Lavrentiy Beria

Oddi ar Wicipedia
Lavrentiy Beria
Ganwyd17 Mawrth 1899 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
Merkheuli Edit this on Wikidata
Bu farw23 Rhagfyr 1953, 26 Mehefin 1953 Edit this on Wikidata
Moscfa Edit this on Wikidata
DinasyddiaethYmerodraeth Rwsia, Gweriniaeth Ddemocrataidd Azerbaijan, Georgian Soviet Socialist Republic, Yr Undeb Sofietaidd Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Azerbaijan State Oil and Industrial University Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddFirst Deputy Premier of the Soviet Union, member of the Presidium of the Supreme Soviet of the USSR, aelod o Sofiet Goruchaf yr Undeb Sofietaidd, aelod o Sofiet Goruchaf yr Undeb Sofietaidd, aelod o Sofiet Goruchaf yr Undeb Sofietaidd, First Secretary of the Georgian Communist Party Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd, Plaid Lafur Cymdeithasol Democrataidd Rwsia (Bolsiefic) Edit this on Wikidata
PriodNino Gegechkori Edit this on Wikidata
PlantSergo Beria Edit this on Wikidata
Gwobr/auArwr y Llafur Sosialaidd, Urdd Lenin, Urdd y Faner Goch, Order of Suvorov, 1st class, Jubilee Medal "XX Years of the Workers' and Peasants' Red Army", Medal "Am Amddiffyn Moscfa", Medal "Am Amddiffyn Stalingrad", Medal "Am Amddiffyn y Cawcasws", Medal "Am Fuddugoliaeth yr Almaen yn Rhyfel Gwladgarol 1941–1945, Medal Coffau 800fed Pen-blwydd Moscaw, Jubilee Medal "30 Years of the Soviet Army and Navy", Order of Sukhbaatar, Order of the Red Banner, Honorary officer of the State Security, Gwobr Wladwriaeth Stalin, gradd 1af, Order of the Republic, Honorary worker of the NKVD, Gwobr Wladol Stalin, Urdd Lenin, Urdd y Faner Goch, Order of the Red Banner of Labour of the Georgian SSR, Q20570895, Order of the Red Banner of Labour of the Armenian SSR, Orders and Medals of Soviet Republics Edit this on Wikidata
llofnod

Bolsiefic o Georgia a gwleidydd Sofietaidd oedd Lavrentiy Pavlovich Beria; Rwseg Lavréntiy Pávlovich Bériya , IPA: [ˈbʲerʲiə] ; Georgeg, IPA: [bɛɾiɑ] ; 29 Mawrth (17 Mawrth H.G) 1899– 23 Rhagfyr 1953. Bu'n Farsial yr Undeb Sofietaidd a gweinyddwr diogelwch y wladwriaeth, pennaeth diogelwch Sofietaidd, a phennaeth Comisiynydd Materion Mewnol y Bobl (NKVD) o dan Joseph Stalin yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ac fe'i dyrchafwyd yn Ddirprwy Brif Weinidog o dan Stalin ym 1941. Ymunodd yn swyddogol â'r Politbiwro ym 1946.

Beria oedd y mwyaf dylanwadol ac ef a oroesodd hiraf o blith penaethiaid Heddlu Cudd Stalin, a chafodd ei dylanwad mwyaf yn ystod ac ar ôl y rhyfel. Yn dilyn goresgyniad y Sofietiaid o Ddwyrain Wlad Pwyl ym 1939, bu'n gyfrifol am drefnu y carthu megis cyflafan Coedwig Katyn ym 1940, pan laddwyd 22,000 o swyddogion o fyddin a deallusion Pwylaidd. Yn ddiweddarach bu'n trefnu alltudio gorfodol lleiafrifoedd cenedlaethol o'r Cawcasws fel pennaeth yr NKVD, gweithred a ddatganwyd yn hil-laddol gan wahanol ysgolheigion ac, o ran y Chechen, yn 2004 gan Senedd Ewrop . Gwall cyfeirio: Mae tag clo </ref> ar goll ar gyfer y tag <ref> [1] [2] Roedd yn gweinyddu adrannau helaeth o'r wladwriaeth Sofietaidd, ac yn gweithredu fel Marsial de facto yr Undeb Sofietaidd i reoli unedau maes NKVD oedd yn gyfrifol am filwyr cefn ac ysbio a gweithrediadau sabotage yn y tiroedd a feddiannwyd. Ef oedd yn gyfrifol am ehangu gwersylloedd llafur y Gwlag, ac roedd hefyd yn gyfrifol am oruchwylio'r cyfleusterau cadw cyfrinachol ar gyfer gwyddonwyr a pheirianwyr a elwir yn Sharashkas.

Yn dilyn y rhyfel, trefnodd Beria feddiannu'r sefydliadau gwladwriaethol yng nghanol a dwyrain Ewrop gan y comiwnyddion lleol. Uchafbwynt ei fedr yn goruchwylio oedd ei lwyddiant gyda prosiect bom atomig yr Undeb Sofietaidd. Rhoddodd Stalin flaenoriaeth lwyr i hwn, a chwblhawyd y prosiect mewn llai na phum mlynedd.

Yn dilyn marwolaeth Stalin ym mis Mawrth 1953, daeth Beria yn Ddirprwy Gadeirydd Cyntaf Cyngor y Gweinidogion a phennaeth y Weinyddiaeth Materion Mewnol. Yn y swyddogaeth ddeuol hon, ffurfiodd driawd gyda Georgy Malenkov a Vyacheslav Molotov a arweiniodd y wlad am ychydig yn dilyn Stalin. Trosglwyddwyd system y Gwlag i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, a rhyddhawyd dros filiwn o garcharorion, er mai dim ond carcharorion a gafwyd yn euog o droseddau "anwleidyddol" a ryddhawyd. Arweiniodd yr amnest at gynnydd sylweddol mewn troseddu. Disodlwyd Beria gan Nikita Khrushchev, gyda chymorth cyn Farsial yr Undeb Sofietaidd Georgy Zhukov, ym mis Mehefin 1953. Ar ôl cael ei arestio, rhoddwyd ef ar brawf am deyrnfradwriaeth a throseddau eraill, ei ddedfrydu i farwolaeth, a'i ddienyddio ar 23 Rhagfyr 1953.

Bywyd cynnar a dod i rym[golygu | golygu cod]

Ganwyd Lavrentiy Pavlovich Beria ym Merkhuli, ger Sukhumi, yn Sukhum Okrug Llywodraethiaeth Kutais (Ardal Gulripshi bellach, Gweriniaeth de facto Abkhazia, yn Georgia, a oedd ar y pryd yn rhan o Ymerodraeth Rwsia). Fe'i magwyd mewn teulu Uniongred Georgaidd; roedd ei fam, Marta Jageli (1868-1955), yn hynod grefyddol ac eglwysig (treuliodd lawer o amser yn yr eglwys a bu farw mewn adeilad eglwys). Roedd Marta yn hanu o ranbarth Guria, ac yn ddisgynnydd i deulu bonheddig Georgaidd, ac yn weddw cyn priodi tad Beria, Pavle Beria (1872–1922), tirfeddiannwr yn Abkhazia, o is-grŵp ethnig Mingrelaidd . [3]

Yn ei hunangofiant, mae Beria yn sôn am ei chwaer a'i nith yn unig, gan awgrymu bod ei frawd (a unrhyw frodyr a chwiorydd eraill) wedi marw neu nad oedd ganddo unrhyw berthynas ag ef ar ôl iddo adael Merkhuli. Mynychodd Beria ysgol dechnegol yn Sukhumi, ac yn ddiweddarach honnodd iddi ymuno â'r Bolsieficiaid ym mis Mawrth 1917 tra'n fyfyriwr ym Mholitechnicwm Baku (a adwaenid wedi hynny fel Academi Olew Talaith Azerbaijan). Tra'n fyfyriwr, roedd Beria yn nodedig mewn mathemateg a'r gwyddorau.

