Y cyrch i ryddhau'r Maen Sgàin

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Maen Sgàin o dan Cadair y Coroni

Digwyddodd y Cyrch i Ryddhau'r Main Sgàin ar Ddydd Nadolig 1950, pan gymerodd pedwar o fyfyrwyr Prifysgol Glasgow (Ian Hamilton[1], Gavin Vernon[2], Kay Matheson[3] ac Alan Stuart) y maen o Abaty Westminster yn Llundain i'w dychwelyd i'r Alban. Roedd y myfyrwyr yn aelodau o Gymdeithas Cyfamod yr Alban, grŵp a oedd yn cefnogi hunan lywodraeth i'r Alban[4]. Yn 2008 cyhoeddwyd ffilm am y digwyddiad o'r enw Stone of Destiny.

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Maen Sgàin, yw'r garreg hynafol a defnyddiwyd er mwyn coroni brenhinoedd yr Alban. Yn 1296 cafodd ei ddwyn o Abaty Sgàin gan Edward I, Brenin Lloegr. Aed a'r maen i Abaty Westminster, Llundain lle cafodd ei gyfuno a chadair coroni Lloegr. Wedi hyn y coronwyd holl frenhinoedd Lloegr ar y gadair a'r maen fel symbol o'u honiad eu bod yn teyrnasu dros yr Alban yn ogystal â Lloegr.

Cyd-destun gwleidyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar ddiwedd y 19g a dechrau'r 20g roedd nifer o aelodau o'r Blaid Ryddfrydol yn cefnogi ymreolaeth i'r Alban a Chymru. Bu ymreolaeth hefyd yn bolisi gan y Blaid Lafur ers dyddiau Keir Hardie. Wedi dau ryfel byd roedd teimlad o undod gwladol wedi cryfhau yn arw ymysg rai o bobl y DU. Roedd llywodraeth Lafur 1945-1950 wedi troi cefn ar ddatganoli a thrwy ei bolisi o wladoli wedi canoli mwy o rym yn Llundain. Gydag llywodraeth Geidwadol newydd ei ethol yn San Steffan gyda chefnogaeth y Blaid Unoliaethol (chwaer blaid i'r Ceidwadwyr) yn yr Alban ar ei gryfaf a'r Blaid Genedlaethol yn cael dim ond 0.3% o'r bleidlais, roedd achos cenedlaethol yr Alban ar ei ben ôl. Roedd y cyrch ar Abaty Westminster yn siawns olaf i gadw fflam yr achos ynghyn[5].

Y cynllun[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym 1950, aeth Ian Hamilton, myfyriwr ym Mhrifysgol Glasgow at Gavin Vernon[2] cyd fyfyriwr gyda chynllun i symud y maen o Abaty Westminster a'i dychwelyd i'r Alban. Cafodd y cynllun ei ariannu gan ŵr busnes o Glasgow, Robert Gray, a oedd hefyd yn gynghorydd ar Gorfforaeth Glasgow. Cytunodd Vernon i gymryd rhan yn y cynllun fel y gwnaeth Kay Matheson ac Alan Stuart dau fyfyriwr arall yn y brifysgol. Trwy ryddhau'r maen roedd y grŵp yn gobeithio rhoi hwb i achos hunan lywodraeth ac ail gynnau ymdeimlad o hunaniaeth Albanaidd ymysg pobl y wlad[4]..

Symud y maen[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym mis Rhagfyr 1950, ychydig ddyddiau cyn y Nadolig, gyrrodd y pedwar myfyriwr o Glasgow i Lundain mewn dau Ford Anglia, siwrnai o 18 awr. Wrth gyrraedd Llundain cawsant cyfarfod byr mewn caffi gan benderfynu gwneud cais ar symud y maen yn ddioed[4]. Yn hwyrach yn y dydd cuddiodd Hamilton ei hun o dan droli yn yr Abaty, ond cafodd ei ddal gan oruchwyliwr y nos. Cafodd ei holi am be oedd o'n gwneud yn yr abaty wedi i'r lle cau, ac wedi rhoi esgus tila ei ollwng.

Ar y diwrnod canlynol dychwelodd Vernon a Stuart i'r Abaty gan ganfod gwybodaeth am arferion gwaith y goruchwylwyr[2]. Yng nghanol y nos cawsant mynediad i iard gwaith ger yr eglwys o ble roedd modd iddynt dorri fewn wrth ymyl Poet's Corner heb i neb sylwi arnynt. Wrth ryddhau'r maen o gadair y coroni fe syrthiodd ar lawr gan dorri'n dau ddarn. Llusgwyd y darn fwyaf i lawr grisiau'r allor ar gôt Hamilton ac aeth Hamilton a'r darn lleiaf i un o'r ceir.

