Anaïs Nin

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Anaïs Nin
Anais Nin.jpg
Ynganiad LL-Q150 (fra)-Exilexi-Anaïs Nin.wav Edit this on Wikidata
Ganwyd 21 Chwefror 1903 Edit this on Wikidata
Neuilly-sur-Seine Edit this on Wikidata
Bu farw 14 Ionawr 1977 Edit this on Wikidata (73 oed)
Achos: Canser Edit this on Wikidata
Los Angeles Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Ffrainc Ffrainc
Galwedigaeth Ysgrifennwr, hunangofiannydd, dyddiadurwr, Sgriptiwr, nofelydd Edit this on Wikidata
Tad Joaquín Nin Edit this on Wikidata
Mam Rosa Culmell Vaurigaud Edit this on Wikidata
Priod Hugh Parker Guiler, Rupert Pole Edit this on Wikidata
Gwobr/au doctor honoris causa Edit this on Wikidata

Awdures gweithiau erotig, Ffrengig oedd Anaïs Nin (21 Chwefror 1903 - 14 Ionawr 1977) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel hunangofiannydd, dyddiadurwr, awdur storiau byrion a sgriptiwr.

Ei henw llaw oedd Angela Anaïs Juana Antolina Rosa Edelmira Nin y Culmell ac fe'i ganed yn Neuilly-sur-Seine, maestref ar ochr gorllewinol Paris; bu farw yn Los Angeles o ganser ac fe'i claddwyd yn y môr. [1][2][3][4][5]

Bu'n briod i Hugh Parker Guiler ac yna i Rupert Pole.

Yn un-ar-ddeg oed, dechreuodd ysgrifennu dyddiaduron cynhwysfawr, a pharhaodd i wneud hyn drwy gydol ei bywyd. Mae ei dyddiaduron, y cyhoeddwyd llawer ohonynt yn ystod ei hoes, yn manylu ar ei meddyliau a'i theimladau preifat. Maent hefyd yn disgrifio ei phriodas â Hugh Parker Guiler ac yna priodi Rupert Pole, yn ogystal â'i affêrs niferus, gan gynnwys y rhai gyda'r seicoanalydd Otto Rank a'r awdur Henry Miller. Dylanwadodd y ddau yma ar Nin yn fawr iawn. [6]

Magwraeth[golygu | golygu cod y dudalen]

O Ciwba y daeth ei rhieni i Ffrainc; roedd Nin yn ferch i'r cyfansoddwr Joaquín Nin a Rosa Culmell, canwr clasurol o Gatalwnia.[7] Treuliodd Nin ei blynyddoedd cynnar yn Barcelona (Catalwnia) a Ciwba, tua 16 mlynedd ym Mharis (1924–1940), a hanner arall ei bywyd yn Unol Daleithiau America, lle daeth yn awdur cydnabyddiedig.[8] Roedd tad-cu ei thad wedi ffoi o Ffrainc yn ystod y Chwyldro, gan fynd yn gyntaf i Saint-Domingue, yna New Orleans, ac yn olaf i Ciwba lle helpodd i adeiladu rheilffordd gyntaf y wlad honno.[9]

Gwahanodd ei rhieni pan oedd hi'n ddwy oed; yna symudodd ei mam Anaïs a'i dau frawd, Thorvald Nin a Joaquín Nin-Culmell, i Barcelona, ​​ac yna i Ddinas Efrog Newydd, lle mynychodd yr ysgol uwchradd. Gadawodd Nin yr ysgol uwchradd ym 1919 pan oedd yn un-deg-chwech oed, ac ar yr un pryd, gadawodd yr Eglwys Gatholig am byth. Yn ôl ei dyddiaduron (Cyfrol Un, 1931–1934), dechreuodd weithio fel model i artist ychydig yn ddiweddarach.[10][11]

Anaïs Nin; 1920

Ar 3 Mawrth 1923, yn Havana, Ciwba, priododd Nin ei gŵr cyntaf, Hugh Parker Guiler (1898–1985), bancwr ac artist, a adwaenid yn ddiweddarach fel "Ian Hugo" pan ddaeth yn wneuthurwr ffilmiau arbrofol ar ddiwedd y 1940au. Symudodd y cwpl i Baris y flwyddyn ganlynol, lle dilynodd Guiler yrfa mewn bancio a dechreuodd Nin ddilyn ei diddordeb mewn ysgrifennu ac fel dawnsiwr fflamenco. Roedd ei gwaith cyhoeddedig cyntaf yn werthusiad beirniadol o D. H. Lawrence o'r enw D. H. Lawrence: Astudiaeth Amhroffesiynol, a sgwennodd mewn un-deg-chwe diwrnod diwrnod.[7]