Bu Beria yn gweithio'n i'r Mwssafatiaid gwrth-Bolsiefaidd yn Baku. Wedi i'r Fyddin Goch gipio'r ddinas ar 28 Ebrill 1920, cafodd ei achub rhag cael ei ddienyddio am nad oedd digon o amser i drefnu ei saethu a'i ddisodli; efallai hefyd fod Sergei Kirov wedi ymyrryd. [4] Tra yn y carchar, daeth Beria i gysylltiad â Nina Gegechkori (1905–1991), [5] nith ei gyd-garcharor, ac fe redon i ffwrdd wedi hynny er mwyn priodi. [6]

Ym 1919, yn 20 oed, dechreuodd Beria ei yrfa ym maes diogelwch y wladwriaeth pan gafodd ei gyflogi gan wasanaeth diogelwch Gweriniaeth Ddemocrataidd Azerbaijan tra'n dal yn fyfyriwr yn y Politechnicwm. Ym 1920 neu 1921 ymunodd â'r Cheka, sef heddlu cudd gwreiddiol y Bolsieficiaid. Bryd hynny, digwyddodd gwrthryfel Bolsieficaidd yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd Georgia a reolwyd gan y Mensieficiaid, a goresgynnodd y Fyddin Goch y wlad. Cymerodd y Cheka ran flaenllaw yn y gwrthdaro, a arweiniodd at drechu'r Mensieficiaid a ffurfio'r GSS Georgaidd. Bu gwrthryfel cenedlaethol yn Georgia ym 1924, ac o dan arweiniad Beria dienyddiwyd hyd at 10,000 o bobl. Ym 1926, cafodd Beria reolaeth ar yr OGPU yn Georgia; Cyflwynodd Sergo Ordzhonikidze, pennaeth y blaid draws-cawcasws ef i'w gyd-wladwr o Georgia Joseph Stalin. Yn dilyn hyn, cynghreiriodd Beria gyda Stalin. Yn ystod ei flynyddoedd wrth y llyw gyda OGPU Georgia, dinistriodd Beria y rhwydweithiau cudd-wybodaeth yr oedd Twrci ac Iran wedi'u datblygu yn y Cawcasws Sofietaidd, a threiddio'n llwyddiannus i lywodraethau'r gwledydd hyn gyda'i asiantau.

Beria gyda Stalin (yn y cefndir), merch Stalin Svetlana, a Nestor Lakoba (yn rhannol guddiedig, yn gwisgo cymhorthion clyw), tua 1931

Penodwyd Beria yn Brif Ysgrifennydd Plaid Gomiwnyddol Georgia ym 1931, ac yn arweinydd plaid yr holl ranbarth Trawsgawcasaidd ym 1932. Daeth yn aelod o Bwyllgor Canolog Plaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd ym 1934. Yn ystod y cyfnod hwn, dechreuodd ymosod ar ei gyd-aelodau o'r Blaid Gomiwnyddol Georgaidd, yn enwedig Gaioz Devdariani, Gweinidog Addysg GSS Georgia. Gorchmynnodd Beria ddienyddio ei frodyr George a Shalva Devdariani, ac fe laddwyd Gaioz ym 1938.

Erbyn 1935, roedd Beria wedi dod yn un o weithwyr mwyaf dibynadwy Stalin. Cadarnhaodd ei le yn entourage Stalin gydag araith hir o'r enw, "Ar Hanes Cymdeithasau Bolsiefig yn Nhrawscawcasia", (a gyhoeddwyd yn ddiweddarach yn llyfr), gan bwysleisio prif rôl Stalin.[7] Pan ddechreuwyd carthu'r Blaid Gomiwnyddol a'r llywodraeth Sofietaidd gan Stalin ym 1934 ar ôl llofruddiaeth pennaeth y blaid yn Leningrad, Sergei Kirov (1 Rhagfyr 1934), roedd Beria yn gyfrifol am y carthu yn Nhrawscawcasia. Ym Mehefin 1937, dywedodd mewn araith, "Gadewch i'n gelynion wybod y bydd unrhyw un sy'n ceisio codi llaw yn erbyn ewyllys ein pobl, yn erbyn ewyllys plaid Lenin a Stalin, yn cael ei ddinistrio'n ddidrugaredd." [8]

Pennaeth yr NKVD[golygu | golygu cod]

Tudalen gyntaf hysbysiad Beria (arwyddwyd gan Stalin a sawl swyddog arall), i ladd tua 15,000 o swyddogion Pwylaidd a rhyw 10,000 yn fwy o ddeallusion yng Nghoedwig Katyn a mannau eraill yn yr Undeb Sofietaidd

Ym mis Awst 1938, daeth Stalin â Beria i Moscow fel dirprwy bennaeth Comisiynydd y Bobl dros Faterion Mewnol (NKVD), y weinidogaeth a oruchwyliodd heddluoedd a diogelwch y wladwriaeth. O dan oruchwyliaeth Nikolai Yezhov, cynhaliodd yr NKVD y Carthu Mawr: sef carcharu neu ddienyddio nifer enfawr, o bosibl dros filiwn, o ddinasyddion ledled yr Undeb Sofietaidd am fod yn "elynion y bobl". Erbyn 1938, fodd bynnag, roedd hyn wedi mynd mor bell fel ei fod yn niweidio seilwaith, economi a hyd yn oed lluoedd arfog y wladwriaeth, gan ysgogi Stalin i ddod a'r carthu i ben. Ym mis Medi, penodwyd Beria yn bennaeth Prif Weinyddu Diogelwch y Wladwriaeth (GUGB) yr NKVD, ac ym mis Tachwedd olynodd Yezhov fel pennaeth yr NKVD. Dienyddwyd Yezhov ym 1940.

Lleddfwyd ychydig ar y gormes a ddechreuwyd o dan Yezhov gyda phenodiad Beria. Rhyddhawyd dros 100,000 o bobl o'r gwersylloedd llafur. Cyfaddefodd y llywodraeth yn swyddogol y bu rhywfaint o anghyfiawnder a "gormodedd" yn ystod y carthu, a rhoddwyd y bai yn gyfan gwbl ar Yezhov. Ond cymharol oedd y llacio: roedd arestiadau, arteithio a dienyddio yn parhau. Ar 16 Ionawr 1940, er enghraifft anfonodd Beria restr o 457 o "elynion y bobl" i Stalin, a cafodd 346 ohonynt eu marcio i gael eu saethu. Ymhlith y rhain roedd Yezhov a'i frawd a'i neiaint; Mikhail Frinovsy (Dirprwy Yezov) a'i wraig a'i fab yn ei arddegau, Yefim Yevdokimov a'i wraig a'i fab yn ei arddegau, a dwsinau eraill o gyn-swyddogion y NKVD, yr awdur enwog Isaac Babel a'r newyddiadurwr Mikhail Koltsoy. [9]

Roedd rhai o swyddogion yr NKVD a hyrwyddwyd gan Beria, megis Boris Rodos, Lev Shvartzman a Bogdan Kobulov yn arteithwyr creulon a ddienyddiwyd yn y 1950au . Disgrifiodd y cyfarwyddwr theatr Vsevolod Meyerhold fel y cafodd ei guro ar asgwrn ei gefn a gwadnau ei draed hyd nes bod "y boen mor ddwys nes ei fod yn teimlo fel pe bai dŵr berwedig yn cael ei arllwys ar y mannau sensitif hyn." [10] Llofnodwyd ei gofnod holi gan Shvartzman. Curwyd Robert Eikhe, cyn-swyddog yn y blaid oedd yn uchel ei barch, yn ffiaidd gan dynnu ei lygad allan gan Rodos, yn swyddfa Beria, tra roedd Beria yn gwylio [11] Roedd nid yn unig yn caniatáu ac yn annog curo carcharorion, ond weithiau yn gwneud hyn ei hun. Tystiodd un carcharor, S.I. Abramov, a oroesodd i roi tystiolaeth yn y 1950au, iddo gael ei ddwyn i swyddfa Beria a’i gyhuddo o gynllwynio i chwythu metro Moscow i fyny, rhywbeth a wadodd.

