Pinocchio (ffilm 1940)

Oddi ar Wicipedia
Pinocchio
Cyfarwyddwr Ben Sharpsteen
Wilfred Jackson
Hamilton Luske
Norman Ferguson
T.Hee
Jack Kinney
Bill Roberts
Cynhyrchydd Walt Disney
Dylunio
Cwmni cynhyrchu RKO Radio Pictures
Dyddiad rhyddhau 7 Chwefror, 1940
Amser rhedeg 88 munud
Gwlad Unol Daleithiau
Iaith Saesneg
(Saesneg) Proffil IMDb
Erthygl am y ffilm animeiddiedig gan Walt Disney yw hon. Gweler hefyd Pinocchio (gwahaniaethu).

Ffilm Disney yw Pinocchio [1] (Cyfieithiad swyddogol Cymraeg: "Pinocio").[2] Mae hi'n seiliedig ar y llyfr Le avventure di Pinocchio gan Carlo Collodi.[3]

Plot

Mae Jiminy Cricket yn esbonio i'r gynulleidfa ei fod yn mynd i adrodd stori am ddymuniad sy'n dod yn wir. Mae ei stori yn cychwyn yng ngweithdy saer coed Eidalaidd o'r enw Geppetto. Mae Jiminy yn gwylio wrth i Geppetto orffen gwaith ar farionét pren y mae'n ei enwi'n Pinocchio. Cyn cwympo i gysgu, mae Geppetto yn gwneud dymuniad ar seren y bydd Pinocchio yn troi'n fachgen go iawn. Yn ystod y nos, mae Tylwyth Teg Glas yn ymweld â'r gweithdy ac yn dod â Pinocchio yn fyw, er ei fod yn parhau i fod yn byped. Mae hi'n ei hysbysu, os bydd yn profi ei hun yn ddewr, yn eirwir ac yn anhunanol, y bydd yn dod yn fachgen go iawn ac yn penodi Jiminy i fod yn gydwybod iddo.

Mae Geppetto mewn sioc, ond ar ben ei ddigon, i ddarganfod bod ei byped yn fyw. Drannoeth, ar ei ffordd i'r ysgol, mae Pinocchio yn cael ei arwain ar gyfeiliorn gan Onest John y llwynog a'i gydymaith, Gideon y gath, sy'n ei argyhoeddi i ymuno â sioe bypedau Stromboli, er gwaethaf gwrthwynebiadau Jiminy. Daw Pinocchio yn seren sioeau Stromboli fel pyped sy'n gallu canu a dawnsio heb gael ei reoli gan gortynnau. Fodd bynnag, pan mae Pinocchio eisiau mynd adref am y noson, mae Stromboli yn ei gloi mewn cawell adar. Mae Jiminy yn sleifio i mewn i gert Stromboli ond nid yw'n gallu rhyddhau ei ffrind. Mae'r Tylwyth Teg Glas yn ymddangos ac yn gofyn i Pinocchio pam nad oedd yn yr ysgol. Mae Jiminy yn annog Pinocchio i ddweud y gwir, ond yn lle hynny, mae'n dechrau dweud celwyddau, sy'n achosi i'w drwyn dyfu'n hirach ac yn hirach. Mae Pinocchio yn addo bod yn dda o hyn ymlaen, ac mae’r Tylwyth Teg Glas yn dychwelyd ei drwyn i’w ffurf wreiddiol ac yn ei ryddhau gan ei rybuddio mai dyma'r tro olaf y gall ei helpu.

Ym mhen arall y dref, mae'r Honest John a Gideon yn cwrdd â choetmon sy'n addo talu arian iddynt os gallant ddod o hyd i fechgyn bach drwg iddo fynd â nhw draw i'r Ynys Pleser. Gan ddod ar draws Pinocchio ar ei ffordd adref, maen nhw'n ei argyhoeddi bod angen iddo fynd ar wyliau i'r Ynys. Ar y ffordd i'r Ynys Pleser, mae'n cyfeillio â Lampwick, bachgen drwg. Heb reolau nac awdurdod i orfodi eu gweithgaredd, buan y mae Pinocchio a’r bechgyn eraill yn cymryd rhan mewn ysmygu sigarau a sigaréts, gamblo, fandaliaeth, a meddwi, er mawr siom i Jiminy. Yn ddiweddarach, wrth geisio cyrraedd adref, mae Jiminy yn darganfod bod gan yr ynys melltith erchyll: mae'r bechgyn a ddygwyd i Ynys Pleser yn cael eu trawsnewid yn asynnod am eu camymddwyn ac yn cael eu gwerthu fel caethweision i'r pyllau halen a'r syrcas . Mae Jiminy yn rhedeg yn ôl i rybuddio Pinocchio, dim ond i weld Lampwick yn trawsnewid yn asyn. Gyda chymorth Jiminy, mae Pinocchio yn dianc o'r ynys, o drwch blewyn, gyda dim ond clustiau a chynffon asyn.

