Hunangofiant Tomi
Gwedd
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Iaith | Cymraeg |
Y gyfrol gyntaf o waith Edward Tegla Davies i blant yw Hunangofiant Tomi. Fe'i gyhoeddwyd yn 1912, yng ngwasg Y Llyfrfa, Bangor. Llyfr bach 123 tudalen wedi ei argraffu'n ddestlus gan yr argraffydd Evan Thomas, gyda wyneb-ddalen gan y cyhoeddwr P. Jones-Roberts.
Cyfrol ydyw ar lun cyfres o hanesion dyddiadur dychmygol bachgen bach sy'n byw mewn pentref yng ngefn-gwlad Cymru. Mae'r iaith yn naturiol (yn ôl safon y cyfnod) a'r arddull yn ysgafn ac ysmala ac yn wahanol iawn i'r fath o "lyfrau plant" sur a difrifol, crefyddol eu naws, oedd yn cael eu cynnig i blant fel rheol. Dyma un enghraifft ohono, o'r bennod "Cader Ceridwen":
- Wyddoch chi bedi bardd, ac a welsoch chi un rywdro? Wel yn wir y mae o'r peth rhyfedda welsoch chi rioed. Mi chwarddwch nes y byddwch chi'n sal wedi i chi unweth weld un. Y mae ene fardd yn byw yn ein hardal ni, ac yr yden ni yn cael miloedd o sport efo fo. Dyn ydi bardd, wyddoch, wedi cael ei daro gan blaened...