Môr-wennol fach
| Môr-wennol fach Sterna albifrons | |
|---|---|
| Statws cadwraeth | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Charadriiformes |
| Teulu: | Laridae |
| Genws: | Sternula[*] |
| Rhywogaeth: | Sternula albifrons |
| Enw deuenwol | |
| Sternula albifrons | |
| Dosbarthiad y rhywogaeth | |
Aderyn a rhywogaeth o adar yw Môr-wennol fach (sy'n enw benywaidd; enw lluosog: môr-wenoliaid bach) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Sterna albifrons; yr enw Saesneg arno yw Little tern. Mae'n perthyn i deulu'r Gwylanod (Lladin: Laridae) sydd yn urdd y Charadriiformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yng Nghymru.
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn S. albifrons, sef enw'r rhywogaeth.[2] Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod ar arfordir Asia, Ewrop, Affrica ac Awstralia. Fel y rhan fwyaf o'r môr-wenoliaid, maent yn nythu gyda'i gilydd, weithiau gannoedd neu filoedd o adar, ar yr arfordir neu ar ynysoedd. Yn y gaeaf, mae'n symud tua'r de, ac yn cyrraedd cyn belled a De Affrica ac Awstralia.
Mae'r fôr-wennol yn aderyn gymharol fechan, 21–25 cm o hyd a 41–47 cm ar draws yr adenydd.
Is-rywogaethau
[golygu | golygu cod]Ceir tair is-rywogaeth, S. a. albifrons yn Ewrop, Gogledd Affrica a gorllewin Asia, S. a. guineae yng ngorllewin a chanolbarth Affrica, a S. a. sinensis yn nwyrain Asia a gogledd a dwyrain Awstralia.
Cymru
[golygu | golygu cod]Ar un adeg roedd y fôr-wennol fechan yn aderyn gweddol gyffredin o gwmpas arfordir Cymru yn yr haf, ond erbyn hyn dim ond mewn un lle mae'n nythu yng Nghymru, sef Gronant yn y gogledd-ddwyrain.
Teulu
[golygu | golygu cod]Mae'r fôr-wennol fach yn perthyn i deulu'r Gwylanod (Lladin: Laridae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:
Rhestr Wicidata:
| rhywogaeth | enw tacson | delwedd |
|---|---|---|
| Chroicocephalus bulleri | Chroicocephalus bulleri | |
| Chroicocephalus cirrocephalus | Chroicocephalus cirrocephalus | |
| Gwylan arian | Chroicocephalus novaehollandiae | |
| Gwylan benddu | Chroicocephalus ridibundus | |
| Gwylan benfrown De America | Chroicocephalus maculipennis | |
| Gwylan benfrown India | Chroicocephalus brunnicephalus | |
| Gwylan Bonaparte | Chroicocephalus philadelphia | |
| Gwylan Hartlaub | Chroicocephalus hartlaubii | |
| Gwylan ylfinfain | Chroicocephalus genei | |
| Gwylan yr Andes | Chroicocephalus serranus |

Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Archifwyd 2004-06-10 yn y Peiriant Wayback Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd; adalwyd 30 Medi 2016.
- ↑ Gwefan Avibase; adalwyd 3 Hydref 2016.








