Ithel Davies

Oddi ar Wicipedia
Ithel Davies
Ganwyd15 Chwefror 1894 Edit this on Wikidata
Bu farw1989 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethbargyfreithiwr Edit this on Wikidata

Bargyfreithiwr ac ymgyrchydd gwleidyddol Cymreig oedd Ithel Davies (15 Chwefror 1894 - 1989).

Roedd yn enedigol o Gwm Tafolog, Sir Drefaldwyn.[1] Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, carcharwyd ef fel gwrthwynebwr cydwybodol. Bu'n aelod o'r Blaid Lafur am gyfnod, a safodd fel ymgeisydd y blaid yn sedd Prifysgol Cymru yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1935.

Yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1950, safodd fel ymgeisydd Plaid Weriniaethol Cymru yn etholaeth Ogwr. Cafodd 613 o bleidleisiau (1.3%).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Mae'r ffurflen gyfrifiad ei deulu 1911 yn dangos ei fan geni fel Cemmaes.
Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.