Henri Cartier-Bresson

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Henri Cartier-Bresson
Henri Cartier-Bresson.jpg
Byw 22 Awst,1908- 3 Awst, 2004
Cenedligrwydd Ffrancwr
Maes Ffotograffydd, Peintiwr

Ffotograffydd Ffrengig oedd Henri Cartier-Bresson (22 Awst 1908 – 3 Awst 2004) a ystyrir yn feistr ffoto-newyddiaduraeth. Ef oedd un o'r cyntaf i ddefnyddio ffilm 35mm gan arloesi mewn ffotograffiaeth stryd neu reportage bywyd a alwodd yn y foment dyngedfennol; bu'n ddylanwad ar genedlaethau o ffotograffwyr.[1]

Yn dilyn ei farwolaeth fe sefydlwyd Sefydliad Henri Cartier-Bresson gan ei deulu sy'n gwarchod yn ofalus y defnydd o’i luniau.[2]

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Fe'i ganwyd yn Chanteloup-en-Brie, Seine-et-Marne, Ffrainc, yr hynaf o bump o blant. Roedd ei dad yn berchennog cwmni edau Cartier-Bresson a theulu ei fam yn wneuthurwyr cotwm a pherchnogion tir yn Normandi. Fe'i magwyd mewn ardal bourgeois o Paris, roedd ei rieni'n gallu fforddio cymorth ariannol iddo ddatblygu ei ddiddordeb mewn ffotograffiaeth a oedd pryd hynny'n rhy ddrud i lawer o bobl gyffredin.[1] Ym 1927 yn 20 oed fe aeth i ysgol gelf breifat ble roedd ei athro André Lhote yn Giwbydd ac dylanwadwyd arno gan gelfyddyd y mudiadau celf avant garde y cyfnod, yn arbennig Swrealaeth. O 1928 i 1929 fe fynychodd Brifysgol Caergrawnt ble astudiodd gelf a llenyddiaeth ac yno y daeth yn rhugl yn Saesneg. Ym 1930 bu raid iddo ddychwelyd i Ffrainc i wneud ei wasanaeth milwrol gorfodol.[1]

Perthynas gyda Caresse Crosby[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym 1929, fe gosbwyd Cartier-Bresson gan ei uwch swyddog am hela heb drwydded. Y ddedfryd oedd aros adref am gyfnod. Perswadiwyd yr uwch swyddog gan Harry Crosby, Americanwr cyfoethog oedd newydd gyfarfod Cartier-Bresson, i adael iddo aros yn ei dŷ am rhai dyddiau. Roedd Crosby'n gyhoeddwr llenyddiaeth fodern yn cynnwys Ernest Hemingway, Robert Duncan, Anaïs Nin, a Henry Miller. Roedd ei wraig Caresse yn enwog am fod y person cyntaf i hawlio trwydded 'patent' i'r bra fodern.

Syrthiodd Cartier-Bresson mewn cariad â Caresse Crosby ac fe ddechreuodd perthynas tanbaid rhyngddynt.[1]

Dianc i Affrica[golygu | golygu cod y dudalen]

Dwy flynedd ar ôl i Harry Crosby gyflawni hunanladdiad fe ddaeth perthynas Cartier-Bresson a Caresse Crosby i ben ac fe benderfynodd ddianc i Côte d'Ivoire. Fe enillodd fywoliaeth drwy hela anifeiliaid gyda gwn a'u gwerthu i'r brodorion, fe ddefnyddiodd dechnegau a ddysgodd yn hela ar gyfer ffotograffau yn nes ymlaen.[1]

O Beintio i ffotograffiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Wrth ddychwelyd i Ffrainc fe'i ysbrydolwyd wrth weld ffotograff gan Martin Munkacsi yn dangos tri bachgen Affricanaidd ar draeth yn rhedeg i'r tonnau. I Cartier-Bresson roedd Three Boys at Lake Tanganyika yn cyfleu rhyddid, gras a llawenydd bywyd. Fe ddywedodd:

The only thing which completely was an amazement to me and brought me to photography was the work of Munkacsi. When I saw the photograph of Munkacsi of the black kids running in a wave I couldn't believe such a thing could be caught with the camera. I said damn it, I took my camera and went out into the street.

Fe brynodd gamera Leica gyda lens 50mm a oedd ganddo am flynyddoedd i ddod. Roedd y camera'n fach ac yn ysgafn o'i gymharu ag eraill o'r un cyfnod ac roedd yn gallu tynnu ffotos heb ddenu sylw. Fe ddisgrifiodd ei Leica fel 'estyniad o'm llygaid'.

