Holodomor
| Enghraifft o: | Newyn, communist crime, mass killings under communist regimes, hil-laddiad |
|---|---|
| Lladdwyd | 3,500,000, 4,500,000, 14,500,000 |
| Rhan o | Soviet famine of 1932–1933, Holodomors in Ukraine |
| Dechreuwyd | 1932 |
| Daeth i ben | 1933 |
| Lleoliad | Gweriniaeth Sosialaidd Sofietaidd Wcráin |
![]() | |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/03yqt1 |


Yr Holodomor (Wcreineg: Голодомор) yw'r enw a roddir ar y newyn yn Wcráin, oedd yr adeg honno yn rhan o'r Undeb Sofietaidd, yn 1932-1933. Roedd yn rhan o newyn ar draws ardal ehangach yn yr Undeb Sofietaidd. Mae amcangyfrifon o'r nifer o bobl a fu farw yn y newyn yn amrywio o 2.2 miliwn hyd 3-3.5 miliwn, gyda'r hanesydd Seising Robert Service yn awgrymu ffigwr o 14 miliwn.
Ceir gwahaniaeth barn am achos y newyn. Cred rhai ei fod yn ganlyniad anfwriadol newidiadau economaidd radicalaidd yn yr Undeb Sofietaidd, tra cred eraill ei fod wedi ei greu yn fwriadol, i ddinistrio cenedlaetholdeb Wcranaidd.[angen ffynhonnell]
Rhoddwyd y newyddion am y newyn i'r gorllewin yn adroddiadau'r newyddiadurwr Cymreig Gareth Jones. Bu dadl ffyrnig, gyda llawer o gefnogwyr yr Undeb Sofietaidd yn y gorllewin yn gwadu gwirionedd ei adroddiadau.
