Wilfred Mitford Davies
Gwedd
| Wilfred Mitford Davies | |
|---|---|
| Ganwyd | 23 Chwefror 1895 Porthaethwy |
| Bu farw | 19 Mawrth 1966 |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater |
|
| Galwedigaeth | celfyddydwr |
Darlunydd llyfrau plant Cymraeg oedd Wilfred Mitford Davies (23 Chwefror 1895 – 19 Mawrth 1966). Fe'i ganwyd ym Mhorthaethwy, Môn.
Mae'n debyg mai W. Mitford Davies yw'r mwyaf adnabyddus o arlunwyr llyfrau plant Cymru. Cafodd wahoddiad gan Ifan ab Owen Edwards i ddarlunio'r gyfres boblogaidd Cymru'r Plant yn 1922. Darluniodd nifer o lyfrau plant Cymraeg yn ystod ei yrfa hir.