Neidio i'r cynnwys

John Thomas (Ifor Cwmgwys)

Oddi ar Wicipedia
John Thomas
Ganwyd1813 Edit this on Wikidata
Pentre Gwenlais Edit this on Wikidata
Bu farw26 Rhagfyr 1866 Edit this on Wikidata
Pontypridd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd, mwynwr Edit this on Wikidata

Roedd John Thomas (Ifor Cwmgwys) (181326 Rhagfyr, 1866) yn fardd Cymreig.[1]

Cefndir

[golygu | golygu cod]

Ganwyd Ifor Cwmgwys ym Mhentref Gwenlais, Llandybïe yn blentyn i Evan Davies, amaethwr, a Mary ei wraig. Ni chafodd unrhyw addysg ffurfiol a ni ddysgodd darllen nac ysgrifennu hyd ei fod yn ei 30au.

Yn fachgen 10 mlwydd oed aeth i weithio i ffatri wlân a oedd yn eiddo i Job Davies (Rhydderch Farfgoch), (tad cu Ann Rees (Ceridwen)). Roedd Rhydderch Farfgoch yn fardd gwlad amlwg yn ei fro ac yn eisteddfodwr brwd.

Yn 16 mlwydd oed ymadawodd a'r ffatri wlân ac aeth i weithio fel glöwr. Bu'n gweithio mewn pyllau yn Nowlais, Aberdâr, Cwm Twrch ac Ystalyfera. O herwydd diffyg anadl, a phriodolwyd i'r clefyd asthma [2] bu'n rhaid iddo roi'r gorau i weithio yn y pyllau glo.

Priododd Ifor Cwmgwys a Rachel, merch ei gyn cyflogwr Job Davies, pan oedd tua 30 mlwydd oed. Ymysg eu plant roedd y Parch Ifor Thomas, gweinidog capel yr Annibynwyr Cymraeg yn ninas Taylor, Pennsylvania.[3]. Rachel ddysgodd Ifor Cwmgwys sut i ddarllen ac ysgrifennu.

Mae'n debyg mae Rhydderch Farfgoch bu'n gyfrifol am fagu diddordeb Ifor mewn barddoniaeth ac am ei ddysgu elfennau'r grefft. Fe ddaeth yn rhigymwr galluog yn lled fuan a dod yn dribannwr ac englynwr medrus cyn ei fod yn ugain mlwydd oed. Gan ei fod yn anllythrennog byddai'n cyfansoddi yn ei ben ac yn cadw ei gerddi ar gof hyd gael hyd i rywun byddai'n fodlon eu gosod ar bapur ar ei ran. Wedi gorfod rhoi'r gorau i'w waith yn y pyllau glo gwobrau eisteddfodol oedd ei brif ffynhonnell incwm. Mewn coffa amdano meddai gohebydd Baner ac Amserau Cymru: Diau na ddarfu i neb yng Nghymru ennill chwaneg o wobrau mewn eisteddfodau nag ef.[4]

Cyhoeddwyd dwy gyfrol o'i waith: Ceinion Glan Gwenlais, 1862, a Diferion Meddyliol, 1865.[1]

Marwolaeth

[golygu | golygu cod]

Bu farw yng Nghwm Rhondda yn 53 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Capel Rhondda, Pontypridd.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 "THOMAS, JOHN ('Ifor Cwmgwys'; 1813 - 1866), bardd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-10-30.
  2. "CYMMER - The Cardiff Times". David Duncan and William Ward. 1867-01-12. Cyrchwyd 2019-10-30.
  3. "Y PARCH IVOR THOMAS TAYLOR PA - Y Tyst". Joseph Williams. 1897-11-17. Cyrchwyd 2019-10-30.
  4. "Marwolaeth Ifor Cwmgwys - Baner ac Amserau Cymru". Thomas Gee. 1867-01-09. Cyrchwyd 2019-10-30.