Jeremy Miles
Jeremy Miles AS | |
---|---|
Llun swyddogol, 2024 | |
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Iaith Gymraeg | |
Mewn swydd 21 Mawrth 2024 – 16 Gorffennaf 2024 | |
Prif Weinidog | Vaughan Gething |
Rhagflaenwyd gan | Vaughan Gething (Economi) Ei hun (Iaith Gymraeg) |
Gweinidog Pontio Ewropeaidd | |
Mewn swydd 13 Rhagfyr 2018 – 13 Mai 2021 | |
Prif Weinidog | Mark Drakeford |
Rhagflaenwyd gan | Mark Drakeford |
Aelod o Senedd Cymru dros Gastell-nedd | |
Deiliad | |
Cychwyn y swydd 6 Mai 2016 | |
Prif Weinidog | Mark Drakeford |
Rhagflaenwyd gan | Gwenda Thomas |
Mwyafrif | 2,923 (11.5%) |
Gweinidog y Gymraeg | |
Deiliad | |
Cychwyn y swydd 13 Mai 2021 | |
Prif Weinidog | Mark Drakeford |
Rhagflaenwyd gan | Eluned Morgan |
Gweinidog Addysg | |
Deiliad | |
Cychwyn y swydd 13 Mai 2021 | |
Prif Weinidog | Mark Drakeford |
Rhagflaenwyd gan | Kirsty Williams |
Manylion personol | |
Cenedl | Cymru |
Plaid wleidyddol | Llafur Cymru |
Cabined | Cwnsler Cyffredinol Cymru |
Gwefan | jeremymiles.cymru |
Gwleidydd Llafur Cymru yw Jeremy Miles sydd wedi cynrychioli etholaeth Castell-nedd yn Senedd Cymru ers etholiad 2016.[1]
Addysg
[golygu | golygu cod]Addysgwyd Jeremy yn Ysgol Gyfun Ystalyfera, ac astudiodd y gyfraith yng Ngoleg Newydd, Rhydychen. Tra yn fyfyriwr, roedd yn aelod o Gymdeithas Dafydd ap Gwylim
Gyrfa wleidyddol
[golygu | golygu cod]Dewiswyd Miles fel ymgeisydd newydd Llafur Cymru dros etholaeth Castell-nedd ar gyfer etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2016 yn dilyn ymddeoliad yr aelod blaenorol Gwenda Thomas.[2] Ar 5 Mai 2016, cafodd ei hethol yn Aelod Cynulliad; derbyniodd 9,468 o'r 25,363 pleidlais a fwriwyd (37.3%).[3]
Fe'i enwebwyd yn Cwnsler Cyffredinol Cymru ar 3 Tachwedd 2017 gan y Prif Weinidog Carwyn Jones. Cadarnhawyd y swydd drwy bleidlais ar 14 Tachwedd 2017
Ym Mawrth 2018, cyflwynodd ddeddfwriaeth ddrafft a fyddai'n creu cyfundrefn i ddatblygu llyfr statud o Gyfraith Gyfoes Cymru, a fyddai'n gwneud Cymru y cyntaf o wledydd Prydain i drefnu ei chyfreithiau yn y ffordd yma. Byddai'r llyfr statud yn cael ei gynllunio i wella hygyrchedd i Ddeddfau Cymru ar gyfer cyfreithwyr a'r boblogaeth yn gyffredinol.[4]
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Mae Miles yn un o'r tri aelod hoyw agored cyntaf o Gynulliad Cymru ar ei etholiad yn 2016.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 AC hoyw neu lesbiaidd: 'Carreg filltir mewn democratiaeth' , BBC Cymru Fyw, 6 Mai 2016. Cyrchwyd ar 9 Mai 2016.
- ↑ Martin Shipton. Economy Minister Edwina Hart and former deputy minister Gwenda Thomas to stand down as AMs at next Assembly elections , Wales Online, 19 Mehefin 2015. Cyrchwyd ar 9 Mai 2016.
- ↑ Castell-nedd Etholaeth (Cynulliad). BBC Cymru Fyw. Adalwyd ar 9 Mai 2016.
- ↑ Wales bill set to overhaul legislation (26 Mawrth 2018). Adalwyd ar 16 Ionawr 2019.