Tarodd Beria fi yn fy ngwyneb. Rhoddwyd 30 munud i mi feddwl yn yr ystafell nesaf, drws nesaf i ystafell Beria, a gallwn glywed pobl yn sgrechian a gruddfan tra'n cael eu colbio. Tua awr wedyn, wedi cael fy ngalw'n ol dywedodd Kobulov, "Be, ddylen ni ddechrau curo?"[12]

Ym mis Mawrth 1939, penodwyd Beria yn ymgeisydd-aelod o Bolitbiwro y Blaid Gomiwnyddol. Er na chafodd aelodaeth lawn tan 1946, roedd erbyn hynny yn un o uwch arweinwyr y wladwriaeth Sofietaidd. Ym 1941, fe'i penodwyd yn Gomisiynydd Cyffredinol Diogelwch y Wladwriaeth, y rheng lled-filwrol uchaf o fewn system heddlu Sofietaidd y pryd hynny.

Ym 1940 cyflymodd y carthu eto. Yn ystod y cyfnod hwn, goruchwyliodd Beria alltudio pobl a nodwyd yn "gelynion gwleidyddol" o Wlad Pwyl, Lithwania, Latfia ac Estonia yn dilyn meddiannu'r gwledydd hyn gan luoedd Sofietaidd.

Ar 5 Mawrth 1940, yn dilyn y trydydd cynhadledd Gestapo-NKVD a gynhaliwyd yn Zakopane, anfonodd Beria nodyn (rhif 794/B) at Stalin yn dweud fod y carcharorion rhyfel o wlad Pwyl oedd mewn gwersyllau a carchardai yng ngorllewin Belarws a'r Wcráin yn elynion i'r Undeb Sofietaidd, ac yn argymell eu lladd.[13] Roedd y rhan fwyaf ohonynt yn swyddogion milwrol, ond roedd rhai yn ddeallusion, meddygon, offeiriaid, a phobl eraill - cyfanswm o 22,000 o bobl. Gyda chymeradwyaeth Stalin, lladdodd NKVD Beria hwynt yng 'nghyflafan coedwig Katyn'.

Rhwng Hydref 1940 a Chwefror 1942, cynhaliodd yr NKVD o dan Beria garthiad arall o'r Fyddin Goch a'r diwydiannau cysylltiedig. Ym mis Chwefror 1941, daeth Beria yn ddirprwy gadeirydd Cyngor Comisiynwyr y Bobl, ac ym mis Mehefin, yn dilyn ymosodiad yr Almaen Natsïaidd ar yr Undeb Sofietaidd, daeth yn aelod o Bwyllgor Amddiffyn y Wladwriaeth (GKO). Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ymgymerodd â chyfrifoldebau domestig gan drefnu i'r miliynau o bobl a garcharwyd yng ngwersylloedd Gwlag yr NKVD i gynhyrchu moddion rhyfel. Cymerodd reolaeth ar gynhyrchu arfau, a (gyda Georgy Malenkov) awyrennau a moduron awyrennau. Dyma ddechrau cynghrair Beria â Malenkov, a fu o bwysigrwydd mawr yn ddiweddarach.

Delwedd:Khrushchyov, Beria and Khanjian.jpg
Nestor Lakoba, Nikita Khrushchev, Lavrentiy Beria ac Aghasi Khanjian yn ystod agoriad Metro Moscow ym 1936, yr un flwyddyn y lladdwyd Lakoba a Khanjian gan Beria.

Ym 1944, gyda'r Undeb Sofietaidd yn gwrthymosod yn erbyn y Natsiaid, rhoddwyd Beria yn gyfrifol am y lleiafrifoedd ethnig amrywiol a gyhuddwyd o wrth-sofietiaeth a/neu cydweithredu â'r goresgynwyr, gan gynnwys y Balkar, Karachay, Chechen, Ingush, Tartariaid y Crimea, Kalmyk, Groegiaid Pontic ac Almaenwyr y Volga. [14] Cafodd y pobl hyn oll eu halltudio i Ganol Asia Sofietaidd.

O fis Rhagfyr 1944, goruchwyliodd yr NKVD prosiect bom atomig Sofietaidd ("Tasg Rhif 1"), a profwyd y bom ar 29 Awst 1949. Roedd hyn yn waith llafurddwys iawn. Cymerodd o leiaf 330,000 o bobl, gan gynnwys 10,000 o dechnegwyr, ran yn yr ymdrech. Darparodd y system Gwlag ddegau o filoedd o bobl i weithio i fwyngloddio wraniwm ac i adeiladu a gweithredu gweithfeydd prosesu wraniwm. Hefyd adeiladwyd cyfleusterau prawf, fel yn Semipalatinsk ac yn archipelago Novaya Zemlya .

Ym mis Gorffennaf 1945, pan droswyd rhengoedd heddlu Sofietaidd i system lifrau milwrol, troswyd rheng Beria yn swyddogol i 'Marsial o'r Undeb Sofietaidd'. Er nad oedd erioed wedi dal rheolaeth filwrol draddodiadol, gwnaeth gyfraniad sylweddol i fuddugoliaeth yr Undeb Sofietaidd yn y rhyfel trwy ei drefniadaeth o gynhyrchu moddion rhyfel a'i ddefnydd o 'partisans'.

Cyfarfu Beria â Kim Il Sung, ddaeth yn arweinydd Gogledd Corea, sawl gwaith wedi i'r Undeb Sofietaidd gyhoeddi rhyfel yn erbyn Siapan a meddiannu gogledd Corea o fis Awst 1945. Argymhellodd Beria i Stalin y dylid gosod arweinydd comiwnyddol yn y tiriogaethau a feddiannwyd.

Gwleidyddiaeth ar ôl y rhyfel[golygu | golygu cod]

Gyda Stalin bron yn 70 oed, roedd brwydr gudd am ei olyniaeth ymhlith ei ddilynwyr. Ar ddiwedd y rhyfel, ymddangosai Andrei Zhdanov, arweinydd y Blaid yn Leningrad (St Petersburg erbyn hyn) fel y ceffyl blaen. Ar ôl 1946, ffurfiodd Beria gynghrair gyda Malenkov i wrthsefyll Zhdanov. [15]

Ym mis Ionawr 1946, ymddiswyddodd Beria fel pennaeth yr NKVD tra'n cadw rheolaeth gyffredinol dros faterion diogelwch cenedlaethol fel Dirprwy Brif Weinidog a Churadur Organau Diogelwch y Wladwriaeth o dan Stalin. Fodd bynnag, nid oedd y pennaeth yr NKVD newydd, Sergei Kruglov, yn gefnogwr i Beria. Ac erbyn haf 1946 disodlwyd dyn Beria, Vsevolod Nikolayevich Merkylov, fel pennaeth y Weinyddiaeth Diogelwch Gwladol (MGB) gan Viktor Abakumov.

