Llewelyn Wyn Griffith

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Llewelyn Wyn Griffith
Ganwyd 30 Awst 1890 Edit this on Wikidata
Llandrillo-yn-Rhos Edit this on Wikidata
Bu farw 27 Medi 1977 Edit this on Wikidata (87 oed)
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth nofelydd Edit this on Wikidata

Roedd Llewelyn Wyn Griffith (30 Awst 189027 Medi 1977) yn was sifil, yn awdur, bardd a darlledwr a ysgrifennodd llawer am Gymru a'r diwylliant Cymreig trwy gyfrwng y Saesneg.

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Wyn Griffith ar 30 Awst 1890 ym mhentref Glanwydden, Sir Ddinbych (ond yn Sir Conwy heddiw),[1] mab hynaf John Griffiths a Dorothy ei wraig.

Cafodd ei addysgu yn Ysgol Uwchradd Blaenau Ffestiniog lle roedd ei dad yn athro cyn symud i Ysgol Ramadeg, Dolgellau ar benodiad ei dad yn brifathro.

Gwaith[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym 1909 aeth i weithio i Gyllid y Wald fel Serfiwr Trethi a Thollau yn Lerpwl, lle bu'n gwasanaethu hyd 1914. Ymunodd a'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ar gychwyn y Rhyfel Mawr ym Medi 1914, gan ei ddyrchafu yn Is-gapten yn Ionawr 1915 ac yn Gapten yn Rhagfyr 1915. Gwasanaethodd ar faes y gad yn Ffrainc a Gwlad Belg. Fe ysgrifennodd am ei brofiadau yn y rhyfel mewn nifer o gerddi rhyfel ac yn ei lyfr enwocaf Up to Mametz (1931).

Wedi ei ollwng o'r fyddin ym 1919 aeth yn ôl i Gyllid y Wlad i weithio fel Arolygydd Trethi yn Lerpwl, Caer ac wedyn yn Llundain. Ym 1942 fe'i penodwyd yn Swyddog Cysylltiadau Cyhoeddus Bwrdd Cyllid y Wlad a dechreuodd ddarlledu rhaglenni radio am Dreth Incwm. O 1945-1952 bu'n Ysgrifennydd Cynorthwyol a Chyfarwyddwr Hyfforddiant Cyllid y Wlad.

Bywyd Cyhoeddus[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd Wyn Griffith yn aelod amlwg o Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion gan wasanaethu fel Olygydd Cyhoeddiadau'r Gymdeithas o 1935 hyd ei farwolaeth[2]. Bu'n gadeirydd y National Books League; roedd yn Gadeirydd Pwyllgor Cymreig Cyngor Celfyddydau Prydain Fawr o 1949 i 1956 a hefyd yn is-gadeirydd y Cyngor.

Roedd yn ddarlledwr toreithiog a nodedig yn y Gymraeg a'r Saesneg, bu hefyd, am flynyddoedd lawer, yn aelod o dîm Cymru ar y rhaglen radio The Round Britain Quiz.

Gwaith Llenyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ogystal ag Up to Mametz ysgrifennodd ail waith hunangofiannol Spring of Youth (1935), sy'n disgrifio ei blentyndod a'r traddodiadau Cymreig a fu'n gymorth iddo ddygymod fel gwas cyhoeddus alltud yn Lloegr. Cyhoeddodd dwy nofel, The Wooden Spoon (1937) a The Way Lies West (1945), a llyfr o farddoniaeth The Barren Tree (1945); llyfr i blant The Adventures of Pryderi (1962). Ym 1950 cyhoeddodd The Welsh llyfr oedd a'r bwriad o ddehongli diwylliant Cymreig i'r darllenydd Saesneg. Cyfieithodd dau o lyfrau Kate Roberts i'r Saesneg Te yn y Grug Tea in the Heather (1968) a Y Byw sy'n Cysgu The Living Sleep (1976).

Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]

Am ei wasanaeth milwrol yn ystod y Rhyfel Mawr dyfarnwyd iddo'r OBE milwrol a'r Croix de Guerre. Derbyniodd Doethuriaeth D.Lit er anrhydedd gan Brifysgol Cymru. Ym 1960 fe'i dyrchafwyd yn CBE a derbyniodd Medal Er Clod Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion ym 1970.

Bywyd Personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Fe briododd a Winifred Elizabeth Frimston ym 1915 bu iddynt dau fab John Frimston Wyn Griffith, a anwyd ym 1919 a fu farw yn yr Ail Ryfel Byd ym 1942 a Hugh Alan Wyn Griffith a anwyd ym 1925. Bu farw Wyn Griffith ar 27 Medi 1977 yn Trafford, Swydd Gaer bu farw ei wraig ychydig dyddiau yn niweddarach.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]