Ieuan Trefor II

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Roedd Ieuan Trefor II, a adnabyddir hefyd fel John Trefor, Siôn Trefor a John Trevaur (bu farw 1410) yn Esgob Llanelwy rhwng 1394 a 1408 ac awdur Cymraeg Canol a Lladin.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Ei enw gwreiddiol oedd Ieuan ac fel yna roedd ei gyd-Gymry yn ei alw, ond yn ddiweddarach cymerodd y ffurf Seisnig John a mabwysiadu'r cyfenw Trefor. Mae'r ffaith iddo ddewis y cyfenw hwnnw yn awgrymu mai Trefor, ger Llangollen, oedd ei fan geni.

Roedd ei frawd Adda yn briod â chwaer Owain Glyndŵr, ac apwyntiodd Owain ef yn lysgennad at frenin Ffrainc.

Yn 1408 penodwyd ef yn esgob Cill Rìmhinn (Saesneg: St Andrews) yn Yr Alban. Ni allodd gymeryd meddiant o'r esgobaeth, gan fod dau Bab yn gwrthwynebu ei gilydd yn y cyfnod yma, un yn Rhufain a'r llall yn Avignon. Apwyntiwyd Ieuan Trefor i esgobaeth Llanelwy gan y Pab yn Rhufain, ond Pab Avignon roedd yr Alban yn ei gydnabod. Bu farw yn Rhufain ar 10 Ebrill 1410.

Credir gan rai ysgolheigion mai Ieuan Trefor yw awdur un o weithiau safonol y cyfnod yn disgrifio arfau, sef y Tractatus de Armis ('Traethawd ynglŷn ag Arfau'). Mae'n bosibl mai ef ei hun a'i gyfieithodd i'r Gymraeg dan y teitl Llyfr Arveu. Llyfr arall a briodolir iddo yw Buchedd Sant Martin; ceir testun a gopïwyd gan y bardd ac achyddwr Gutun Owain yn 1488 neu 1489. Ar ei ddiwedd ceir y nodyn:

John Trevor a droes y vvuchedd honn o'r Llading yn Gymraec...

Ond erys cryn ansicrwydd am awduraeth y gweithiau hyn, a dydi pob ysgolhaig ddim yn derbyn eu bod yn waith yr Esgob John Trefor.

Roedd esgobdy Ieaun yn agored i'r beirdd. Ymhlith y rhai a ganodd iddo oedd Iolo Goch; cedwir cywydd ganddo sy'n moli Ieuan ac sy'n cyfeirio at ei daith i'r Alban.[1]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Evan John Jones (gol.), Buchedd Sant Martin (Caerdydd, 1945)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. D. R. Johnston (gol.). Gwaith Iolo Goch (Caerdydd, 1988), cerdd XVII.