Rhoddodd Hamilton y darn yng nghist y car ac aeth i mewn i'r car i egluro wrth Kay Matheson be oedd yn digwydd. Gwelodd Kay heddwas yn dod tuag at y car. Cogiodd Hamilton a Matheson eu bod yn gariadon yn cael cwtsh dirgel yn y car[3]. Wedi sgwrs fêr danfonodd yr heddwas y ddau ar eu ffordd. Gyrrodd Matheson y car i orsaf Victoria ond aeth Hamilton allan o'r car wedi i'r heddwas colli golwg ohonynt a rhedeg yn ôl i'w gyfeillion yn yr abaty[6].

O ddychwelyd i'r abaty doedd dim golwg o Vernon na Stuart. Llusgodd y rhan fwyaf o'r maen i'r ail gar. Wrth yrru i ffwrdd gwelodd y ddau arall yn cerdded tuag ato. Roedd y maen mor drwm roedd sbringiau'r car yn gwingo. I leihau'r pwysau daliodd Vernon y trên cyntaf allan o'r ddinas gan lanio yn Rugby. Gyrrodd Hamilton a Stuart i Swydd Gaint (yn groes o'r gyfeiriad i'r Alban) gan guddio'r darn mawr o'r maen mewn cae cyn dychwelyd i'r Alban. Gadawodd Matheson ei char hi gyda'r rhan leiaf o'r garreg yn ei gist yng nghanolbarth Lloegr cyn dychwelyd i'r Alban. O ganfod bod y maen ar goll caewyd y ffin rhwng Lloegr a'r Alban a bu chwilio pob cerbyd oedd yn ceisio croesi'r ffin. Roedd y chwilio mewn ofer gan fod y maen heb adael Lloegr.

Pythefnos yn ddiweddarach aeth Hamilton a rhai o'i gyfeillion i nôl y ddau ddarn o garreg a'u dychwelyd i'r Alban. Talodd Robert Grey saer maen i ail osod y ddau ddarn at ei gilydd.

Ym mis Ebrill 1951 cafodd yr heddlu gwybod bod y garreg wedi ei osod ar allor abaty Obar Bhrothaig,[7] lle cafodd Datganiad Obar Bhrothaig ei gyhoeddi ym 1320.

Er gwaethaf protestiadau gan genedlaetholwyr yr Alban cafodd y maen ei ddychwelyd i Abaty Westminster ym mis Chwefror 1952.

Cafodd y pedwar myfyriwr eu holi fel rhan o'r ymchwiliad i ddiflaniad y maen a chyfaddefodd Vernon, Matheson[8] a Stuart eu rhan yn y weithred. Penderfynodd yr Awdurdodau i beidio â'u herlyn gan fyddai achos llys yn debygol o achosi cynnwrf gwleidyddol[9]. Neu yn ôl Syr Hartley Shawcross y Twrnai Cyffredinol wrth annerch y Senedd:

"The clandestine removal of the Stone from Westminster Abbey, and the manifest disregard for the sanctity of the abbey, were vulgar acts of vandalism which have caused great distress and offence both in England and Scotland. I do not think, however, that the public interest required criminal proceedings to be taken."

Gwaddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Daeth y cyrch ar yr Abaty yn newyddion trwy'r byd ac fe lwyddodd i godi yr achos cenedlaethol i flaen y newyddion am gyfnod. Yn yr Alban ac yn rhannau eraill o'r Ymerodraeth Brydeinig oedd yn ymgyrchu am annibyniaeth daeth y myfyrwyr yn arwyr. Roedd gwleidyddion Lloegr wedi drysu braidd o sylwi nad oedd Lloegr a Phrydain yn cael ei gyfrif fel un ennyd di wahân gan bawb. Mae papurau Lloegr yn dal i ddisgrifio'r weithred fel student jape yn hytrach na weithred gwleidyddol.

Daeth rhyddhau Maen Sgàin yn rhan o fytholeg achosion hunan lywodraeth ac annibyniaeth yr Alban. Dychwelwyd y maen i'r Alban ym 1996 (mae bellach yng Nghastell Caeredin)[7] a phleidleisiodd yr Alban o blaid datganoli ym 1979.

Y cyrch mewn diwylliant poblogaidd[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 2008, trowyd llyfr Hamilton, The Taking of the Stone of Destiny, i mewn i ffilm o'r enw Stone of Destiny. Mae'r ffilm yn portreadu Hamilton (yn cael ei chware gan Charlie Cox) yn arwain tîm o fyfyrwyr i adennill y maen. Mae Hamilton ei hun yn â rôl cameo yn y ffilm[10].

Fe wnaeth BBC Alba ryddhau drama am Kay Matheson (yn cael ei chware gan Kathleen MacInnes) yn cael ei holi gan yr heddlu. Yn y fersiwn hon mae Matheson yn esgus peidio â gallu siarad Saesneg ac yn mynnu cael ei holi yn yr Aeleg.

Yn y gyfres deledu Highlander, mae'r bennod "The Stone of Scone" yn dangos y maen yn cael ei ddwyn a gyfnewid am gopi gan yr anfarwolion (yr Albanwr Duncan MacLeod a dau o'i ffrindiau), gyda stori gyflenwi sy'n cynnwys myfyrwyr yn cael ei ddefnyddio i guddio'r gweithred.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]