Ar ôl dychwelyd adref, mae Pinocchio a Jiminy yn gweld bod gweithdy’r saer yn wag. Mae'r Tylwyth Teg Glas yn rhoi gwybod iddynt fod Geppetto wedi mentro allan i'r môr i achub Pinocchio o'r Ynys Pleser ond iddo gael ei lyncu gan Monstro, Morfil Sberm enfawr, ofnadwy, a'i fod bellach yn byw ym mol y bwystfil. Yn benderfynol o achub ei dad, mae Pinocchio yn neidio i'r môr, gyda Jiminy. Cyn bo hir, mae Pinocchio yn cael ei lyncu gan Monstro hefyd, ac yn dod o hyd i Geppetto. Mae Pinocchio yn dyfeisio cynllun i wneud i Monstro disian, gan roi cyfle iddynt ddianc. Mae'r cynllun yn gweithio, ond mae'r morfil cynddeiriog yn eu herlid ac yn malu eu rafft. Mae Pinocchio yn tynnu Geppetto i mewn diogelwch ogof cyn i Monstro daro i mewn iddo. Mae Geppetto, Figaro, Cleo, a Jiminy yn cael eu golchi i'r lan yn ddiogel , ond mae'n ymddangos bod Pinocchio wedi ei ladd.

Yn ôl adref, mae Geppetto, Jiminy, a'r anifeiliaid anwes yn anghysuradwy eu galar o golli Pinocchio. Fodd bynnag, mae'r Tylwyth Teg Glas yn penderfynu bod Pinocchio wedi profi ei hun yn ddewr, yn eirwir ac yn anhunanol. I'w wobrwyo, mae hi'n gwrthdroi melltith yr Ynys Bleser ac yn ei droi'n fachgen dynol go iawn gan ei adfywio yn y broses. Mae Pinocchio yn deffro, er mawr lawenydd i bawb, pan maen nhw'n darganfod ei fod bellach yn fachgen go iawn. Wrth i’r grŵp ddathlu, mae Jiminy yn camu y tu allan i ddiolch i’r Tylwyth Teg ac yn cael ei wobrwyo â bathodyn aur sy’n ei ardystio ei fod, bellach, yn gydwybod swyddogol wrth i’r ffilm ddod i ben.

Datblygiad

Ym mis Medi 1937, yn ystod cynhyrchiad Snow White and the Seven Dwarfs, daeth yr animeiddiwr Norman Ferguson â fersiwn wedi'i chyfieithu o nofel blant Eidalaidd Carlo Collodi ym 1883, The Adventures of Pinocchio, i sylw Walt Disney . Ar ôl darllen y llyfr, comisiynodd Disney yr artist bwrdd stori Bianca Majolie i ysgrifennu amlinelliad stori newydd ar gyfer y llyfr, ond ar ôl ei ddarllen, roedd yn teimlo bod ei amlinelliad yn rhy ffyddlon. [4] Bwriadwyd i Pinocchio fod yn drydedd ffilm nodwedd y stiwdio, ar ôl Bambi . Fodd bynnag, oherwydd anawsterau gyda Bambi cyhoeddodd Disney y byddai Bambi yn cael ei ohirio tra byddai Pinocchio yn cael ei gynhyrchu. [5] [4]

Cymeriadau

  • Pinocchio - Dickie Jones
  • Jiminy Cricket -Cliff Edwards
  • Geppetto - Christian Rub
  • Tylwyth Teg Glas - Evelyn Venable
  • J. Worthington Foulfellow (Y Llwynog) - Walter Catlett
  • Gideon (Y Gath) - Mel Blanc
  • Figaro - Mel Blanc
  • Cleo - Mel Blanc
  • Stromboli - Charles Judels
  • Y Cerbydwr - Charles Judels
  • Lampwick - Frankie Darro
  • Monstro (Y Morfil)

Trac sain

Cyfansoddwyd y caneuon yn Pinocchio gan Leigh Harline gyda geiriau gan Ned Washington. Cyfansoddodd Leigh Harline a Paul J. Smith y sgôr gerddoriaeth atodol. [6] Rhyddhawyd y trac sain ar 9 Chwefror, 1940. Daeth cân Jiminy Cricket, "When You Wish Upon A Star", yn boblogaidd iawn ac mae'n dal i gael ei huniaethu â'r ffilm, ac fe'i defnyddiwyd yn ddiweddarach fel cân thema Cwmni Walt Disney. [7] Enillodd y trac sain Wobr yr Academi am y Sgôr Gwreiddiol Orau . [7]

