Datganiad Obar Bhrothaig
Enghraifft o: | datganiad o annibynniaeth |
---|---|
Iaith | Lladin |
Dechrau/Sefydlu | 6 Ebrill 1320 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae Datganiad Obar Bhrothaig ( Sgoteg: Declaration o Aiberbrothock; Lladin: Declaratio Arbroathis; Gaeleg yr Alban: Tiomnadh Bhruis; Saesneg: Declaration of Arbroath) yn ddatganiad o annibyniaeth yr Alban, a wnaed ym 1320. Mae ar ffurf llythyr yn Lladin a gyflwynwyd i'r Pab Ioan XXII, dyddiedig 6 Ebrill 1320. Ei bwriad oedd i gadarnhau statws yr Alban fel gwladwriaeth sofran annibynnol ac amddiffyn hawl yr Alban i ddefnyddio grym milwrol pan ymosodir arni'n anghyfiawn.
Credir yn gyffredinol iddo gael ei ysgrifennu yn Abaty Obar Bhrothaig gan Bernard o Kilwinning, Canghellor yr Alban ac Abad Obar Bhrothaig ar y pryd, [1] a'i selio gan bum deg un o fawrion ac uchelwyr y genedl. Y llythyr yw'r unig oroeswr o dri a grëwyd ar y pryd. Y lleill oedd llythyr gan Robert I, Brenin yr Alban, a llythyr gan bedwar esgob o'r Alban i gyd yn gwneud pwyntiau tebyg.
Trosolwg
[golygu | golygu cod]Roedd y Datganiad yn rhan o ymgyrch ddiplomyddol ehangach, a geisiodd pwysleisio safle’r Alban fel teyrnas annibynnol, [2] yn hytrach na thir ffiwdal a reolir gan frenhinoedd Normanaidd Lloegr, yn ogystal â chodi'r ddedfryd o ysgymuno a osodwyd ar Robert de Brus. [3] Roedd y pab wedi cydnabod honiad Edward I o Loegr i oruchafiaeth ar yr Alban ym 1305 a chafodd de Brus ei ysgymuno gan y Pab am lofruddio John Comyn gerbron yr allor yn Eglwys Greyfriars yn Dumfries ym 1306. [3]
Gwnaeth y Datganiad nifer o bwyntiau:
- bod yr Alban bob amser wedi bod yn annibynnol, yn wir am gyfnod hirach na Lloegr;
- bod Edward I o Loegr wedi ymosod yn anghyfiawn ar yr Alban ac wedi cyflawni erchyllterau;
- bod Robert de Brus wedi gwaredu cenedl yr Alban o'r perygl hwn;
- annibyniaeth pobl yr Alban oedd annibyniaeth yr Alban, yn hytrach na Brenin yr Alban.
Testun
[golygu | golygu cod]Mae'r testun llawn yn Lladin (a chyfieithiad yn Saesneg), i'w gweld ar dudalen Declaration of Arbroath ar Wicidestun Saesneg.
-
Rhan o Ddatganiad Obar Bhrothaig
Llofnodwyr
[golygu | golygu cod]Mae 39 enw - wyth iarll a thri deg un barwn - ar ddechrau'r ddogfen, y gallai pob un ohonyn nhw fod â'u seliau wedi'u hatodi, dros gyfnod o rai wythnosau a misoedd mae'n debyg, gydag uchelwyr yn anfon eu seliau i'w defnyddio. Dim ond 19 sêl sydd ar y copi sy'n bodoli o'r Datganiad, ac o'r 19 o bobl hynny dim ond 12 sydd wedi'u henwi yn y ddogfen. Credir ei fod yn debygol bod o leiaf 11 yn fwy o seliau na'r 39 gwreiddiol wedi eu hatodi.[4] Yna aethpwyd â'r Datganiad i'r llys Pabaidd yn Avignon gan yr Esgob Kininmund, Syr Adam Gordon a Syr Odard de Maubuisson. [2]
Fe wnaeth y pab wrando ar y dadleuon a gynhwyswyd yn y Datganiad. Cafodd ei ddylanwadu gan gynnig o gefnogaeth gan yr Albanwyr ar gyfer ei groesgad hir ddymunol os nad oedd yn rhaid iddynt ofni goresgyniad gan Loegr mwyach. Anogodd y pab, trwy lythyr i Edward II i wneud heddwch â'r Albanwyr. Y flwyddyn ganlynol perswadiwyd y Saeson y pab i gymryd eu hochr hwy eto a chyhoeddodd chwe bwla i'r perwyl hwnnw. [5] Ddim tan wyth mlynedd yn ddiweddarach, ar 1 Mawrth 1328 arwyddodd brenin newydd Lloegr, Edward III, gytundeb heddwch rhwng yr Alban a Lloegr, Cytundeb Caeredin-Northampton. Yn y cytundeb hwn, a oedd i bob pwrpas am bum mlynedd hyd 1333, ymwrthododd Edward â holl hawliadau Lloegr ar yr Alban. Wyth mis yn ddiweddarach, ym mis Hydref 1328, cafodd y ddedfryd o waharddiad a roddwyd ar yr Alban, a'r ddedfryd o ysgymuno ar ei brenin, eu dileu gan y Pab. [5]
Copïau llawysgrif
[golygu | golygu cod]Collwyd y copi gwreiddiol o'r Datganiad a anfonwyd at Avignon. Mae copi o'r Datganiad wedi goroesi ymhlith papurau gwladol yr Alban, sy'n mesur 540mm o led a 675mm o hyd (gan gynnwys y seliau), mae'n cael ei ddal gan Archif Genedlaethol yr Alban yng Nghaeredin.[6]
Rhestr o lofnodwyr
[golygu | golygu cod]Rhestrir isod lofnodwyr Datganiad Obar Bhrothaig ym 1320.[7]
Mae'r datganiad ei hun wedi'i ysgrifennu yn Lladin. Mae'n defnyddio'r fersiynau Lladin o deitlau'r llofnodwyr, ac mewn rhai achosion, mae sillafu enwau wedi newid dros y blynyddoedd.
