Neidio i'r cynnwys

Hen Ffrindiau

Oddi ar Wicipedia
Clawr darluniedig argraffiad cyntaf Hen Ffrindiau gyda llun gan W. Mitford Davies (Hughes a'i Fab, Wrecsam, 1927)

Cyfrol o straeon byrion i blant gan Edward Tegla Davies yw Hen Ffrindiau, a gyhoeddwyd gan Hughes a'i Fab, Wrecsam, yn 1927. Ei deitl llawn yw, Hen Ffrindiau / Stori am gymeriadau / rhai o'r / Hen Benillion a'r Hen Ddywediadau.[1]

Ceir 12 pennod yn y llyfr a chyflwynir stori ddolennol sy'n llawn dychymyg a hiwmor ac sy'n seiledig yn fras ar gymeriadau traddodiadol o'r Hen Benillion, rhigymau poblogaidd a'r hen ddywediadau Cymraeg. Dyfynnir y pennill neu ddywediad perthnasol ar ddechrau pob pennod. Cawn hanesion ffraeth am gymeriadau fel y Cobler Coch o Ruddlan, y Ddafad Gorniog, yr Ebol Melyn, yr Iâr sy'n gori ar ben mynydd Penmaen-mawr, y Wraig ar ei ffordd i Gorwen, yr Eneth Deg Benfelen sy'n byw ym Mhen y Graig, a nifer o rai eraill.

Mae rhesymeg abswrd y straeon yn ymylu ar y swreal ar adegau, yn debyg i gerddi nonsens Edward Lear e.e. "The Owl and the Pussy-Cat" (1871).

Mae'r llyfr yn glasur bach i "blant o bob oed", gan gynnwys oedolion. Ceir lluniau du a gwyn gan yr arlunydd Cymreig Wilfred Mitford Davies.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Islwyn Ffowc Elis. "Davies, Edward Tegla (1880-1967), gweinidog (EF) a llenor". Y Bywgraffiadur Cymreig. Cyrchwyd 24 Gorffennaf 2025.


Edward Tegla Davies Tegla
Ar Ddisberod | Y Doctor Bach | Y Foel Faen | Gŵr Pen y Bryn | Gyda'r Blynyddoedd | Gyda'r Glannau | Hen Ffrindiau | Yr Hen Gwpan Cymun | Hunangofiant Tomi | Y Llwybr Arian | Nedw | Rhyfedd o Fyd | Rhys Llwyd Y Lleuad | Stori Sam | Tir Y Dyneddon