Kay Matheson
Kay Matheson | |
---|---|
Ganwyd | 7 Rhagfyr 1928 Inverasdale |
Bu farw | 6 Gorffennaf 2013 |
Galwedigaeth | gwleidydd, athro |
Plaid Wleidyddol | Plaid Genedlaethol yr Alban |
Roedd Kay (Katrine Bell) Matheson (7 Rhagfyr 1928 - 6 Gorffennaf 2013) yn athrawes economeg y cartref a’r iaith Aeleg ac yn genedlaetholwr Albanaidd. Daeth i amlygrwydd fel un o’r pedwar myfyriwr o brifysgol Glasgow a fu’n gyfrifol am y cyrch i ryddhau'r Maen Sgàin o Abaty Westminster ym 1950.
Bywyd Cynnar
[golygu | golygu cod]Ganwyd Matheson yn Gairloch ger Inverasdale ar lannau Loch Ewe, Swydd Wester Ross, roedd hi’n ferch i grofftwr.
Derbyniodd ei haddysg mewn ysgolion lleol cyn symud ymlaen i Brifysgol Glasgow i hyfforddi i fod yn athrawes gwyddor gartref.
Cenedlaetholdeb
[golygu | golygu cod]Cafodd hen nain a thaid Matheson eu gorfodi i symud i lannau’r môr fel rhan o Gliriadau'r Ucheldiroedd, pan orfodwyd tyddynwyr oddi ar eu tir er mwyn gwneud lle i fagu defaid a hela. Gan hynny fu Matheson yn genedlaetholwr o oedran ifanc.
Yn y brifysgol daeth Matheson yn aelod o Gymdeithas Cenedlaetholwyr Albanaidd y brifysgol ac yn aelod o Gymdeithas Cyfamod yr Alban a oedd yn cael ei redeg gan John MacCormick, rheithor y Brifysgol. Trwy MacCormick daeth i gysylltiad â Ian Hamilton. Gwahoddodd Hamilton Matheson i fod yn bartner iddo yn nawns flynyddol y brifysgol. Wedi ei holi am ei threfniadau i fwrw’r Nadolig a chlywed ei bod am ddathlu gyda’i theulu, datgelodd Hamilton y gyfrinach mae ei fwriad ef oedd mynd i Lundain i ryddhau Maen Sgàin. Fel un oedd yn gallu gyrru cytunodd Kay yn unionsyth i fod yn yrrwr yr ymgyrch [1].
Maen Sgàin
[golygu | golygu cod]Ar Noswyl Nadolig 1950, teithiodd Hamilton, Matheson a dau fyfyriwr arall o brifysgol Glasgow, a oedd hefyd yn genedlaetholwyr, i Lundain i ryddhau Maen Sgàin o'i le o dan Gadair y Coroni yn Abaty Westminster.
Defnyddiwyd y maen, yn wreiddiol, i goroni brenhinoedd yr Alban. Cafodd ei gipio gan Edward I, brenin Lloegr, ym 1296 a’i symud i Loegr i gryfhau ei ymhoniad i orsedd yr Alban, yn yr un modd a gipiodd y Groes Naid a Thalaith Llywelyn, symbolau brenhinol Cymru ym 1285[2].
Ar ôl Deddfau Uno 1707 rhwng yr Alban a Lloegr fe'i defnyddiwyd ar gyfer coroni brenhinoedd Prydain. Trwy ei osod o dan gadair Coroni Lloegr bu modd i goroni Brenin Prydain yn Frenin Lloegr ac yn Frenin yr Alban ar yr un pryd. Gan hynny, mae cenedlaetholwyr yn clodfori gweithred y myfyrwyr, wrth ddychwelyd y maen i'r Alban, fel buddugoliaeth symbolaidd ar gyfer achos cenedlaethol yr Alban. Cafodd y maen ei gyflwyno i Eglwys yr Alban, yn olion hen Abaty Obar Bhrothaig[3].
