Ifor Owen

Oddi ar Wicipedia
Ifor Owen
Ganwyd3 Gorffennaf 1915 Edit this on Wikidata
Cefnddwysarn Edit this on Wikidata
Bu farw22 Mai 2007 Edit this on Wikidata
Dolgellau Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethpennaeth, darlunydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata

Awdur ac arlunydd o Gymro oedd Ifor Owen (3 Gorffennaf 191522 Mai 2007).

Fe'i ganwyd ym mhentref Cefnddwysarn, Meirionnydd, a chafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg y Bala a Choleg y Normal, Bangor.[1]

Roedd yn aelod cynnar Urdd Gobaith Cymru ym 1922 a chwaraeodd rhan bwysig yn ei gweithgareddau am gyfnod hir.

Yn 21 oed fe'i penodwyd yn brifathro ysgol gynradd Croesor, lle arhosodd hyd at 1948. Roedd yn bennaeth ysgol bentref Gwyddelwern o 1948 i 1954 ac yn brifathro cyntaf Ysgol O. M. Edwards yn Llanuwchllyn, o 1954 i 1976.

Roedd galw mawr amdano fel darlunydd bob amser. Y llyfr cyntaf a ddarluniodd oedd Yr Hen Wraig Bach a'i Mochyn (1946). Wedyn cafodd lawer o gomisiynau gan gyhoeddwyr Cymru, yn eu plith Yr Hogyn Pren gan E. T. Griffiths (addasiad Cymraeg o stori Pinocio gan Carlo Collodi) a Hunangofiant Tomi gan Edward Tegla Davies.

Ysgrifennodd, arlunodd a chyhoeddodd Hwyl, y llyfr comic Cymraeg cyntaf i blant, a gyhoeddwyd gyntaf ym 1949 a pharhaodd hyd at 1989.

Fe'i dyfarnwyd Gwobr Mary Vaughan Jones am llenyddiaeth plant ym 1985 a Medal Syr T.H. Parry-Williams yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam a'r cylch 1977.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Meic Stephens, "Ifor Owen: Teacher and Illustrator", The Independent, 31 Mai 2007