Buchedd Sant Martin

Oddi ar Wicipedia
Buchedd Sant Martin
Enghraifft o'r canlynolgwaith ysgrifenedig Edit this on Wikidata
GolygyddUnknown Edit this on Wikidata
AwdurMartin o Tours Edit this on Wikidata
Rhan ollenyddiaeth ganoloesol Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata

Testun crefyddol Cymraeg Canol sy'n adrodd hanes bywyd Sant Martin o Tours (316397 OC) yw Buchedd Sant Martin. Mae rhai ysgolheigion yn credu ei fod yn waith John Trefor II, Esgob Llanelwy (bu farw 1410), a fu am gyfnod yng ngwasanaeth Owain Glyndŵr, ond nid oes sicrwydd am hynny.

Mewn un o lawysgrifau Mostyn, a adnabyddir fel 'Mostyn 88', ceir y testun cynharaf o'r Fuchedd, a gopïwyd gan y bardd ac achyddwr Gutun Owain yn 1488 neu 1489. Ar ei ddiwedd ceir y nodyn:

John Trevor a droes y vvuchedd honn o'r Llading yn Gymraec....

Priodolir sawl gwaith Lladin arall i John Trefor, yn cynnwys y Tractatus de armis, a gyfieithwyd i'r Gymraeg fel Llyfr Arveu. Ond nid yw pob ysgolhaig yn derbyn ei awduraeth o'r gweithiau hyn.

Testun cyfansawdd sy'n tynnu ar sawl ffynhonnell yw'r fuchedd hon. Ceir ynddi addasiadau o rannau o dri gwaith gan Sulpicius Severus - y Vita Sancti Martini, Epistulae a'r Dialogi - a rannau o waith Gregory o Tours, sef yr Historia Francorum a De mirabilis Sancti Martini.

Mae'r fuchedd yn cynnwys y gymysgedd arferol o hanes, a thraddodiadau a allai fod yn wir, a straeon am wyrthiau a gyflawnwyd gan y sant. Mae'n olrhain ei hanes o'i enedigaeth yn nhalaith Rufeinig Pannonia (Hwngari heddiw) trwy ei anturiaethau yn yr Eidal a Gâl hyd ei farwolaeth yn 397, ar ôl cael ei gysegru yn esgob cyntaf Tours (Indre-et-Loire, Ffrainc).

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Hagiograffeg