Gan deithio o amgylch Ewrop ac yn ddiweddarach yr holl fyd, fe ddechreuodd wneud enw am ei luniau.

Gwaith sinema[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ôl yn Ffrainc fe ymgeisiodd am swydd gyda'r cynhyrchydd ffilm Jean Renoir ac fe gafodd rhannau actio mewn dwy ffilm gan ennill profiad gwerthfawr o fod o flaen y camera. Fe weithiodd hefyd ar gyfer y Blaid Gomiwnyddol am ffilm ar y 200 prif deulu (yn cynnwys ei deulu ei hun) oedd yn rheoli Ffrainc. Yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen fe weithiodd ar ffilm i gefnogi'r ochr weriniaethol.[1]

Arddangosfa Henri Cartier-Bresson

Ffoto-newyddiaduraeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Fe gyhoeddwyd lluniau ffoto-newyddiaduraeth cyntaf Cartier-Bresson yn 1937 pan dynnodd luniau coroni Brenin Lloegr ar gyfer cylchgrawn wythnosol Ffrangeg. Fe ganolbwyntiodd ar gynulleidfa'r orymdaith a dim byd o'r Brenin. Roddwyd yr enw "Cartier" ar y lluniau gan ei fod yn amharod o ddefnyddio enw ei deulu.

Gweithiodd gyda'r ffotograffwyr Robert Capa a Chim (David Seymour) ar y papur newydd comiwnyddol Ce Soir am gyfnod. Er ei fod yn gefnogol i'r Comiwnyddion, ni ymunodd Cartier-Bresson a'r Blaid ei hun.[1]

Yr Ail Rhyfel byd[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd ym 1939, fe ymunodd a byddin Ffrainc yn yr uned ffilm a ffotograffiaeth. Fe'i ddalwyd gan y Natsïadd ym 1940 a threilliodd 3 mlynedd fel carcharor rhyfel yn gorfod gwneud llafur caled. Fe geisiodd ddianc dwywaith ond fe'i daliwyd a'i gosbi. Roedd ei drydydd ymgais i ddianc yn llwyddiannus ac ymunodd a'r Résistance. Cododd ei annwyl Leica, oedd wedi'i gladdu ar fferm cyn y rhyfel a dechreuodd dynnu lluniau o ran olaf y rhyfel a rhyddhau Ffrainc.[1]

Ffufro Magnum[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym 1947 fe sefydlodd Cartier-Bresson, gyda Robert Capa, David Seymour, William Vandivert a George Rodger, yr asiantaeth ffotograffiaeth Magnum. Syniad Capa oedd yn fenter gydweithredol hon, gyda'r ffotograffwyr eu hun yn ei pherchen. Mae Magnum wedi datblygu i fod yn un o'r asiantaeth ffotograffig pwysicaf y byd gan gynrychioli rhai o'r ffotograffwyr enwocaf.[1]

Y foment dyngedfennol[golygu | golygu cod y dudalen]

Camera Leica cyntaf Cartier-Bresson

Yn 1952 cyhoeddwyd ei lyfr Images à la sauvette, gyda 126 o ffotograffau o amgylch y byd a gyda chlawr gan yr arlunydd enwog Henri Matisse. Pan gyhoeddwyd y fersiwn Saesneg dewiswyd The Decisive Moment fel cyfieithiad i deitl y llyfr, gyda'r ffotograffau'n dangos dawn hynod Cartier-Bresson i ddal y foment dyngedfennol, Dywedodd Cartier-Bresson:

Photographier: c'est dans un même instant et en une fraction de seconde reconnaître un fait et l'organisation rigoureuse de formes perçues visuellement qui expriment et signifient ce fait. "ffotograffiaeth yw: adnabod ar amrantiad yr union drefniant gweledol o ffurfiau i gyfleu'r digwyddiad yn briodol." [3]

Gyrfa diweddarach[golygu | golygu cod y dudalen]

Wedi ennill enw fel meistr ffotograffiaeth, arddangoswyd ei waith mewn rhai o'r orielau gelf mwyaf fel y Louvre. Teithiodd y byd yn tynnu lluniau i gylchgronau mawrion fel Life a Vogue a fo oedd y ffotograffydd gorllewinol cyntaf i deithio'n rhydd drwy'r Undeb Sofietaidd wedi'r rhyfel.