- Donnchadh IV, Iarll Fife
- Thomas Randolph, Iarll 1af Moray
- Patrick Dunbar, Iarll Dunbar
- Malise, Iarll Strathearn
- Malcolm, Iarll Lennox
- William, Iarll Ross
- Magnús Jónsson, Iarll Ynysoedd Erch
- William de Moravia, Iarll Sutherland
- Walter, Uchel Stiward yr Alban (
- William de Soules, Arglwydd Liddesdale a Bwtler yr Alban
- Syr James Douglas, Arglwydd Douglas
- Roger de Mowbray, Arglwydd Barnbougle a Dalmeny
- David, Arglwydd Brechin
- David de Graham o Kincardine
- Ingram de Umfraville
- John de Menteith, gwarcheidwad iarllaeth Menteith
- Alexander Fraser o Touchfraser a Cowie
- Gilbert de la Hay, Cwnstabl yr Alban
- Robert Keith, Marischal yr Alban
- Henry St Clair o Rosslyn
- John de Graham, Arglwydd Dalkeith, Abercorn & Eskdale
- David Lindsay o Crawford
- William Oliphant, Arglwydd Aberdalgie a Dupplin
- Patrick de Graham o Lovat
- John de Fenton, Arglwydd Baikie a Beaufort
- William de Abernethy o Saltoun
- David Wemyss o Wemyss
- William Mushet
- Fergus o Ardrossan
- Eustace Maxwell o Gaerlaverock
- William Ramsay
- William de Monte Alto, Arglwydd Ferne
- Alan Murray
- Donald Campbell
- John Cameron
- Reginald le Chen, Arglwydd Inverugie a Duffus
- Alexander Seton
- Andrew de Leslie
- Alexander Straiton
Yn ogystal, nid yw enwau'r canlynol yn ymddangos yn nhestun y ddogfen, ond mae eu henwau wedi'u hysgrifennu ar dagiau sêl ac mae eu seliau yn bresennol:[8]
- Alexander de Lamberton
- Edward Keith
- Arthur Campbell
- Thomas de Menzies
- John de Inchmartin
- John Duraunt
- Thomas de Morham
Etifeddiaeth
[golygu | golygu cod]Yn 2016 gosodwyd Datganiad Obar Bhrothaig ar gofrestr Cof y Byd, UNESCO.[9]
Yn 2020 roedd Albanwyr yn bwriadu dathlu 700 mlynedd ers cyhoeddi Datganiad Obar Bhrothaig gyda digwyddiadau o wahanol fathau, ond cawsant eu canslo neu eu gohirio oherwydd y pandemig coronafirws.[10]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Scott 1999, t. 196.
- ↑ 2.0 2.1 Barrow 1984.
- ↑ 3.0 3.1 Lynch 1992.
- ↑ "The seals on the Declaration of Arbroath". Archif Genedlaethol yr Alban. Cyrchwyd 4 Ebrill 2020.
- ↑ 5.0 5.1 Scott 1999.
- ↑ "Archif Genedlaethol yr Alban". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-04-09. Cyrchwyd 2020-04-04.
- ↑ Brown, Keith. "The Records of the Parliaments of Scotland to 1707". Records of the Parliaments of Scotland. Archif Genedlaethol yr Alban. Cyrchwyd 3 Ebrill 2020.
- ↑ "Declaration of Arbroath - Seals". Archif Genedlaethol yr Alban. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-01-06. Cyrchwyd 2020-04-04.
- ↑ "Declaration of Arbroath awarded Unesco status". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 4 Ebrill 2020.
- ↑ "Coronavirus fears force All Under One Banner to delay Arbroath march". The National. Cyrchwyd 2020-04-04.