Ian Hamilton
Ian Hamilton | |
---|---|
Ganwyd | 13 Medi 1925 Paisley |
Bu farw | 4 Hydref 2022 North Connel |
Dinasyddiaeth | Yr Alban |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bargyfreithiwr, llenor, gwleidydd, eiriolwr |
Swydd | Cwnsler y Brenin, Rector of the University of Aberdeen, rheithor |
Plaid Wleidyddol | Plaid Genedlaethol yr Alban |
Gwobr/au | doethur anrhydeddus Prifysgol Aberdeen |
Roedd Ian Robertson Hamilton, QC (ganwyd 13 Medi, 1925-4 Hydref, 2022) yn gyfreithiwr ac yn genedlaetholwr Albanaidd. Mae'n fwyaf adnabyddus am ei ran yn y cyrch i ryddhau'r Maen Sgàin o Abaty Westminster ym 1950.[1]
Bywyd Cynnar
[golygu | golygu cod]Ganwyd Hamilton yn Pàisilig, yr Alban ar 13 Medi 1925, yn fab i deiliwr. Cafodd ei addysgu yn Sefydliad John Neilson, Pàisilig. Wedi cyfnod o wasanaeth cenedlaethol (gwasanaeth milwrol gorfodol) yn yr RAF aeth i Brifysgolion Glasgow a Chaeredin i astudio'r gyfraith.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Galwyd Hamilton i Far yr Alban ym 1950 ac i Far Alberta, Canada ym 1982, cafodd ei godi yn Gwnsler y Frenhines (Alban) ym 1980. Ym 1962 cafodd ei benodi’n Eiriolwr Dirprwyol (Advocate Depute, cyfreithiwr sy’n erlyn ar ran y goron yng nghyfraith yr Alban). Ym 1969 ymadawodd a’i waith cyfreithiol er mwyn gweithio i Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn yr Alban ac i gadw fferm. Dychwelodd i’r gyfraith ym 1974.[2]
Sylfaenodd Gwasg Castle Wynd Printers, Caeredin ym 1955, er mwyn cyhoeddi pedwar cyfrol o farddoniaeth gan y bardd a’r cenedlaetholwr Hugh MacDiarmid.
Gwasanaethodd fel Cyfarwyddwr Cyfreitha Sifil Gweriniaeth Zambia rhwng 1964 a 1966.[2]
Cenedlaetholdeb
[golygu | golygu cod]Yn y brifysgol daeth Hamilton yn wleidyddol weithgar. Bu’n cyfrannu i ddadleuon Undeb Prifysgol Glasgow, roedd yn aelod o Gymdeithas Cenedlaetholwr yr Alban y brifysgol ac yn aelod o Gymdeithas Cyfamod yr Alban. Bu hefyd yn rheolwr yr ymgyrchu i ethol y cenedlaetholwr John MacCormick yn Rheithor y Brifysgol.[3]
Maen Sgàin
[golygu | golygu cod]Ar Noswyl Nadolig 1950, teithiodd Hamilton, â thri o fyfyrwyr eraill y brifysgol a oedd hefyd yn genedlaetholwyr; Kay Matheson, Gavin Vernon ag Alan Stuart, i Lundain i ryddhau Maen Sgàin o'i le o dan Gadair y Coroni yn Abaty Westminster. Defnyddiwyd y maen, yn wreiddiol, i goroni brenhinoedd yr Alban. Cafodd ei gipio gan Edward I, brenin Lloegr, ym 1296 a’i symud i Loegr i gryfhau ei ymhoniad i orsedd yr Alban, yn yr un modd a gipiodd y Groes Naid a Thalaith Llywelyn, symbolau brenhinol Cymru ym 1285[4]. Ar ôl Deddfau Uno 1707 rhwng yr Alban a Lloegr fe'i defnyddiwyd ar gyfer coroni brenhinoedd Prydain. Trwy ei osod o dan gadair Coroni Lloegr bu modd i goroni Brenin Prydain yn Frenin Lloegr ac yn Frenin yr Alban ar yr un pryd. Gan hynny, mae cenedlaetholwyr yn clodfori gweithred Hamilton, wrth ddychwelyd y maen i'r Alban, fel buddugoliaeth symbolaidd ar gyfer achos cenedlaethol yr Alban. Cafodd y maen ei gyflwyno i Eglwys yr Alban, yn olion hen Abaty Obar Bhrothaig[5]. Ildiodd yr Eglwys y maen i’r awdurdodau yn Lloegr ym mis Ebrill 1951. Cafodd Hamilton a'i gynghreiriaid eu harestio a’u cyhuddo o ddwyn y maen, ond ni chawsant eu herlyn. Y rheswm pam na chawsant eu herlyn, yn ôl yr awdurdodau, oedd bod y gyfraith ar y pryd yn diffinio lladrad fel bwriad i amddifadu yn barhaol rhywun o'i meddiant, ond credai Hamilton mae’r gwirionedd oedd byddai carcharu’r cynghreiriaid yn creu cause celebre a chriw o ferthyron[6]
Cafodd y maen ei ddychwelyd i'r Alban, yn y pen draw, ym 1996, gyda darpariaeth ar gyfer ei ddefnydd dilynol i goroni brenhinoedd Prydain.