Fe ymddeolodd o ffotograffiaeth ar ddechrau'r 1970au, gan ddychwelyd at arlunio a pheintio. Cynhaliwyd yr arddangosfa gyntaf o'i ddarluniau yn Oriel Carlton yn Efrog Newydd ym 1975 a bu farw ar 3 Awst, 2004.

Techneg[golygu | golygu cod y dudalen]

Fe ddefnyddiodd Cartier-Bresson gamera Leica 35mm gyda lens 50mm neu weithiau lens eang am dirweddau. Roedd y Leica yn dipyn llai o faint ac yn llawer ysgafnach na chamerâu mawr y cyfnod a ddefnyddiwyd gan ffotograffwyr papurau newydd. Roedd Cartier-Bresson yn gallu symud yn rhydd, heb dynnu sylw ato'i hun yn bachu delweddau o bobl yn ymddwyn yn eu cynefin naturiol. Llaw melfed a llygaid barcud oedd ei ddisgrifiad.[4]

Yn aml fe lapiodd dâp du o amgylch y Leica i guddio'r sglein metelig rhag i neb sylwi ar y camera ac nid oedd yn defnyddio golau fflach.

Credodd mewn cyfansoddi'r llun wrth edrych drwy'r camera yn hytrach na cropio'r ffoto yn yr ystafell dywyll wedyn. Yn aml fe fynnodd bod amlinell denau du y negatif i'w weld fel amlinell o amgylch y llun i ddangos fod y llun i'w weld yn ei gyfanrwydd.[4]

Gweithiodd yn gyfan gwbl mewn du a gwyn heblaw am ambell i arbrawf aflwyddiannus gyda ffilm lliw. Nad oedd ganddo fawr o ddiddordeb ym mhrosesau neu offer ffotograffig gan gymharu tynnu lluniau gyda chamera bach â thynnu sgetsh sydyn â llaw.[5]

Ystyrir Cartier-Bresson fel un o bersoniaethau mwyaf boneddigaidd ac addfwyn y byd celf, yn osgoi cyhoeddusrwydd ac yn dangos cryn swildod ers ei ddyddiau’n cuddio rhag y Natsïaidd yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Er iddo dynnu portreadau o enwogion doedd ei wyneb ei hun ddim yn adnabyddus, ac roedd hynny'n fantais wrth dynnu lluniau ar y stryd - yn anhysbys. Gwrthododd ddefnyddio'r gair 'celf' ar ei ffotograffau, a oedd yn ei ystyried yn ddim mwy nag adwaith greddfol i fomentau mewn amser yr oedd wedi taro ar eu traws.

Rhai o bortreadau Cartier-Bresson[golygu | golygu cod y dudalen]

Nodiadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 1.7 1.8 Discoveries: Henri Cartier-Bresson, Clément Chéroux, 2008, Abrams, ISBN 10-0810998262
  2. http://www.henricartierbresson.org/index.htm
  3. Henri Cartier-Bresson (1952). The Decisive Moment. New York: Simon and Schuster. pp. 1–14. 
  4. 4.0 4.1 Frank Van Riper (2002). Talking photography: viewpoints on the art, craft and business. Allworth Communications, Inc. ISBN 1-58115-208-6. 
  5. Khen Lim (October 6, 2007). "Henri Cartier-Bresson – A Decisive Moment in Time ". http://zone-10.com/cmsm/index.php?option=com_content&task=view&id=55&Itemid=1&limit=1&limitstart=1. Adalwyd June 26, 2010.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Assouline, P. (2005). Henri Cartier-Bresson: A Biography. London: Thames & Hudson.
  • Galassi, Peter (2010). Henri Cartier-Bresson: the Modern Century. London: Thames & Hudson.
  • Montier, J. (1996). Portrait: First Sketch. Henri Cartier-Bresson and the Artless Art (p. 12). New York: Bulfinch Press.
  • Warren, J (2005), Encyclopedia of Twentieth-Century Photography. Routledge

Dolenni allannol[golygu | golygu cod y dudalen]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Notes[golygu | golygu cod y dudalen]

References[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Assouline, P. (2005). Henri Cartier-Bresson: A Biography. London: Thames & Hudson.
  • Galassi, Peter (2010). Henri Cartier-Bresson: the Modern Century. London: Thames & Hudson.
  • Montier, J. (1996). Portrait: First Sketch. Henri Cartier-Bresson and the Artless Art (p. 12). New York: Bulfinch Press.
  • Warren, J (2005), Encyclopedia of Twentieth-Century Photography. Routledge

External links[golygu | golygu cod y dudalen]

Wikiquote
Mae gan Wikiquote gasgliad o ddyfyniadau sy'n berthnasol i: