Beryl Stafford Williams
Gwedd
Beryl Stafford Williams | |
---|---|
Ganwyd | Penmaenmawr |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, athro |
Priod | J. Gwynn Williams |
Plant | Griff Rowland |
Awdures Gymraeg yw Beryl Stafford Williams. Mae'n adnabyddus am y gyfrol Mellt Yn Taro, enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen 1995.
Bywgraffiad[golygu | golygu cod]
Magwyd Beryl Stafford Thomas ym Mhenmaenmawr yng Nghonwy, yn ferch i'r bardd Stafford Thomas. Fe'i haddysgwyd yn Ysgol Sir y Genethod, Bangor a Choleg Prifysgol Gogledd Cymru.
Roedd Williams yn athrawes Gymraeg yn Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon, am gyfnod cyn mynd yn bennaeth yr adran Saesneg yn Ysgol Tryfan, Bangor. Ers ymddeol aeth i ysgrifennu llenyddiaeth.[1]
Mae ei mab, y cyfarwyddwr teledu Griff Rowland, hefyd yn awdur: enillodd ei nofel gyntaf The Search For Mister Lloyd Wobr Tir na n-Og.[2]
Bywyd personol[golygu | golygu cod]
Priododd yr hanesydd J. Gwynn Williams (1924-2017) a chawsant tri mab, William, Guto a Tomos.[2]
Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]
- Darlun o Ryfel (1994)
- Mellt yn Taro (1995)
- Llanw a Thrai (1999)
- In the Dark (2005)
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Byd y nofelydd. BBC Cymru. Adalwyd ar 28 Mai 2016.
- ↑ 2.0 2.1 Nofel gyntaf awdur yn ennill Gwobr Saesneg Tir na n-Og , 26 Mai 2016. Cyrchwyd ar 28 Mai 2016.