Roedd Abakumov wedi bod yn bennaeth ar SMERSH o 1943 i 1946; roedd ei berthynas â Beria yn cynnwys cydweithio agos (cefnogaeth Beria oedd yn gyfrifol am lwyddiant Abakumov) ond hefyd cystadleuaeth. Dechreuodd Stalin annog Abakumov i ffurfio ei rwydwaith ei hun o fewn yr MGB i wrthsefyll goruchafiaeth Beria yn y gweinidogaethau pŵer. [16] Symudodd Kruglov ac Abakumov yn gyflym i ddisodli dynion Beria gyda phobl newydd. Yn fuan iawn, y Dirprwy Weinidog Stepan Mamulov o'r Weinyddiaeth Materion Mewnol (MVD) oedd unig gynghreiriad agos Beria oedd ar ôl, heblaw am cudd-wybodaeth dramor, oedd yn dal yng ngofal Beria.

Yn y misoedd canlynol, dechreuodd Abakumov weithredu heb ymgynghori â Beria, yn aml yn gweithio gyda Zhdanov, ar orchymyn uniongyrchol Stalin. Roedd un o'r digwyddiadau cyntaf o'r fath yn ymwneud â'r Pwyllgor Gwrth-Ffasgaidd Iddewig, a ddechreuodd ym mis Hydref 1946 ac a arweiniodd yn y pen draw at lofruddiaeth Cadeirydd y Pwyllgor Solomon Mikhoels ac arestio llawer o'r aelodau eraill. Ar ôl i Zhdanov farw ym mis Awst 1948, crynhaodd Beria a Malenkov eu pŵer trwy garthu cymdeithion Zhdanov. Dienyddwyd dirprwy Zhdanov, Alexey Kuznetsov; y pennaeth economaidd, Nikolai Voznesensky; pennaeth y Blaid yn Leningrad, Pyotr Popkov; a Phrif Weinidog yr GFSS Rwsia Mikhail Rodionov, ymysg eraill. [17]

Fodd bynnag, ni allai Beria gael gwared o Mikhail Suslov, a oedd gasáu. Teimlai Beria'n fwyfwy anghyfforddus gyda pherthynas Suslov â Stalin. Dyfala'r hanesydd Rwsiaidd Roy Medvedev yn ei lyfr, Neizvestnyi Stalin, fod Stalin wedi gwneud Suslov yn "etifedd cyfrinachol" iddo.[18] Yn dilyn ei arestio ym 1953, daethpwyd o hyd i ddogfennau yn ei bapurau yn galw Suslov y Rhif Un yr oedd am ei "ddileu".

Yn ystod y blynyddoedd ar ôl y rhyfel, goruchwyliodd Beria sefydlu cyfundrefnau comiwnyddol yn Nwyrain Ewrop gan ddewis eu harweinwyr. Gan ddechrau ym 1948, cychwynnodd Abakumov sawl ymchwiliad yn erbyn yr arweinwyr hyn, ac fe arestiwyd Rudolf Slansky, Bedrich Geminder ac eraill yn Tsiecoslofacia ym mis Tachwedd 1952. Cyhuddid y dynion hyn yn aml o Seioniaeth, "cosmopolitaniaeth di-wreiddyn" a darparu arfau i Israel. Roedd cyhuddiadau o'r fath yn tarfu'n fawr ar Beria, gan ei fod ef wedi gorchymyn gwerthu llawer iawn o arfau Tsiec i Israel eu hun. Rhoddwyd pedwar-ar-ddeg o arweinwyr comiwnyddol Tsiecoslofacia, un-ar- ddeg ohonynt yn Iddewig, ar brawf, eu collfarnu a'u dienyddio mewn ymgais i glosio at genedlaetholwyr Arabaidd, ac arweiniodd hyn at gytundeb fawr i werthu arfau Tsiec i'r Aifft ym 1955. [19]

Ym 1951 cafodd nifer o feddygon Iddewig amlwg y wlad eu cyhuddo o wenwyno prif arweinwyr Sofietaidd a’u harestio ('Cynllwyn y Meddygon'). Ar yr un pryd, cychwynnodd y wasg Sofietaidd ymgyrch bropaganda gwrth-Semitig, a alwyd yn "frwydr yn erbyn cosmopolitaniaeth di-wreiddyn". Arestiwyd 37 o ddynion i ddechrau ond tyfodd y nifer yn gyflym i gannoedd. Cafodd ugeiniau o Iddewon Sofietaidd eu diswyddo, eu harestio, a'u hanfon i'r Gwlag, neu eu dienyddio. Mae'n debyg bod y "cynllwyn" wedi'i ddyfeisio gan Stalin. Ychydig ddyddiau ar ôl marwolaeth Stalin ar 5 Mawrth 1953, rhyddhaodd Beria yr holl feddygon a arestiwyd, cyhoeddodd fod y mater cyfan wedi'i ffugio, ac arestiodd swyddogion yr MGB a oedd yn ymwneud yn uniongyrchol â hyn.

Marwolaeth Stalin[golygu | golygu cod]

Dywedodd cynorthwyydd Stalin, Vasili Lozgachev, mai Beria a Malenkov oedd yr aelodau cyntaf o'r Politbiwro i weld cyflwr Stalin pan ddaethpwyd o hyd iddo yn anymwybodol. Cyrhaeddont dacha Stalin yn Kuntsevo am dri y bore ar yr 2il o Fawrth 1953, ar ôl cael eu galw yno gan Nikita Khrushchev a Nikolai Bulganin. Nid oeddynt hwy am fentro digio Stalin trwy wirio eu hunain.[20] Ceisiodd Lozgachev esbonio i Beria fod Stalin yn anymwybodol ag yn "sâl ac angen sylw meddygol". Gwrthododd Beria hyn fel gor-ymateb gwirion a gadawodd yn gyflym, gan orchymyn iddo, "Peidiwch â'n trafferthu, peidiwch ag achosi panig a pheidiwch ag aflonyddu Cymrawd Stalin!" [21] Roedd Alexsei Rybin, gwarchodwr-corff Stalin, yn cofio, "Doedd neb eisiau ffonio Beria, gan fod y rhan fwyaf o'r gwarchodwyr personol yn ei gasáu". [22]

Ni alwyd meddyg am ddeuddeng awr ar ôl i Stalin gael ei barlysu yn anymwybodol ac yn methu siarad. Galwa'r hanesydd Simon Sebag Montefiore hyn yn "rhyfeddol" ac eto yn gyson â pholisi safonol Stalinaidd o ohirio pob penderfyniad (ta waeth pa mor angenrheidiol neu amlwg) heb orchmynion swyddogol gan awdurdod uwch.[23] Cefnogwyd (neu o leiaf ni wrthwynebwyd) penderfyniad Beria i osgoi galw meddyg ar unwaith gan weddill y Politbiwro, a oedd wedi'u parlysu heb Stalin i'w harwain ac yn ofni y byddai'n gwella'n sydyn ac yn dial ar unrhyw un oedd wedi meiddio gweithredu heb ei orchmynion.[24] Roedd drwgdybiaeth Stalin o feddygon yn dilyn 'Cynllwyn y Meddygon' yn dra hysbys adeg ei waeledd; roedd ei feddyg preifat eisoes yn cael ei arteithio yn seler y Lubyanka am awgrymu bod yr arweinydd angen mwy o orffwys yn y gwely. [25]

