J. Gwynn Williams

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Gwynn Williams)
J. Gwynn Williams
Ganwyd1924 Edit this on Wikidata
Llanfechain Edit this on Wikidata
Bu farw4 Hydref 2017 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • SOAS, Prifysgol Llundain Edit this on Wikidata
Galwedigaethhanesydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Cysylltir gydaLlyfrgell Genedlaethol Cymru, Gwasg Prifysgol Cymru Edit this on Wikidata
PriodBeryl Stafford Williams Edit this on Wikidata
PlantGriff Rowland Edit this on Wikidata

Hanesydd ac academydd o Gymro oedd John Gwynn Williams, CBE (19244 Hydref 2017).[1]

Bywyd cynnar ac addysg[golygu | golygu cod]

Ganwyd yn Llanfechain ym Mhowys, yn unig fab i'r gweinidog Wesleaidd John Elis Williams a'i wraig Maude (gynt Rowlands). Mynychodd ysgol sir Treffynnon yn Sir y Fflint, a gwasanaethodd yn y Llynges Frenhinol yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Wedi'r rhyfel, astudiodd Japaneg yn SOAS, Llundain, a graddiodd mewn hanes o Goleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor.[2]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Daeth yn bennaeth ar yr adran hanes ac yn Athro Hanes Cymru o 1963 hyd ei ymddeoliad ym 1983.[1] Cafodd ei benodi'n is-brifathro CPGC, Bangor ym 1974, ac ymddiswyddodd o'r swydd hon ym 1979 yn sgil anghytuno â'r Prifathro Syr Charles Evans dros ddisgyblu myfyrwyr a oedd yn ymgyrchu dros y Gymraeg.[2] Roedd Gwynn Williams hefyd yn llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn gadeirydd Gwasg Prifysgol Cymru, yn aelod o Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, ac yn is-lywydd Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion.[1]

Ysgrifennodd hanes swyddogol Bangor ar ganmlwyddiant y coleg, ac hanes Prifysgol Cymru mewn dwy gyfrol.

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Priododd y nofelydd Beryl Stafford Williams, a chawsant tri mab, William, Guto a Tomos. Bu farw J. Gwynn Williams yn 93 oed.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 "Colli un o hoelion wyth Hanes Cymru[dolen marw]", Prifysgol Bangor (13 Hydref 2017). Adalwyd ar 7 Rhagfyr 2017.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Geraint Jenkins. "Gwynn Williams obituary", The Guardian (6 Rhagfyr 2017). Adalwyd ar 7 Rhagfyr 2017.