Lleng Arabaidd

Oddi ar Wicipedia
Bathodyn y Lleng Arabaidd
Bathodyn y Lleng Arabaidd

Y Lleng Arabaidd (Arabeg: الفيلق العربي, al-Faylaq al-raArabī; Saesneg: The Arab Legion) oedd byddin Trawsiorddonen ac yna Gwlad Iorddonen ar ddechrau'r 20g.

Sefydlu[golygu | golygu cod]

aelod o'r Lleng Arabaidd, Irac, 1942
Y Lleng Arabaidd yn Irac yn ystod Rhyfel Eingl-Irac, 1941

Yn dilyn goruchfygu Ymerodraeth yr Otomaniaid yn y Rhyfel Byd Cyntaf dyfarnwyd, ar sail Cynhadledd San Remo ac yna Cytundeb Sèvres y byddai Prydain yn cael meddiant ar diriogaeth a enwyd yn Palesteina a Trawsiorddonen. Rhoddwyd Mandad i Brydain gan Gynghrair y Cenhedloedd i reoli'r tiriogaeth hyn nes eu bod yn "barod" i gael annibyniaeth. Gwelwyr hyn yn am yn Mandad Palesteina a Trawsiorddonen - hynny yw, y tir i'r dwyrain i'r afon Iorddonen.

Sefydlwyd y Lleng Arabaidd (Arab Legion) yn 1921 gan y Capten Frederick Gerard Peake fel llu milwrol a alwyd i sicrhau rheolaeth Brydeinig dros llwythau Trawsiorddonen.[1] Roedd y llu yno i cadw rheolaeth ar y llwythi ac i gadw'r ffordd hanfodol rhwng Jeriwsalem a phrifddinas newydd Trawsiorddonen, Amman yn glir. Yn wreiddiol, dim ond 150 o ddynion oedd y Lleng, llawer ohonynt yn patrolio'r strydoedd wedi eu tynnu o gymuned disapora Chechen oedd yn byw yn Gwlad Iorddonen yn dilyn eu herlid a ffoi rhag Ymerodraeth Rwsia yn yr 19g.[2] Lleolwyd y Lleng yn nhref Zarqa o le yr hannodd 80% o'i milwyr.

O 1939 i 1956, daeth John Bagot Glubb, a adwaenid yn well fel Glubb Pasha (ei lys-enw rhyfel Arabaidd oedd "Abū Hunayk" sef 'gên gam'), yn gomander y Lleng a drawsnewidiodd yn un o fyddinoedd gorau'r Dwyrain Canol.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cymerodd y Lleng ran yn y rhyfel a gynhaliodd Prydain Fawr yn erbyn lluoedd yr Echel a'u cynghreiriaid yn theatr ryfel y Dwyrain Canol. Bu'r Lleng yn brwydro yn ymgyrch filwrol Syria-Libanus a rhyfel Eingl-Irac yn 1941: dau buddugoliaethau perthynol pendant.

Rhyfel Annibniaeth Israel[golygu | golygu cod]

Y cadfridog Lleng Arabaidd, Abdullah el Tell (dde pellaf) gyda'r Capten Hikmat Mihyar (chwith pella) gyda charcharorion a cipiwyd wedi goresgyn Gush Etzion

Y Lleng oedd yr uned filwrol fwyaf llwyddiannus ymhlith y lluoedd Arabaidd yn ystod y rhyfel Arabaidd-Israel yn 1948, lle roedd ganddi ychydig dros 6,000 o ddynion yn brwydro. Symudwyd y Lleng i ddechrau o diriogaeth Trawsiorddonen, a oedd wedi dod yn rhydd o fandad Prydain a'i chydnabod fel gwlad annibynnol gan y Cenhedloedd Unedig yn 1946. Erbyn diwedd y rhyfel yn erbyn yr Israeliaid yn 1949 roedd gan y Lleng 10,000 o filwyr.

Gyda dechrau'r gelyniaeth dychwelodd y Lleng i Balesteina eto. Roedd yna embaras sylweddol i Llywodraeth Prydain oherwydd y ffaith bod swyddogion Prydain a oedd wedi cael eu cyflogi yn rhengoedd y Lleng bellach wedi ailddechrau gwasanaeth yn fyddin reolaidd Prydain, gan gynnwys rheolwr brigâd, wedi an-ufuddhau gorchmynion Prydeinig gan ddychwelyd i'r Trawsiorddonen i ymladd gyda'r Arabiaid ac yn erbyn yr Iddewon. Arweiniodd hyn at olygfa ryfedd y swyddogion a adawodd eu hunedau yn dychwelyd ar draws y ffin i Trawsiorddonen mwyn ymuno â'r Lleng Arabaidd. Yn ddieithriad dychwelodd yr holl swyddogion Lleng Arabaidd blaenorol i'w hunedau. Gofynnodd aelod o Senedd Llundain yn ofer am garcharu Glubb Pasha am wasanaethu mewn fyddin dramor heb awdurdodiad y Brenin Siôr VI o Loegr.

Ym mis Mai 1948, ar drothwy pleidlais y Cenhedloedd Unedig ar annibyniaeth Israel, roedd y Lleng yn rhan o'r cyrch Arabaidd yn erbyn yr egin wladwriaeth Iddewig newydd. Gorchfygodd y Lleng yr Iddewon yn Kfar-Etzion. Ar ôl 15 Mai, y dyddiad y daeth y lluoedd Arabaidd i mewn i theatr y gâd, gorchfygodd y Lleng Arabaidd, gyda bencadlys yr Iddewon yn Jerwsalem ar 28 Mai chefnogaeth cerbydau arfog, ac ymladdodd yn Shaʿar Hagai, Latrun, Lod a Ramla. Gyda'r brwydrau yma, sicrhaodd y Lleng fod Glan Orllewinol Palesteina yn dod o dan reolaeth yr Emir Abdullah I, brenin Iorddonen yn 1950, gan ddatgan yn ddifrifol ei gymryd mewn "blaendal cysegredig" nes sefydlu Llywodraeth annibynnol ddilys o ym Mhalesteina.

Diwedd y Lleng[golygu | golygu cod]

Ar ddiwedd y rhyfel yn erbyn Israel yn 1948 roedd y Lleng y parhau i fod yn brif lu teyrnas yr Iorddonen a chanddi 25,000 o ddynion.

Blwyddyn yn hwyrach daeth yn fyddin reolaidd teyrnas Hashemitaidd yr Iorddonen. Ym mis Mawrth 1956, disodlodd swyddogion Arabaidd y rhai Prydeinig olaf, yn fframwaith polisi Arabization y fyddin, dan arweiniad Hussein o Jordan, sy'n gormesu dwsinau o swyddogion a'u teuluoedd. Wedyn daw'r Lleng Arabaidd yn Fyddin Frenhinol yr Iorddonen.

Mae'r hyfforddiant milwrol hwn yn dal i fodoli ac mae'n recriwtio o Bedouins yr anialwch yn unig. Mae'n cyflawni dyletswyddau'r heddlu ac yn warcheidwad llywodraethwr Hashemite Teyrnas Iorddonen, y Brenin Adbullah II ar hyn o bryd. Mae ei aelodau'n gwisgo penwisg Keffiyeh coch a gwyn y Bedouins o'r Hejaz.

Dolenni[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Pollack, Kenneth, Arabs at War, Council on Foreign Relations/University of Nebraska Press, 2002, p.267
  2. Pike, John. "The Chechen Chronicles '98". Globalsecurity.org. Cyrchwyd 2014-05-13.