Ysgrifennodd Khrushchev yn ei atgofion fod Beria, yn syth ar ôl strôc Stalin, wedi mynd ati i "watwar a phoeri casineb yn ei erbyn [Stalin]". Pan ddangosodd Stalin arwyddion o ddod at ei hun, disgynnodd Beria ar ei liniau a cusanu ei law. Pan syrthiodd Stalin yn anymwybodol eto, safodd Beria ar unwaith a phoeri ato. [26]

Yn dilyn marwolaeth Stalin ar 5 Mawrth 1953, daeth uchelgais Beria i'w llawn rym. Yn y distawrwydd anesmwyth wedi i ing olaf Stalin ddod i ben, efe oedd y cyntaf i neidio ymlaen i gusanu ei law (cam a gyffelybir gan Montefiore fel "torri modrwy Brenin marw oddi ar ei fys"). [27] Er bod gweddill cylch mewnol Stalin (hyd yn oed Molotov, a arbedwyd rhag dienyddiad sicr gan ei dranc) yn sefyll yn wylo'n ddigywilydd dros y corff, dywedir bod Beria yn ymddangos yn "belydrol", "wedi'i adfywio" ac "yn disgleirio gyda chwant". [27] Pan adawodd Beria yr ystafell, torrodd ar yr awyrgylch sobr trwy weiddi'n uchel am ei yrrwr, ei lais yn adleisio gyda'r hyn a alwodd merch Stalin, Svetlana Alliluyeva, yn "fuddugoliaeth heb ymgais i'w guddio".[28] Sylwodd Svetlana fel yr oedd y Politbiwro i'w weld yn ofnus o Beria ac yn llipa o weld ei uchelgais beiddgar. "Mae'n rhuthro mynd i afael yn yr awenau," meddai Mikoyan wrth Khrushchev. Ysgogodd hynny i bawb redeg yn “wyllt” i’w ceir eu hunain a cyrch am y Kremlin. [28]

Bu Stalin yn gosod y sylfaen ar gyfer carthu yr 'Hen Folsieficiaid' Mikoyan a Molotov am flwyddyn cyn ei farwolaeth. Yn fuan wedi hyn, datgelodd Beria yn fuddugoliaethus wrth y Politbiwro mai ef a "gafodd wared ohono [Stalin]" a'i fod wedi "arbed [ni] i gyd", yn ôl cofiant Molotov. Mae'r honiad bod Stalin wedi'i wenwyno gan asiantau Beria wedi ei adleisio gan Edvard Radzinsky ac awduron eraill. [25] [29] [30] [31]

Dirprwy Brif Weinidog a Thriawd Sofietaidd[golygu | golygu cod]

Wedi marwolaeth Stalin, penodwyd Beria yn Ddirprwy Brif Weinidog a'i ailbenodi'n bennaeth yr MVD, a unodd gyda'r MGB. Ei gynghreiryn agos Malenkov oedd y Prif Weinidog newydd ac o'r herwydd yr un mwyaf pwerus yn yr arweinyddiaeth. Roedd Beria yn ail iddo, ond o ystyried gwendid personol Malenkov, roedd ei fryd yn y pen draw ar ddod yn arweinydd ei hun. Cafodd Khrushchev y swydd o Ysgrifennydd y Blaid, a Kliment Voroshilov yn Gadeirydd Presidiwm y Sofiet Goruchaf (h.y. Pennaeth y Wladwriaeth - di-rym).

Ymgymerodd Beria â rhai mesurau rhyddfrydoli yn syth ar ôl marwolaeth Stalin. [32] Ad-drefnodd yr MVD gan lleihau ei bŵer economaidd a'i gyfrifoldebau cosbi yn sylweddol. Diddymwyd nifer o brosiectau adeiladu costus, megis Rheilffordd Salekhard-Igarka, a daeth y mentrau diwydiannol a oedd yn weddill o dan weinidogaethau economaidd eraill.[33] Trosglwyddwyd system y Gwlag i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, a cyhoeddwyd rhyddhau dros filiwn o garcharorion, er mai dim ond carcharorion a gafwyd yn euog o droseddau "anwleidyddol" a ryddhawyd.[34] Arweiniodd yr amnest hon at gynnydd sylweddol mewn troseddu a cafodd hynny ei ddefnyddio'n ddiweddarach yn erbyn Beria gan ei elynion. [35] [36]

Er mwyn cydgrynhoi pŵer, cymerodd Beria gamau i gydnabod hawliau cenhedloedd lleiafrifol Rwsia. Cwestiynodd y polisi o Rwsianeiddio ac anogodd swyddogion lleol i fynnu eu hunaniaeth. Dechreuodd gyda Georgia, lle cafodd cynllwyn ffug Mingrelaidd Stalin ei diddymu a llenwyd swyddi allweddol y weriniaeth gan Georgiaid yn bleidiol i Beria. [37] Roedd polisïau Beria o roi mwy o ymreolaeth i'r GSS yr Wcráin yn dychryn Khrushchev, am mai yn yr Wcráin oedd sylfaen ei bŵer. Ceisiodd Khrushchev glosio at Malenkov, gan ei rybuddio bod "Beria yn hogi ei gyllyll". [38]

Gwrthwynebodd Khrushchev y cynghreirio rhwng Beria a Malenkov, ond ni allai eu herio ar y ddechrau. Daeth cyfle Khrushchev ym Mehefin 1953 pan ddechreuodd gwrthryfel digymell yn erbyn cyfundrefn gomiwnyddol Dwyrain yr Almaen yn Nwyrain Berlin. Yn seiliedig ar ddatganiadau Beria, roedd yr arweinwyr eraill yn amau y byddai, yn sgil y gwrthryfel, yn ystyried ailuno'r Almaen a rhoi diwedd ar y Rhyfel Oer am gefnogaeth economaidd gan yr Unol Daleithiau, fel a dderbyniwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd.


Roedd cost y rhyfel yn dal i bwyso'n drwm ar yr economi Sofietaidd. Roedd Beria yn awyddus i gael yr adnoddau ariannol helaeth y gallai perthynas well (a mwy parhaol) â'r Unol Daleithiau eu darparu. Yn ôl rhai ffynonellau diweddarach, efallai iddo hyd yn oed ystyried rhoi "rhagolygon difrifol o ymreolaeth genedlaethol" i'r Gweriniaethau Sofietaidd Estonia, Latfia a Lithwania, yn debyg o bosibl i'r gwladwriaethau yn Nwyrain Ewrop. [39] [40] [41] Dywedodd Beria am Ddwyrain yr Almaen, "Nid yw hyd yn oed yn wladwriaeth go iawn dim ond un a gadwir mewn bodolaeth gan filwyr Sofietaidd."

Argyhoeddwyd Molotov, Malenkov a Bulganin gan y gwrthryfel yn Nwyrain yr Almaen fod polisïau Beria yn beryglus ac yn ansefydlogi pŵer Sofietaidd. O fewn dyddiau, perswadiodd Khrushchev yr arweinwyr eraill i gefnogi coup d'etat yn erbyn Beria.

