107
| |
| 16. | 103,140
| |
| 17. | 87,259
| |
| 18. | 74,719
| |
| 19. | 65,900
| |
| 20. | 59,687
|
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "U.S. Government Debated Secret Nuclear Deployments in Iceland". National Security Archive. George Washington University. 15 August 2016. Cyrchwyd 10 December 2016.
- ↑ Kochis, Daniel; Slattery, Brian (21 Jun 2016). "Iceland: Outsized Importance for Transatlantic Security". The Heritage Foundation. Cyrchwyd 9 Jan 2018.
- ↑ Jeffreys-Jones, Rhodri (1997). Changing Differences: Women and the Shaping of American Foreign Policy, 1917-1994. Rutgers University Press. t. 168. ISBN 978-0813524498.
- ↑ Pettersen, Trude (10 Feb 2016). "U.S. military returns to Iceland". The Barents Observer. Cyrchwyd 9 Jan 2018.
- ↑ Snow, Shawn (17 Dec 2017). "US plans $200 million buildup of European air bases flanking Russia". Air Force Times. Cyrchwyd 9 Jan 2018.
- ↑ Saga og menning Archifwyd 2018-02-22 yn y Peiriant Wayback, Keflavik Airport website.
- ↑ "Hugmyndir um að reisa nýja flugstöð" (yn Icelandic). ruv. Cyrchwyd 13 February 2013.CS1 maint: unrecognized language (link)
- ↑ "Metfjöldi farþega á Keflavíkurflugvelli í fyrra – Mikil aukning fjórða árið í röð". Isavia.is. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-01-03. Cyrchwyd 2018-03-30.
- ↑ Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 981: attempt to index field 'inv_local_long' (a nil value).
- ↑ "Database – Eurostat". ec.europa.eu. Cyrchwyd 24 May 2017.
