Triban

Oddi ar Wicipedia

O'r hen englyn cyrch y tyfodd y mesur rhydd cynnar a elwir y triban (amrywiad hynafiaethol: truban). Ceir enghreifftiau o dribannau o bob rhan o Gymru, ond roedd yn enwedig o boblogaidd ym Morgannwg ac felly cyfeirir ato weithiau fel Triban Morgannwg.

Pennill o bedair llinell yw'r triban, gyda saith sillaf yn y llinell gyntaf, yr ail a'r bedwaredd, ac wyth yn y drydedd. Ac eithrio'r drydedd llinell mae'r llinellau hyn yn diweddu'n ddiacen ac yn odli, ond mae'r drydedd llinell yn ddiweddu'n acennog gyda chyrch odl â gair yn y bedwaredd llinell.[1]

Enghraifft:

Tri pheth sy'n anodd 'nabod -
Dyn, derwen a diwrnod:
Y dydd yn hir, y pren yn gau,
A'r dyn yn ddauwynebog.[2]

Tybir y bu'r triban yn un o fesurau'r Glêr yn yr Oesoedd Canol. Daw'r enghreifftiau cynharaf sydd ar glawr o'r 16g. Daeth yn fesur poblogaidd iawn a genid drwy Gymru benbaladr. Ond mae'n nodweddiadol hefyd o draddodiad canu rhydd gwerinol Morgannwg lle ceir enghreifftiau sy'n gysylltiedig â defod y Fari Lwyd ac arferion gwerin eraill e.e. Cân y Cythreiniwr sy'n gadwyn o dribanau.

'Triban' yw'r enw ar hen fathodyn Plaid Cymru hefyd, am ei bod yn cynnwys tri ban, sef tri thriongl yn cynrychioli mynyddoedd Cymru. Lluniwyd y bathodyn gan Richard Huws.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Morgan D. Jones, Termau Iaith a Llên (Gwasg Gomer, 1972), d.g. triban.
  2. T. H. Parry Williams (gol.), Hen Benillion.