Arestio, prawf a dienyddio[golygu | golygu cod]

Lavrenty Beria ar glawr Time, 20 Gorffennaf 1953

Yn ddirprwy gadeirydd cyntaf Cyngor y Gweinidogion ac fel aelod dylanwadol o'r Politbiwro, gwelai Beria ei hun yn olynydd naturiol i Stalin, tra bod gan aelodau ehangach y Politbiwro feddyliau gwahanol ar yr arweinyddiaeth yn y dyfodol. Ar 26 Mehefin 1953, arestiwyd Beria a'i gadw mewn lleoliad cyfrinachol ger Moscow. Mae'r hanesion am ei gwymp yn amrywio'n sylweddol. Y consensws hanesyddol yw bod Khrushchev wedi paratoi cudd-ymosodiad cywrain, gan gynnal cyfarfod o’r Presidiwm ar 26 Mehefin, ac wedi gwneud ymosodiad deifiol dirybudd ar Beria, gan ei gyhuddo o fod yn fradwr ac yn ysbïwr yn gweithio i MI6 Prydain. Syfrdanwyd Beria yn llwyr, a gofynnodd, "Beth sy'n digwydd, Nikita Sergeyevich? Pam wyt ti'n pigo chwain yn fy nhrowsus i?"

Pan sylweddolodd Beria o'r diwedd beth oedd yn digwydd apeliodd i'w hen gyfaill Malenkov i siarad ar ei ran, ond gostyngodd Malenkov ei ben yn dawel a phwyso botwm ar ei ddesg. Hwn oedd yr arwydd i'r Marsial Georgy Zhukov a swyddogion arfog mewn ystafell gyfagos ddod i mewn ac arestio Beria. [note 1]

Gan mai dynion Beria oedd yn gwarchod y Kremlin ar y pryd, fe'i daliwyd mewn cell arbennig tan y nos ac yna ei smyglo allan yng nghist car. Cludwyd ef yn gyntaf i warchodlu Moscow ac yna i seler pencadlys Ardal Filwrol Moscow. Gorchmynnodd y Gweinidog Amddiffyn Bulganin i Adran Danciau Kantemirovskaya ac Adran Reiffl Modurol Tamanskaya ddod i Moscow i atal lluoedd diogelwch oedd yn dal yn deyrngar i Beria rhag ei achub. Arestiwyd a dienyddiwyd llawer o is-weithwyr, amddiffynwyr a chymdeithion Beria hefyd, yn eu plith Merkulov, Bogdan Kobulov, Sergey Goglidze, Vladimir Dekanozov, Pavel Meshik a Lev Vlodzimirsky. .

Rhoddwyd Beria a'i ddynion ar brawf mewn "sesiwn arbennig" o Oruchaf Lys yr Undeb Sofietaidd ar 23 Rhagfyr 1953 heb unrhyw gwnsler amddiffyn a heb hawl i apelio. Marsial Ivan Konev oedd cadeirydd y llys. [43]

Cafwyd Beria yn euog o:

  1. Bradwriaeth. Honnwyd ei fod wedi cynnal cysylltiadau cyfrinachol gyda gwasanaethau cudd tramor. Yn benodol, cafodd ymdrechion i gychwyn trafodaethau heddwch gydag Adolf Hitler ym 1941 trwy lysgennad Teyrnas Bwlgaria eu galw yn frad, er bod Beria yn gweithredu ar orchmynion Stalin a Molotov. Honnwyd hefyd bod Beria, fu'n trefnu amddiffyniad Gogledd y Cawcasws ym 1942, wedi ceisio gadael i'r Almaenwyr feddiannu'r Cawcasws. Roedd awgrym Beria i'w gynorthwywyr, ei bod yn rhesymol trosglwyddo Oblast Kaliningrad i'r Almaen, rhan o Karelia i'r Ffindir, GSS Moldofa i Rwmania ac Ynysoedd Kuril i Japan er mwyn gwella cysylltiadau tramor, hefyd yn rhan o'r honiadau yn ei erbyn.
  2. Terfysgaeth. Disgrifiwyd cyfraniad Beria yng Ngharthu y Fyddin Goch ym 1941 fel gweithred o derfysgaeth.
  3. Gweithgarwch gwrth-chwyldroadol yn ystod Rhyfel Cartref Rwsia. Ym 1919, bu Beria yn gweithio yng ngwasanaeth diogelwch Gweriniaeth Ddemocrataidd Azerbaijan. Heurai Beria iddo gael ei neilltuo i'r gwaith hwnnw gan blaid Hummet, a unodd wedi hynny â Phlaid Adalat, Plaid Ahrar, a Bolsieficiaid Baku i sefydlu Plaid Gomiwnyddol Azerbaijan.

Dedfrydwyd Beria a'r holl ddiffynyddion eraill i farwolaeth ar ddiwrnod y treial. Saethwyd y chwe diffynnydd arall – Dekanozov, Merkulov, Vlodzimirsky, Meshik, Goglidze a Kobulov –yn syth ar ôl i'r achos ddod i ben.

Dienyddiwyd Beria ar wahân; honnir iddo ymbil ar ei liniau cyn cwympo i'r llawr a wylofain.[44] Cafodd ei saethu yn ei dalcen gan y Cadfridog Pavel Batitsky. Roedd ei eiliadau olaf yn debyg iawn i rai ei ragflaenydd Nikolai Yezhov, a erfyniodd am ei fywyd cyn ei ddienyddio ym 1940. [45] Amlosgwyd corff Beria a chladdwyd y gweddillion ym Medd Cymunedol Rhif 3 ym Mynwent Mynachlog Donskoi ym Moscow.

Dinistriwyd archifon bersonol Beria (oedd yn cynnwys deunydd ar ei gyn-gydweithwyr) ar orchmynion Khrushchev. [46]

Ysglyfaeth rhywiol[golygu | golygu cod]

Yn ystod ei brawf ym 1953, daeth yn hysbys ei fod wedi treisio nifer fawr o ferched yn ystod ei deyrnasiad fel pennaeth yr NKVD. [47] Daw Montefiore i'r casgliad bod y wybodaeth yn "datgelu ysglyfaethwr rhywiol a ddefnyddiau ei bŵer i ymroi i amddifadedd obsesiynol". [25] Yn dilyn ei farwolaeth, gwadwyd y cyhuddiadau o dreisio a cham-drin rhywiol gan bobl yn agos at Beria, yn cynnwys ei wraig Nina a'i fab Sergo. [48]

Yn ôl tystiolaeth y Cyrnol Rafael Semyonovich Sarkisov a'r Cyrnol Sardion Nikolaevich Nadaraia – dau o warchodwyr Beria – ar nosweithiau cynnes yn ystod y rhyfel, roedd Beria yn aml yn cael ei gyrru o amgylch Moscow yn ei limwsîn. Byddai'n nodi merched ifanc yr oedd am iddynt eu cludo i'w dacha, lle roedd gwin a gwledd yn eu disgwyl. Ar ôl bwyta, byddai Beria yn mynd â'r merched i'w swyddfa ac yn eu treisio.

