Louis Feutren

Oddi ar Wicipedia
Louis Feutren
Ganwyd1922 Edit this on Wikidata
Bu farw2010 Edit this on Wikidata
Galwedigaethathro iaith Edit this on Wikidata

Llydawr oedd yn aelod o Gwenn ha Du ac Uned Perrot oedd Louis Feutren (19222010). Fel aelod o Uned Perrot, mudiad cenedlaetholgar Llydewig, cydweithiodd â'r Schutzstaffel yn ystod meddiannaeth Ffrainc gan yr Almaen yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Wedi diwedd y rhyfel wnaeth ffoi o Ffrainc i Gymru, ac yna i Weriniaeth Iwerddon lle bu farw.[1]

O 1957 i 1985, gweithiodd yn athro Ffrangeg yn ysgol St Conleth's yn ne Dulyn. Fe'i cyhuddwyd gan gyn-ddisgyblion o ddefnyddio cosbau eithafol yn yr ysgol.[2]

Ffrae'r Llyfrgell Genedlaethol[golygu | golygu cod]

Yn 2011 derbynodd Llyfrgell Genedlaethol Cymru gymynrodd o £300,000 a nifer o ddogfennau a thapiau o Feutren, gan beri ffrae dros foesoldeb derbyn arian gan unigolyn a wnaeth cydweithio â'r Natsïaid. Derbynwyd yn ôl cytundeb y Siarter Frenhinol a pholisi casglu'r Llyfrgell, sy'n nodi ei rôl i gasglu a sicrhau mynediad cyhoeddus i ddeunydd Celtaidd: dywedodd y bydd archif Feutren yn amlygu bywyd aelod o ddau grŵp genedlaetholgar Lydewig yn ystod yr Ail Ryfel Byd, a bydd rhan o'r rhodd ariannol yn cyllido prosiectau yn ymwneud ag effaith rhyfel a ffasgaeth.[1]

Yn ôl ymchwiliad gan y Llyfrgell Genedlaethol, ni elwodd Feutren yn ariannol o'i weithgareddau fel aelod o Uned Perrot.[3] Dywedodd Llywydd y Llyfrgell, Dafydd Wigley, ni allai aelodau bwrdd y Llyfrgell adael eu "teimladau i ymyrryd yn ein penderfyniad".[1]

Cyn i'r Llyfrgell benderfynu i dderbyn y gymynrodd, dywedodd Llywodraeth Cymru wrthi na fyddent yn gwrthwynebu derbyn y dogfennau a'r tapiau, ond na fyddent yn cefnogi derbyn yr arian.[3] Wedi'r penderfyniad i dderbyn yr holl gymynrodd, dywedodd y Gweinidog Treftadaeth, Huw Lewis:

Gofynnodd y llyfrgell am farn Llywodraeth Cymru ar y mater hwn. Roedden ni'n teimlo y byddai derbyn y gymynrodd yn gallu effeithio ar enw da'r Llyfrgell Genedlaethol, un o'n sefydliadau diwylliannol sydd uchaf eu parch. Bu Louis Feutren yn cydweithio â'r Natsïaid. Mae hon yn ffaith hanesyddol ffiaidd. Felly rwyf wedi fy siomi gan benderfyniad y Llyfrgell Genedlaethol i dderbyn yr arian ac rwy'n meddwl na fyddai unrhyw un yng Nghymru wedi ei herio pe baen nhw wedi penderfynu peidio derbyn y gymynrodd. Rwy'n credu y byddai creu adnoddau addysgiadol ar gyfer plant Cymru i amlygu effaith ofnadwy rhyfel, ffasgaeth, ac anoddefgarwch yn ddefnydd addas o'r arian hwn.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3  Llyfrgell: Ffrae am rodd. BBC Cymru (2 Rhagfyr 2011).
  2. (Saesneg) Rory Carroll, "Former pupils demand apology from Irish school over Nazi teacher’s bullying", The Guardian (3 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 3 Hydref 2023.
  3. 3.0 3.1 (Saesneg) Welsh library criticised for accepting Nazi collaborator's money. The Guardian (2 Rhagfyr 2011).

Dolen allanol[golygu | golygu cod]