Y llenor[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyhoeddwyd llawer o'i gwaith, gan gynnwys y casgliadau erotig Delta o Venus a Little Birds, ar ôl iddi farw, pan ailgododd diddordeb yn ei gwaith.

Mae Nin yn cael ei chanmol gan lawer o feirniaid fel un o ysgrifenwyr gorau erotica benywaidd. Roedd yn un o'r merched cyntaf y gwyddys i wneud hynny, ac yn sicr y fenyw flaenllaw gyntaf yn y Gorllewin modern y gwyddys ei bod yn ysgrifennu erotica. Cyn hynny, roedd erotica wedi'i ysgrifennu gan fenywod yn brin, gydag ychydig o eithriadau nodedig, fel gwaith Kate Chopin. Yn aml, soniai Nin am awduron fel Djuna Barnes a D. H. Lawrence fel ysbrydoliaeth, ac mae'n dweud yng Nghyfrol Un o'i dyddiaduron iddi gael ei hysbrydoli gan Marcel Proust, André Gide, Jean Cocteau, Paul Valéry, ac Arthur Rimbaud.[12][13]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Dyddiaduron a llythyrau[golygu | golygu cod y dudalen]

Ffuglen[golygu | golygu cod y dudalen]

Nofelau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • House of Incest (1936)
  • Winter of Artifice (1939)
  • Cities of the Interior (1959), mewn pump cyfrol:
    • Ladders to Fire
    • Children of the Albatross
    • The Four-Chambered Heart
    • A Spy in the House of Love
    • Seduction of the Minotaur, a gyhoeddwyd yn wreiddiol fel Solar Barque (1958).
  • Collages (1964)

Storiau byrion[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Waste of Timelessness: And Other Early Stories
  • Under a Glass Bell (1944)
  • Delta of Venus (1977)
  • Little Birds (1979)
  • Auletris (2016)

Ffeithiol[golygu | golygu cod y dudalen]

  • D. H. Lawrence: An Unprofessional Study (1932)
  • The Novel of the Future (1968)
  • In Favor of the Sensitive Man (1976)
  • The Restless Spirit: Journal of a Gemini gan Barbara Kraft (1976) (rhagarweiniad gan Nin)
  • Aphrodisiac: Erotic Drawings gan John Boyce ar gyfer gwaith gan Anaïs Nin

Aelodaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu'n aelod o Academi Celfyddydau a Llythyrau America am rai blynyddoedd.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb119177329; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  2. Rhyw: Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html Gemeinsame Normdatei, https://www.dnb.de/gnd, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html, adalwyd 27 Ebrill 2014Wikidata Q36578 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb119177329; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  3. Dyddiad geni: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb119177329; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  4. Dyddiad marw: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb119177329; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  5. Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html Gemeinsame Normdatei, https://www.dnb.de/gnd, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html, adalwyd 11 Rhagfyr 2014Wikidata Q36578
  6. Man gwaith: Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html Gemeinsame Normdatei, https://www.dnb.de/gnd, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html, adalwyd 17 Ebrill 2015Wikidata Q36578
  7. 7.0 7.1 Liukkonen, Petri. "Anaïs Nin profile" (yn fi). Finland: Kuusankoski Public Library. Archifwyd o y gwreiddiol ar 23 Ionawr 2012. http://arquivo.pt/wayback/20120123084641/http%3A//www%2Ekirjasto%2Esci%2Efi/anaisnin%2Ehtm.
  8. Fenner, Andrew. "The Unique Anaïs Nin". http://www.morbidoutlook.com/nonfiction/articles/2001_03_anaisnin.html. Adalwyd 26 Rhagfyr 2016.
  9. Nin 1966, t. 125.
  10. Nin & DuBow 1994, t. xxi.
  11. Nin 1966, t. 183.
  12. Nin 1966, t. 60.
  13. Nin 1966, t. 29, 40.