Dywedodd ei warchodwyr bod eu dyletswyddau'n cynnwys rhoi tusw o flodau i'r merched wrth iddi adael y tŷ. Os oedd y ferch yn ei dderbyn roedd hyn yn awgrymu bod y rhyw wedi bod yn gydsyniol; ond byddai gwrthod yn golygu arestio. Adroddodd Sarkisov, ar ôl i un fenyw wrthod Beria a rhedeg allan o'i swyddfa, fod Sarkisov wedi rhoi'r blodau iddi ar gam beth bynnag. Dywedodd Beria yn gynddeiriog, "Nid tusw ydyw nawr, ond torch! Boed iddo bydru ar dy fedd!" Arestiwyd hi gan yr NKVD y diwrnod canlynol.[25]

Mae tystiolaeth Sarkisov a Nadaraia wedi’i rannol gadarnhau gan Edward Ellis Smith, Americanwr a wasanaethodd yn Llysgenhadaeth yr Unol Daleithiau ym Moscow ar ôl y rhyfel. Yn ôl yr hanesydd Amy Knight, "Nododd Smith fod ymddygiad Beria yn hysbys iawn ymhlith personél y llysgenhadaeth oherwydd bod ei dŷ ar yr un stryd â phreswylfa i Americanwyr, a gwelodd y rhai a oedd yn byw yno ferched yn dod i dŷ Beria yn hwyr yn y nos mewn limwsîn." [49]

Roedd menywod weithiau yn rhoi mewn i ofynion rhywiol Beria yn gyfnewid am addewid o ryddid i deulu carcharedig. Mewn un achos, aeth Beria a Tatiana Okunevskaya, actores Sofietaidd enwog, gan ddweud wrthi ei fod hi i berfformio i'r Politbiwro. Yn hytrach aeth â hi i'w dacha, a cytunodd i rhyddhau ei thad a'i nain o'r carchar os byddai hi'n ildio iddo. Yna fe'i threisiodd, gan ddweud wrthi, "Sgrechian neu beidio, does dim ots". Y gwir oedd, gwyddai Beria'n bod perthnasau Okunevskaya wedi eu lladd misoedd ynghynt. Arestiwyd Okunevskaya yn fuan wedyn a'i dedfrydu i garchar ar ei phen ei hun mewn Gwlag, ond goroesodd.

Daeth Stalin a swyddogion statws uchel yn ddrwgdybus o Beria. [50] Unwaith, pan glywodd Stalin fod ei ferch Svetlana, yn ei harddegau ar y pryd, ar ei phen ei hun gyda Beria yn ei dŷ, ffoniodd hi a'i gorchymyn i adael ar unwaith. Pan ganmolodd Beria ferch Alexander Poskrebyshev ar ei harddwch, tynnodd Poskrebyshev hi o'r neilltu yn gyflym a dweud wrthi, "Paid byth â derbyn lifft gan Beria".[25] Ar ôl cymryd diddordeb yn merch-yng-nghyfraith Voroshilov yn ystod parti yn eu dacha haf, dilynodd Beria eu car yr holl ffordd yn ôl i'r Kremlin, gan ddychryn gwraig Voroshilov. [50]

Cyn ac yn ystod y rhyfel, cyfarwyddodd Beria Sarkisov i gadw rhestr o enwau a rhifau ffôn y merched y cafodd ryw gyda nhw. Yn y diwedd, gorchmynnodd Sarkisov i ddinistrio'r rhestr, ond cadwodd Sarkisov gopi cyfrinachol. Ar ddechrau cwymp Beria, trosglwyddodd Sarkisov y rhestr i Viktor Abakumov, cyn bennaeth SMERSH yn ystod y rhyfel a oedd bellach yn bennaeth yr MGB – olynydd yr NKVD. Roedd Abakumov eisoes yn adeiladu achos yn erbyn Beria. Roedd Stalin, a oedd hefyd yn ceisio tanseilio Beria, wrth ei fodd gyda'r cofnodion manwl a gadwyd gan Sarkisov, gan fynnu: "Anfonwch bopeth y mae o yn ysgrifennu ataf i!" [51]

Yn 2003, cydnabu llywodraeth Rwsia restr Sarkisov o ddioddefwyr Beria, sydd yn ôl pob sôn yn cynnwys cannoedd o enwau.

Mae tystiolaeth hefyd yn awgrymu bod Beria wedi llofruddio rhai o'r merched. Ym 1993, fe welwyd esgyrn ger fila Beria ym Moscow gan weithwyr adeiladu wrth osod goleuadau stryd. Darganfuwyd penglogau, pelfis ac esgyrn coes. Ym 1998, darganfuwyd gweddillion sgerbydau pum merch ifanc yn ystod gwaith a wnaed ar y pibellau dŵr yng ngardd yr un fila.[52] Yn 2011, datgelodd gweithwyr adeiladu a oedd yn cloddio ffos yng nghanol dinas Moscow fedd ger yr un breswylfa oedd yn cynnwys pentwr o esgyrn dynol, gan gynnwys dau benglog plentyn wedi'u gorchuddio â chalch neu glorin. Dengys diffyg dillad a chyflwr y gweddillion bod y cyrff hyn wedi eu claddu yn noeth. Yn ôl Martin Sixsmith, mewn rhaglen ddogfen ar y BBC, “Treuliodd Beria ei nosweithiau efo pobl ifanc yn eu arddegau oedd wedi eu cipio oddi ar y stryd a'u dwyn yma iddo gael eu treisio. Cafodd y rhai a wrthodai eu tagu a’u claddu yng ngardd rhosod ei wraig.” [53] Dywedodd Vladimir Zharov, pennaeth yr Adran Meddygaeth Fforensig ym Mhrifysgol Meddygaeth a Deintyddiaeth Talaith Moscow, ac wedyn yn bennaeth y Ganolfan Fforensig Droseddol, fod siambr arteithio yn seler fila Beria a bod llwybr tanddaearol yn ôl pob tebyg i'r safleoedd claddu .

Yn ogystal, roedd adroddiad Americanaidd o 1952 yn dyfynnu cyn frodor o Moscow ei fod "wedi clywed gan un o feistresi Beria ei bod yn arferiad ganddo i orchymyn menywod amrywiol i wneud unrhyw beth oedd o eisiau a'i fod yn bygwth carchar pe byddent yn gwrthod." Yn ôl adroddiad y ffynhonnell, "Ar un achlysur, ymddangosodd Beria, wedi'i gwisgo mewn pyjamas yn y dacha lle roedd ei ffrind yn byw. Roedd ei warchodwr personol yn gwmni iddo." [54]

Portreadwyd Beria gan Simon Russell Beale yn y ffilm ddychanol 2017 The Death of Stalin .