Caneuon

  • "When You Wish Upon a Star"
  • "Little Wooden Head"
  • "Give a Little Whistle"
  • "Hi-Diddle-Dee-Dee"
  • "I've Got No Strings"

Derbyniad

Cerdyn teitl Pinocchio

Rhoddodd Frank S. Nugent o The New York Times bump allan o bum seren i’r ffilm, [8] Rhoddodd Time adolygiad cadarnhaol i'r ffilm. Gwnaeth Variety canmol yr animeiddio uwchraddol. Nododd Hollywood Reporter bod Pinocchio yn adloniant i bawb o bob oedran. [9] Enillodd y ffilm Gwobr yr Academi am y Gân Wreiddiol Orau a'r Sgôr Gwreiddiol Orau, y ffilm Disney gyntaf i ennill y naill neu'r llall. [10]

I ddechrau, nid oedd Pinocchio yn llwyddiant yn y swyddfa docynnau. [11] Roedd derbyniadau'r swyddfa docynnau o ryddhad cychwynnol y ffilm yn is na llwyddiant Snow White ac yn is na disgwyliadau'r stiwdio. [12] O $2.6 miliwn o gostiodd i ryddhau'r ffilm - dwywaith cost Snow White [11] - dim ond $1 miliwn gwnaeth Disney adennill erbyn diwedd 1940. Roedd hyn yn bennaf oherwydd y ffaith bod Yr Ail Ryfel Byd a'i ganlyniadau wedi rhwystro llwyddiant ym marchnadoedd Ewrop ac Asia. [13]

Ar y wefan casglu adolygiad Rotten Tomatos, mae'r ffilm yn cael sgôr uchaf y wefan o 100%, sy'n golygu pob un o'r 52 adolygiad o'r ffilm, yn gadarnhaol, gyda sgôr cyfartalog o 9.1 / 10. [14] Ar Metacritic, mae gan Pinocchio sgôr wedi'i gloriannu o 99 allan o 100 yn seiliedig ar 17 adolygiad. [15]

Llyfryddiaeth


  • Barrier, Michael (1999). Hollywood Cartoons : American Animation in Its Golden Age: American Animation in Its Golden Age. Oxford University Press. ISBN 978-0-19-802079-0.
  • Pinsky, Mark I. (2004). "4". The Gospel According to Disney: Faith, Trust, and Pixie Dust. Westminster John Knox Press. ISBN 978-0-664-23467-6.


Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. Garrone, Matteo (2019-12-19), Pinocchio, Federico Ielapi, Roberto Benigni, Rocco Papaleo, Massimo Ceccherini, Archimede, Rai Cinema, Le Pacte, https://www.imdb.com/title/tt8333746/, adalwyd 2020-12-20
  2. "www.gwales.com - 9781899877058, Cyfres Disney: Pinocio". www.gwales.com. Cyrchwyd 2021-01-25.
  3. "Carlo Collodi". Carlo Collodi (yn Eidaleg). Cyrchwyd 2020-12-20.
  4. 4.0 4.1 Gabler 2006, t. 291.
  5. Barrier 1999, t. 236.
  6. Pinocchio (RCA) - Original Soundtrack, Songs, Reviews, Credits, - AllMusic, https://www.allmusic.com/album/pinocchio-rca-mw0000308863, adalwyd 2020-12-20
  7. 7.0 7.1 Roberts 2006, t. 134.
  8. Nugent, Frank S. (1940-02-08). "THE SCREEN IN REVIEW; 'Pinocchio,' Walt Disney's Long-Awaited Successor to 'Snow White,' Has Its Premiere at the Center Theatre--Other New Films (Cyhoeddwyd 1940)". The New York Times. ISSN 0362-4331. Cyrchwyd 2020-12-20.
  9. "'Pinocchio': THR's 1940 Review | Hollywood Reporter". www.hollywoodreporter.com. Cyrchwyd 2020-12-20.
  10. Roberts 2006.
  11. 11.0 11.1 Barrier 1999.
  12. Thomas 1994.
  13. "Richard B. Jewell's RKO film grosses, 1929-51: The C. J. Trevlin Ledger: A comment". Historical Journal of Film, Radio and television, Volume 14, Issue 1, 1994.
  14. Rotten Tomatoes - Pinocchio (1940), https://www.rottentomatoes.com/m/pinocchio_1940, adalwyd 2020-12-20
  15. Pinocchio, https://www.metacritic.com/movie/pinocchio-1940, adalwyd 2020-12-20