Fandaliaeth

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
A glass cage with a draisine at a private railway history museum in Münster-Gremmendorf, North Rhine-Westphalia, Germany

Gweithred o ddinistr bwriadol yw fandaliaeth, boed hynny'n ddifrod i eiddo cyhoeddus neu eiddo preifat". Fandal yw'r enw am y person sy'n cyflawni'r weithred. Yn aml mae'r fandal yn anwaraidd ei natur, yn dibrisio ac yn dinistrio gweithiau celfyddyd, prydferthwch natur a phethau gwerth eu diogelu. Gall wneud hyn am lawer o resyma gan gannwys protest.

Mae'r term yn cynnwys difrod troseddol megis graffiti a difwyno eiddo heb ganiatâd y perchennog.

Geirdarddiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd y Fandaliaid yn llwyth Almaenig, yn wreiddiol o'r ardaloedd sydd nawr yn nwyrain Yr Almaen. Yn y 4c a'r 5c fe wnaethant oresgyn gorllewin Ewrop, gan ymsefydlu’n arbennig yng Ngâl a Sbaen. Mae'r gair yn drosiad o berson sy'n ymddwyn fel y bobl hyn, anwariad.[1]

Ymddangosodd y gair yn y Gymraeg am y tro cyntaf yng ngwaith Joan Harri yn 1785 pan sonir am 'y Cothiaid, ar Fandaliaid'.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Geiriadur Prifysgol Cymru (GPC); adalwyd 10 Rhagfyr 2016.