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Williams 2015.
  2. Jones, Adam (2016). Genocide: A Comprehensive Introduction (arg. revised). Routledge. t. 203. ISBN 9781317533856.
  3. Knight 1996, tt. 14–16.
  4. Alliluyeva 1967.
  5. Мікалай Аляксандравіч Зяньковіч; Николай Зенькович (2005). Самые секретные родственники. ОЛМА Медиа Групп. ISBN 978-5948504087.
  6. Montefiore, Simon (2008). Young Stalin. New York: Vintage. t. 67. ISBN 978-1400096138. OCLC 276996699.
  7. Knight 1996, t. 57.
  8. McDermott 1995.
  9. Marc Jansen, and Nikita Petrov (2002). Stalin's Loyal Executioner: People's Commissar Nikolai Ezhov, 1895-1940. Stanford CA: Hoover Institution Press. t. 186. ISBN 978-0-8179-2902-2.
  10. Shentalinsky, Vitaly (1995). The KGB's Literary Archive, The Discovery of the Ultimate Fate of Russia's Suppressed Writers. London: The Harvill Press. t. 25. ISBN 1-86046-072-0.
  11. Slezkine, Yuri (2017). The House of Government, A Saga of the Russian Revolution. Prinveton, N.J.: Princeton U.P. tt. 841–42. ISBN 978-06911-9272-7.
  12. "Записка Р.А. Руденко в ЦК КПСС о реабилитации А.И. Угарова и С.М. Соболева. 3 января 1956 г." Исторические Материалы. Cyrchwyd 25 February 2023.
  13. Rotfeld, Adam Daniel; Torkunov, Anatoly (14 August 2015). White Spots—Black Spots: Difficult Matters in Polish-Russian Relations, 1918–2008. doi:10.2307/j.ctt166grd4.
  14. Pohl, Jonathan Otto (1999). Ethnic Cleansing in the USSR, 1937–1949. Westport, CN: Greenwood Press. t. 122. ISBN 978-0313309212. OCLC 40158950.
  15. Knight 1996, t. 143.
  16. Parrish 1996.
  17. Knight 1996, t. 151.
  18. Montefiore 2003, t. 642n.
  19. How Rivalries End, Karen Rasler et al. p.39
  20. Montefiore 2003, t. 639.
  21. Montefiore 2003, t. 605.
  22. Next to Stalin: Notes of a Bodyguard.
  23. Montefiore 2003, tt. 640–644.
  24. Montefiore 2003, tt. 638–641.
  25. 25.0 25.1 25.2 25.3 25.4 Montefiore 2003.
  26. Montefiore 2003, t. 571.
  27. 27.0 27.1 Montefiore 2003, t. 649.
  28. 28.0 28.1 Montefiore 2003, t. 650.
  29. "Stalin's mysterious death". Surg Neurol Int 2: 161. 2011. doi:10.4103/2152-7806.89876. PMC 3228382. PMID 22140646. https://surgicalneurologyint.com/surgicalint-articles/stalins-mysterious-death/.
  30. Brent & Naumov 2003.
  31. Wines, Michael (5 March 2003). "New Study Supports Idea Stalin Was Poisoned". The New York Times. Cyrchwyd 24 September 2022.
  32. Knight 1996, t. 184.
  33. Kozlov & Gilburd 2013, t. 111.
  34. Kozlov & Gilburd 2013, t. 112.
  35. Hardy 2016.
  36. Kozlov & Gilburd 2013, t. 114.
  37. Knight 1996, t. 187.
  38. Knight 1996, t. 190.
  39. Wydra, Harald (2007). Communism and the Emergence of Democracy. Cambridge, England: Cambridge University Press. t. 165. ISBN 978-0-521-85169-5.
  40. Gaddis, John Lewis (2005). The Cold War: a new history. New York City: Penguin Press. ISBN 1-59420-062-9.
  41. Knight 1996.
  42. Andrew, Christopher; Gordievsky, Oleg (1990). "11". KGB: The Inside Story (arg. 1st). New York: HarperCollins Publishers. tt. 423–424. ISBN 0-06-016605-3.
  43. Kramer, Mark (1999). "The Early Post-Stalin Succession Struggle and Upheavals in East-Central Europe: Internal-External Linkages in Soviet Policy Making (Part 2)". Journal of Cold War Studies 1 (2): 3–38. ISSN 1520-3972. JSTOR 26925014. https://www.jstor.org/stable/26925014.
  44. Rhodes 1995.
  45. Jansen, Marc; Petrov, Nikita (2002). Stalin's Loyal Executioner: People's Commissar Nikolai Ezhov, 1895–1940. Stanford, California: Hoover Institution Press. tt. 186–189. ISBN 0-8179-2902-9.
  46. Medvedev, Zhores & Medvedev, Roy (2003), The Unknown Stalin, trans.
  47. Rayfield, Donald (2005). Stalin and His Hangmen: The Tyrant and Those Who Killed for Him. New York City: Random House. tt. 466–467. ISBN 978-0-375-75771-6.
  48. Sudoplatov 1995.
  49. Knight 1996, t. 97.
  50. 50.0 50.1 Montefiore, Simon Sebag (3 June 2010). Stalin: The Court of the Red Tsar (yn Saesneg). Orion. tt. chapter 45. ISBN 978-0-297-86385-4.
  51. Montefiore 2003, t. 507.
  52. Sixsmith, Martin (2011). Russia: A 1,000-Year Chronicle of the Wild East. Random House. t. 396. ISBN 978-1-4464-1688-4.
  53. Sixsmith, Martin. "The Secret Speech/The Scramble For Power". BBC. https://www.bbc.co.uk/iplayer/episode/b012wjcx/Russia_The_Wild_East_Series_2_The_Secret_Speech_Scramble_for_Power/.
  54. The Soviet Union as Reported by Former Soviet Citizens; Interview Report No.5 (Washington D.C.: United States Department of State, September 1952), p. 4.

Cyfeirnodau[golygu | golygu cod]

Gwall cyfeirio: Mae tag <ref> ag enw "Europarl" a ddiffinir yn y grŵp <references> "" heb gynnwys.
Gwall cyfeirio: Mae tag <ref> ag enw "US DOE" a ddiffinir yn y grŵp <references> "" heb gynnwys.
Gwall cyfeirio: Mae tag <ref> ag enw "scmp.com" a ddiffinir yn y grŵp <references> "" heb gynnwys.
Gwall cyfeirio: Mae tag <ref> ag enw "PBS on Beria" a ddiffinir yn y grŵp <references> "" heb gynnwys.
Gwall cyfeirio: Mae tag <ref> ag enw "Shepard" a ddiffinir yn y grŵp <references> "" heb gynnwys.
Gwall cyfeirio: Mae tag <ref> ag enw "Grim" a ddiffinir yn y grŵp <references> "" heb gynnwys.
Gwall cyfeirio: Mae tag <ref> ag enw "festival-cannes.com" a ddiffinir yn y grŵp <references> "" heb gynnwys.
Gwall cyfeirio: Mae tag <ref> ag enw "8MNXZ" a ddiffinir yn y grŵp <references> "" heb gynnwys.
Gwall cyfeirio: Mae tag <ref> ag enw "BZhAK" a ddiffinir yn y grŵp <references> "" heb gynnwys.
Gwall cyfeirio: Mae tag <ref> ag enw "UW22i" a ddiffinir yn y grŵp <references> "" heb gynnwys.
Gwall cyfeirio: Mae tag <ref> ag enw "N2234" a ddiffinir yn y grŵp <references> "" heb gynnwys.
Gwall cyfeirio: Mae tag <ref> ag enw "eNhia" a ddiffinir yn y grŵp <references> "" heb gynnwys.
Gwall cyfeirio: Mae tag <ref> ag enw "Ce9Je" a ddiffinir yn y grŵp <references> "" heb gynnwys.
Gwall cyfeirio: Mae tag <ref> ag enw "O2v7D" a ddiffinir yn y grŵp <references> "" heb gynnwys.
Gwall cyfeirio: Mae tag <ref> ag enw "kqEnO" a ddiffinir yn y grŵp <references> "" heb gynnwys.
Gwall cyfeirio: Mae tag <ref> ag enw "kRN6N" a ddiffinir yn y grŵp <references> "" heb gynnwys.
Gwall cyfeirio: Mae tag <ref> ag enw "iydaV" a ddiffinir yn y grŵp <references> "" heb gynnwys.
Gwall cyfeirio: Mae tag <ref> ag enw "NvjKm" a ddiffinir yn y grŵp <references> "" heb gynnwys.
Gwall cyfeirio: Mae tag <ref> ag enw "tESE0" a ddiffinir yn y grŵp <references> "" heb gynnwys.
Gwall cyfeirio: Mae tag <ref> ag enw "5WqvZ" a ddiffinir yn y grŵp <references> "" heb gynnwys.
Gwall cyfeirio: Mae tag <ref> ag enw "71xqx" a ddiffinir yn y grŵp <references> "" heb gynnwys.
Gwall cyfeirio: Mae tag <ref> ag enw "wN58v" a ddiffinir yn y grŵp <references> "" heb gynnwys.
Gwall cyfeirio: Mae tag <ref> ag enw "I5bOd" a ddiffinir yn y grŵp <references> "" heb gynnwys.
Gwall cyfeirio: Mae tag <ref> ag enw "lSiCn" a ddiffinir yn y grŵp <references> "" heb gynnwys.
Gwall cyfeirio: Mae tagiau <ref> yn bodoli am grŵp o'r enw "note", ond ni ellir canfod y tag <references group="note"/>