Le avventure di Pinocchio

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Pinocchio.jpg
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynol gwaith llenyddol Edit this on Wikidata
Awdur Carlo Collodi Edit this on Wikidata
Gwlad Yr Eidal Edit this on Wikidata
Iaith Eidaleg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi 1881 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu 7 Gorffennaf 1881 Edit this on Wikidata
Genre stori dylwyth teg, stori plant Edit this on Wikidata
Cymeriadau Pinocchio, Y Morgi Brawychus, Y Gyrrwr Coets, Lucignolo, Y dylwythen deg â gwallt glasfaen, Y Gath a'r Blaidd, Mangiafuoco, y Criciedyn sy'n Siarad, Mastro Geppetto, Y Pysgotwr Gwyrdd Edit this on Wikidata
Statws hawlfraint parth cyhoeddus, parth cyhoeddus Edit this on Wikidata
Erthygl am y nofel gan Carlo Collodi yw hon. Gweler hefyd Pinocchio (gwahaniaethu).

Nofel i blant yn yr iaith Eidaleg gan Carlo Collodi (1826–1890) yw Le avventure di Pinocchio. Mae'n adrodd hanes anturiaethau pyped direidus o'r enw Pinocchio a'i dad, cerfiwr coed tlawd o'r enw Mastro Geppetto, sy'n dod ar draws llu o gymeriadau cofiadwy eraill.

Fe'i cyhoeddwyd yn wreiddiol fel stori cyfres o dan y teitl La storia di un burattino ("Stori pyped") yn y Giornale per i bambini ("Papur newydd i blant"), un o'r cylchgronau wythnosol Eidalaidd cynharaf i blant, gan ddechrau o 7 Gorffennaf 1881. Daeth y stori i ben ar ôl bron i bedwar mis ond cychwynnodd eto ar 16 Chwefror 1882 ar ôl i ddarllenwyr fynnu cael rhagor. Cyhoeddwyd y stori mewn un gyfrol ym mis Chwefror 1883. Derbyniodd y llyfr adolygiadau brwd ac mae wedi aros mewn print byth ers hynny. Mae wedi'i gyfieithu i dros 300 o ieithoedd.

Mae'r stori'n llawn cymeriadau cryf, trawsnewidiadau hudol, a thema foesol bwerus. Yn aml, dehonglir y pyped Pinocchio fel ffigwr sy'n cynrychioli'r cyflwr dynol. Ystyrir y llyfr yn gampwaith o lenyddiaeth plant ac wedi cael effaith fawr ar ddiwylliant y byd. Mae wedi ysbrydoli cannoedd o addasiadau, dramâu llwyfan, marsiandïaeth, cyfresi teledu a ffilmiau, fel fersiwn animeiddiedig Walt Disney o 1940.

Cyhoeddwyd Le avventure di Pinocchio gyntaf ar ffurf cyfresol. Dyma dudalen flaen Giornale per i bambini, 14 Mehefin 1881, gyda dechrau pennod 3 o stori Collodi o dan ei theitl gwreiddiol, "La storia di un burattino".

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Yr Hogyn Pren, addasiad Cymraeg o Le avventure di Pinocchio gan E. T. Griffiths

Dolen allanol[golygu | golygu cod y dudalen]