Yn 2008, ysgrifennodd a chyfarwyddwyd ffilm nodwedd am y digwyddiadau hyn gan Charles Martin Smith. Yn y ffilm Stone of Destiny mae Hamilton yn cael ei bortreadu gan Charlie Cox. Roedd gan Hamilton ei hun rhan fach yn y ffilm fel gŵr busnes o Sais.[7]
Achos MacCormick v Yr Arglwydd Adfocad
[golygu | golygu cod]Pan gafodd Elizabeth II ei chodi i Frenhiniaeth Lloegr ym 1952, bu’n rhaid i gyfreithwyr talu llw o deyrngarwch iddi. Gwrthododd John MacCormick a Hamilton i wneud hynny gan ddadlau gan nad oedd Elizabeth I yn frenhines yr Alban dim ond Y Frenhines Elizabeth (heb rif teyrnasiad) oedd y frenhines newydd yn yr Alban. Roedd yr achos yn un symbolaidd, i brofi mae “gwlad ar wahân” oedd yr Alban o fewn y Deyrnas Unedig, nid yn rhan o un wlad o’r enw'r DU. Collwyd yr achos gan i’r Llys Sesiwn barnu bod teitl y brenin neu'r frenhines i’w bennu trwy uchelfraint y sofran. (Cyhoeddodd y prif weinidog ar y pryd, Winston Churchill, byddai arfer newydd o ddefnyddio’r uchaf o'r ddau rifolyn dilyniant Lloegr neu’r Alban yn cael ei ddefnyddio yn y dyfodol. Mae'r system hon eto i'w rhoi ar brawf).
Etholiadau
[golygu | golygu cod]Safodd Hamilton fel ymgeisydd yr SNP ar gyfer sedd Dwyrain Strathclyde yn etholiad Senedd Ewrop 1994 ac fel ymgeisydd yr SNP yn etholaeth Greenock ac Inverclyde yn etholiad 1999 i Senedd yr Alban. Ni chafodd ei ethol.
Gwasanaeth cyhoeddus
[golygu | golygu cod]Gwasanaethodd Hamilton fel Siryf Swydd Lanark ym 1967 a Siryf Glasgow a Strathkelvin, Mai-Rhagfyr 1984;
Sylfaenodd Ymddiriedolaeth Whichway, i ddarparu hyfforddiant antur i droseddwyr ifanc ym 1988 gan wasanaethu fel cadeirydd cyntaf yr ymddiriedolaeth. Gwasanaethodd fel prif beilot Clwb Parasiwt yr Alban rhwng 1978 a 1980.
Gwasanaethodd fel Llywydd Anrhydeddus Undeb Myfyrwyr Prifysgol Heriot-Watt, Caeredin rhwng 1990 a 1996; Rheithor Prifysgol Aberdeen rhwng 1994 a 1996. Cafodd ei ddethol gan fyfyrwyr Cymdeithas Cenedlaetholwyr Prifysgol Glasgow fel ymgeisydd ar gyfer etholiad Rheithor y Brifysgol ym 1999 ond cafodd ei drechu gan ymgeisydd papur yr unoliaethwyr, yr actor Eastenders, Ross Kemp.
Cyhoeddiadau
[golygu | golygu cod]- No Stone Unturned, 1952
- The Tinkers of the World, 1957 (Drama)
- The Taking of the Stone of Destiny, 1991
- A Touch of Treason, 1990 (hunangofiant)
- A Touch More Treason, 1994 (hunangofiant)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Ian R. Hamilton adalwyd 13 Mawrth, 2017
- ↑ 2.0 2.1 HAMILTON, Ian Robertson, Who's Who 2017, A & C Black, an imprint of Bloomsbury Publishing plc, 2017; online edn, Oxford University Press, 2016 ; online edn, Nov 2016 accessed 13 March 2017
- ↑ Siol nan Gaidheal Ian Hamilton - Patriot and Nationalist
- ↑ Smith, J. Beverly (2001). Llywelyn ap Gruffudd: Prince of Wales. Wales: University of Wales Press. t. 664 Pages. ISBN 0-7083-1474-0.
- ↑ "Castell Caeredin - The Stone of Destiny". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-01-29. Cyrchwyd 2017-03-14.
- ↑ Destiny Man
- ↑ Stone of Destiny (2008)