Rhys Llwyd Y Lleuad
Gwedd
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/cy/thumb/f/f9/Tegla_Rhys_Llwyd_y_Lleuad_clawr.jpg/200px-Tegla_Rhys_Llwyd_y_Lleuad_clawr.jpg)
Cyfrol o straeon i blant gan Edward Tegla Davies yw Rhys Llwyd Y Lleuad. Cyhoeddwyd yr argraffiad cyntaf yn 1925 gan Hughes a'i Fab, Wrecsam, gyda chwech llun du a gwyn gan yr arlunydd Wilfred Mitford Davies.
Dyn bach o'r lleuad ydyw Rhys Llwyd, ac yn y llyfr ceir hanes ei anturiaethau rhyfedd yn nghwmni dau hogyn ifanc sy'n byw yng nghefn-gwlad Cymru.