Ian Hamilton

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Ian Hamilton
Ganwyd 13 Medi 1925 Edit this on Wikidata
Paisley Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Yr Alban Yr Alban
Alma mater
Galwedigaeth Cyfreithiwr, Bargyfreithiwr, Ysgrifennwr, Gwleidydd Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol Plaid Genedlaethol yr Alban Edit this on Wikidata

Mae Ian Robertson Hamilton, QC (ganwyd 13 Medi, 1925) yn gyfreithiwr ac yn genedlaetholwr Albanaidd. Mae'n fwyaf adnabyddus am ei ran yn y cyrch i ryddhau'r Maen Sgàin o Abaty Westminster ym 1950.[1]

Bywyd Cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Hamilton yn Pàisilig, yr Alban ar 13 Medi 1925, yn fab i deiliwr. Cafodd ei addysgu yn Sefydliad John Neilson, Pàisilig. Wedi cyfnod o wasanaeth cenedlaethol (gwasanaeth milwrol gorfodol) yn yr RAF aeth i Brifysgolion Glasgow a Chaeredin i astudio'r gyfraith.

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Galwyd Hamilton i Far yr Alban ym 1950 ac i Far Alberta, Canada ym 1982, cafodd ei godi yn Gwnsler y Frenhines (Alban) ym 1980. Ym 1962 cafodd ei benodi’n Eiriolwr Dirprwyol (Advocate Depute, cyfreithiwr sy’n erlyn ar ran y goron yng nghyfraith yr Alban). Ym 1969 ymadawodd a’i waith cyfreithiol er mwyn gweithio i Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn yr Alban ac i gadw fferm. Dychwelodd i’r gyfraith ym 1974.[2]

Sylfaenodd Gwasg Castle Wynd Printers, Caeredin ym 1955, er mwyn cyhoeddi pedwar cyfrol o farddoniaeth gan y bardd a’r cenedlaetholwr Hugh MacDiarmid.

Gwasanaethodd fel Cyfarwyddwr Cyfreitha Sifil Gweriniaeth Zambia rhwng 1964 a 1966.[2]

Cenedlaetholdeb[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn y brifysgol daeth Hamilton yn wleidyddol weithgar. Bu’n cyfrannu i ddadleuon Undeb Prifysgol Glasgow, roedd yn aelod o Gymdeithas Cenedlaetholwr yr Alban y brifysgol ac yn aelod o Gymdeithas Cyfamod yr Alban. Bu hefyd yn rheolwr yr ymgyrchu i ethol y cenedlaetholwr John MacCormick yn Rheithor y Brifysgol.[3]

Maen Sgàin[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar Noswyl Nadolig 1950, teithiodd Hamilton, â thri o fyfyrwyr eraill y brifysgol a oedd hefyd yn genedlaetholwyr; Kay Matheson, Gavin Vernon ag Alan Stuart, i Lundain i ryddhau Maen Sgàin o'i le o dan Gadair y Coroni yn Abaty Westminster. Defnyddiwyd y maen, yn wreiddiol, i goroni brenhinoedd yr Alban. Cafodd ei gipio gan Edward I, brenin Lloegr, ym 1296 a’i symud i Loegr i gryfhau ei ymhoniad i orsedd yr Alban, yn yr un modd a gipiodd y Groes Naid a Thalaith Llywelyn, symbolau brenhinol Cymru ym 1285[4]. Ar ôl Deddfau Uno 1707 rhwng yr Alban a Lloegr fe'i defnyddiwyd ar gyfer coroni brenhinoedd Prydain. Trwy ei osod o dan gadair Coroni Lloegr bu modd i goroni Brenin Prydain yn Frenin Lloegr ac yn Frenin yr Alban ar yr un pryd. Gan hynny, mae cenedlaetholwyr yn clodfori gweithred Hamilton, wrth ddychwelyd y maen i'r Alban, fel buddugoliaeth symbolaidd ar gyfer achos cenedlaethol yr Alban. Cafodd y maen ei gyflwyno i Eglwys yr Alban, yn olion hen Abaty Obar Bhrothaig[5]. Ildiodd yr Eglwys y maen i’r awdurdodau yn Lloegr ym mis Ebrill 1951. Cafodd Hamilton a'i gynghreiriaid eu harestio a’u cyhuddo o ddwyn y maen, ond ni chawsant eu herlyn. Y rheswm pam na chawsant eu herlyn, yn ôl yr awdurdodau, oedd bod y gyfraith ar y pryd yn diffinio lladrad fel bwriad i amddifadu yn barhaol rhywun o'i meddiant, ond credai Hamilton mae’r gwirionedd oedd byddai carcharu’r cynghreiriaid yn creu cause celebre a chriw o ferthyron[6]

Cafodd y maen ei ddychwelyd i'r Alban, yn y pen draw, ym 1996, gyda darpariaeth ar gyfer ei ddefnydd dilynol i goroni brenhinoedd Prydain.

