Gareth Jones (newyddiadurwr)
Gareth Jones | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 13 Awst 1905, 1905 ![]() y Barri ![]() |
Bu farw | 12 Awst 1935, 1935 ![]() Rehe Province ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | newyddiadurwr ![]() |
Gwobr/au | Urdd Teilyngdod, Dosbarth lll ![]() |

Newyddiadurwr Cymreig a siaradai Gymraeg, oedd Gareth Richard Vaughan Jones (13 Awst 1905 - 12 Awst 1935). Daeth yn enwog am ei adroddiadau ar yr Holodomor, y newyn yn yr Wcrain yn 1932 a 1933. Ef oedd yn bennaf gyfrifol am roi cyhoeddusrwydd yn y gorllewin i'r newyn hwn.
Ganed Gareth Jones yn Y Barri. Roedd ei fam wedi bod yn athrawes breifat o 1889 - 1892 i blant Arthur Hughes, mab y diwydiannwr Cymreig John Hughes, a sefydlodd tref Yuzovka (Donetsk heddiw) yn yr Wcrain. Magodd hyn yn naturiol ddiddordeb Gareth yn yr ardal. Prifathro Ysgol Sirol y Barri, yr ysgol yr aeth Gareth iddi oedd ei dad, Uwchgapten Edgar Jones.
Graddiodd Gareth Jones yn Ffrangeg o Aberystwyth yn 1926, cyn astudio yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt, gan raddio yno yn 1929. Yn Ionawr 1930, cafodd swydd fel cynghorydd y cyn-Brif Weinidog David Lloyd George ar faterion tramor, ac aeth i Yuzovka am y tro cyntaf. Yn 1933, wedi bod yn yr Almaen yn adrodd ar y digwyddiadau pan ddaeth Adolf Hitler i rym, aeth ymlaen i Rwsia a'r Wcrain. Oddi yno, gyrrodd ei adroddiad enwog ar y newyn. Roedd llawer yn gwadu hyn, pobl fel Walter Duranty, newyddiadurwr uchel ei barch gyda'r New York Times. Bu gohebu cyson rhyngddo ag Ithel Davies yn Y Cymro a fu yn reit bersonol ar adegau.[1]
Llofruddiwyd ef dan amgylchiadau amheus ym Mongolia Fewnol yn 1935, pan oedd ar daith o amgylch y byd i gasglu ffeithiau.
Yn 2008 cafodd Jones ei anrhydeddu gan Lywodraeth yr Wcráin gydag Urdd Ryddid y wlad am ei adroddiadau ar yr Holodomor.[2]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Alun Gibbard: Y Dyn Oedd yn Gwybod Gormod. Y Lolfa 2014
- ↑ Anrhydeddu newyddiadurwr arwrol. BBC Cymru'r Byd (22 Tachwedd, 2008). Adalwyd ar 23 Tachwedd, 2008.
Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
- Margaret Siriol Colley: Gareth Jones. More Than a Grain of Truth. Newark 2005. ISBN 0953700119
- Alun Gibbard: Y Dyn Oedd Yn Gwybod Gormond. Y Lofa 2014. ISBN 9781847718372