Ildiodd yr Eglwys y maen i’r awdurdodau yn Lloegr yn Ebrill 1951. Cafodd Hamilton, Matheson a'u cynghreiriaid eu harestio a’u cyhuddo o ddwyn y maen, ond ni chawsant eu herlyn. Y rheswm pam na chawsant eu herlyn, yn ôl yr awdurdodau, oedd bod y gyfraith ar y pryd yn diffinio lladrad fel bwriad i amddifadu yn barhaol rhywun o'i meddiant, ond credai Hamilton mae’r gwirionedd oedd byddai carcharu’r cynghreiriaid yn creu cause celebre a chriw o ferthyron[4]. Dywedodd Matheson: Pobl yr Alban a’n achubasom, trwy ei wneud yn gwbl glir y byddai terfysgoedd os byddent yn ceisio ein herlyn[5]
Wrth ryddhau’r maen fe’i torrodd yn ddwy ran. Aeth Matheson a’r rhan leiaf i dŷ cydnabod ym Mirmingham, gan dybio y byddai ceir a oedd yn dychwelyd i’r Alban yn cael eu harchwilio. Wrth ei drosglwyddo syrthiodd y darn gan dorri bysedd ei throed a bu’n gloff, o’r herwydd, am weddill ei hoes[6]
Cafodd y maen ei ddychwelyd i'r Alban, yn y pen draw, ym 1996, gyda darpariaeth ar gyfer ei ddefnydd dilynol i goroni brenhinoedd Prydain. Cafodd y sawl fu’n rhan o’r lladrad a’u cefnogwyr eu gwahodd i fod yn rhan o ddathlu’r dychweliad, derbyniodd Matheson y gwahoddiad[7]
Ceartas
[golygu | golygu cod]Bu Matheson yn aelod amlwg o Ceratas, mudiad tebyg i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg a oedd yn brwydro dros hawliau’r iaith Aeleg, ac oedd yn defnyddio dulliau tebyg i’r Gymdeithas megis difrodi arwyddion uniaith.[5]
Plaid Genedlaethol yr Alban
[golygu | golygu cod]Bu Matheson yn aelod o’r SNP hyd ei farwolaeth, ac yn gyfaill mawr i’r AS Winnie Ewing. Yn etholiad cyffredinol 1983 safodd fel ymgeisydd yr SNP yn etholaeth Ross, Cromarty & Skye, cipiwyd yr etholaeth gan Charles Kennedy ar ran yr SDP.
Portreadau
[golygu | golygu cod]Yn 2008, ysgrifennodd a chyfarwyddwyd ffilm nodwedd am gipio Maen Sgàin gan Charles Martin Smith. Yn y ffilm Stone of Destiny mae Matheson yn cael ei phortreadu gan Kate Mara.[8]. Mewn ffilm Gaeleg am ran Matheson yn y digwyddiad An Ceasnachadadh cafodd hi ei phortreadu gan y gantores Kathlleen MacInnes
Bywyd Personol
[golygu | golygu cod]Wedi graddio bu Matheson yn gweithio fel athrawes economeg y cartref yn Ysgol Uwchradd Gairloch ac fel athrawes deithiol yn dysgu’r Aeleg mewn nifer o ysgolion cynradd.
Ni fu’n briod.
Bu farw mewn cartref nyrsio yn Aultbe, nepell o’r lle y ganwyd ger traethau Loch Ewe, yn 84 mlwydd oed.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Hamilton, Ian; Stone of Destiny t 35, Gwasg Berlini 2008; ISBN 9781841587295
- ↑ Smith, J. Beverly (2001). Llywelyn ap Gruffudd: Prince of Wales. Wales: University of Wales Press. t. 664 Pages. ISBN 0-7083-1474-0.
- ↑ "Castell Caeredin - The Stone of Destiny". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-01-29. Cyrchwyd 2017-03-16.
- ↑ Destiny Man
- ↑ 5.0 5.1 Kay matheson - obituary
- ↑ Kay Matheson adalwyd 23 Medi 2022
- ↑ "The Scotsman Obituary: Kay Matheson, teacher". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-05-02. Cyrchwyd 2017-03-16.
- ↑ Stone of Destiny (2008)IMDB Stone of Destiny