Yn 2008, ysgrifennodd a chyfarwyddwyd ffilm nodwedd am y digwyddiadau hyn gan Charles Martin Smith. Yn y ffilm Stone of Destiny mae Hamilton yn cael ei bortreadu gan Charlie Cox. Roedd gan Hamilton ei hun rhan fach yn y ffilm fel gŵr busnes Saesnig.[7]

Achos MacCormick v Yr Arglwydd Adfocad[golygu | golygu cod y dudalen]

Pan gafodd Elizabeth II ei chodi i Frenhiniaeth Lloegr ym 1952, bu’n rhaid i gyfreithwyr talu llw o deyrngarwch iddi. Gwrthododd John MacCormick a Hamilton i wneud hynny gan ddadlau gan nad oedd Elizabeth I yn frenhines yr Alban dim ond Y Frenhines Elizabeth (heb rif teyrnasiad) oedd y frenhines newydd yn yr Alban. Roedd yr achos yn un symbolaidd, i brofi mae “gwlad ar wahân” oedd yr Alban o fewn y Deyrnas Unedig, nid yn rhan o un wlad o’r enw'r DU. Collwyd yr achos gan i’r Llys Sesiwn barnu bod teitl y brenin neu'r frenhines i’w bennu trwy uchelfraint y sofran. (Cyhoeddodd y prif weinidog ar y pryd, Winston Churchill, byddai arfer newydd o ddefnyddio’r uchaf o'r ddau rifolyn dilyniant Lloegr neu’r Alban yn cael ei ddefnyddio yn y dyfodol. Mae'r system hon eto i'w rhoi ar brawf).

Etholiadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Safodd Hamilton fel ymgeisydd yr SNP ar gyfer sedd Dwyrain Strathclyde yn etholiad Senedd Ewrop 1994 ac fel ymgeisydd yr SNP yn etholaeth Greenock ac Inverclyde yn etholiad 1999 i Senedd yr Alban. Ni chafodd ei ethol.

Gwasanaeth cyhoeddus[golygu | golygu cod y dudalen]

Gwasanaethodd Hamilton fel Siryf Swydd Lanark ym 1967 a Siryf Glasgow a Strathkelvin, Mai-Rhagfyr 1984;

Sylfaenodd Ymddiriedolaeth Whichway, i ddarparu hyfforddiant antur i droseddwyr ifanc ym 1988 gan wasanaethu fel cadeirydd cyntaf yr ymddiriedolaeth. Gwasanaethodd fel prif beilot Clwb Parasiwt yr Alban rhwng 1978 a 1980.

Gwasanaethodd fel Llywydd Anrhydeddus Undeb Myfyrwyr Prifysgol Heriot-Watt, Caeredin rhwng 1990 a 1996; Rheithor Prifysgol Aberdeen rhwng 1994 a 1996. Cafodd ei ddethol gan fyfyrwyr Cymdeithas Cenedlaetholwyr Prifysgol Glasgow fel ymgeisydd ar gyfer etholiad Rheithor y Brifysgol ym 1999 ond cafodd ei drechu gan ymgeisydd papur yr unoliaethwyr, yr actor Eastenders, Ross Kemp.

Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • No Stone Unturned, 1952
  • The Tinkers of the World, 1957 (Drama)
  • The Taking of the Stone of Destiny, 1991
  • A Touch of Treason, 1990 (hunangofiant)
  • A Touch More Treason, 1994 (hunangofiant)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Ian R. Hamilton adalwyd 13 Mawrth, 2017
  2. 2.0 2.1 HAMILTON, Ian Robertson, Who's Who 2017, A & C Black, an imprint of Bloomsbury Publishing plc, 2017; online edn, Oxford University Press, 2016 ; online edn, Nov 2016 accessed 13 March 2017
  3. Siol nan Gaidheal Ian Hamilton - Patriot and Nationalist
  4. Smith, J. Beverly (2001). Llywelyn ap Gruffudd: Prince of Wales. Wales: University of Wales Press. p. 664 Pages. ISBN 0-7083-1474-0.
  5. Castell Caeredin - The Stone of Destiny
  6. Destiny Man
  7. Stone of Destiny (2008)