Günter Grass
Günter Grass | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
Günter Wilhelm Grass ![]() 16 Hydref 1927 ![]() Gdańsk ![]() |
Bu farw |
13 Ebrill 2015 ![]() Achos: haint ![]() Lübeck ![]() |
Man preswyl |
Paris, Friedenau, Wewelsfleth, Behlendorf, Gdańsk, Düsseldorf ![]() |
Dinasyddiaeth |
Ymerodraeth yr Almaen, Dinas Rydd Danzig, Yr Almaen ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth |
awdur geiriau, sgriptiwr, bardd, cerflunydd, nofelydd, dramodydd, awdur ysgrifau, hunangofiannydd, arlunydd, arlunydd graffig, altar server, darlunydd, ysgrifennwr, gwneuthurwr printiau, ffotograffydd ![]() |
Adnabyddus am |
Y Drwm Tun, Cath a Llygoden, Blynyddoedd y Cwn, En crabe, Was gesagt werden muss, Die Rättin, Letzte Tänze, Galwad y Llyffant ![]() |
Plaid Wleidyddol |
Plaid Sosialaidd, Democrataidd yr Almaen ![]() |
Priod |
Anna Schwarz, Ute Grass ![]() |
Plant |
Helene Grass ![]() |
Gwobr/au |
Gwobr Lenyddol Nobel, Gwobr Georg Büchner, Hermann Kesten, Gwobr Lenyddol Tywysog Asturias, Gwobr Hans Fallada, Gwobr Samuel-Bogumil-Linde, Fontane-Preis, Ernst-Toller-Preis, gwobr llenyddiaeth academi y celfyddydau cainBafaria, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Rydd Berlin, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Harvard, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Gdańsk, Carl-von-Ossietzky-Medaille, Fontane-Preis, Gwobr Thomas-Mann, doctor honoris causa, Q55111733, Q96622244, honorary citizen of Gdańsk, Deutscher Kritikerpreis, Theodor Heuss award, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, Pipe Smoker of the Year, Q96152270 ![]() |
Llofnod | |
![]() |
Awdur Almaenig oedd Günter Grass (16 Hydref 1927 – 13 Ebrill 2015). Enillodd Wobr Nobel ym 1999.
Bywyd Cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]
Fe'i ganwyd yn Danzig (Gdansk), Gwlad Pwyl heddiw. Magwyd ef ar aelwyd Gatholig i deulu a gadwodd siop yn Danzig. Aeth i'r ysgol leol, y "Gymnasium Conradinum" pan ddechreuodd y rhyfel tra oedd yn 12 oed ym 1939. Yn 15 oed ceisiodd ymuno â'r llynges, ond yn lle hyn aeth i weithio ar y tir. Cafodd ei gonsgriptio yn 17 oed yn Nhachwedd 1944 ac aeth i Dresden lle rhoddwyd e yn y Waffen-SS. Byr oedd ei wasanaeth milwrol ac fe'i anafwyd gan yr Americanwyr yn Ebrill 1945 ac aeth yn garcharor rhyfel.
Symudodd y teulu i Orllewin yr Almaen wedi'r rhyfel; hyfforddodd fel saer maen cyn astudio i fod yn gerflunydd yn Kunstakademie Düsseldorf a'r Universität der Künste Berlin. Wedi priodi yn 1954 dechreuodd ddod yn awdur amlwg.
Gyrfa fel Awdur[golygu | golygu cod y dudalen]
Daeth yn enwog wedi cyhoeddi Die Blechtrommel (Y Drwm Tun) - hunangofiant bachgen o Wlad Pwyl, Oskar Mazerath, nofel a ddaeth yn drioleg yn nes ymlaen. Hunangofiannol yw ei waith cynnar. Y Vergangenheitsbewältigung neu 'dod i delerau a'r gorffennol' yw thema mawr llawer o'r gwaith. Yn y 70au trodd yn wleidyddol ac ymaelododd a'r SPD er mwyn cefnogi ethol Willy Brandt - roedd yn ofalus iawn a cheir blas ei wleidyddiaeth 'araf' yn (Aus dem Tagebuch einer Schnecke).
Roedd yn weithgar yn y mudiad heddwch drwy'r 80au a dyna sail "Zunge Zeigen". O 1983 i 1986 roedd yn llywydd y Berlin Akademie der Künste (Academi Celf Berlin). Enillodd lawer o wobrau gan gynnwys ym 1993: Cymrodoriaeth y Royal Society of Literature ym Mhrydain. Ym 1999 enillodd y Wobr Nobel am Lenyddiaeth. Yn yr unfed ganrif ar hugain daeth ei aelodaeth o'r Waffen SS i'r amlwg ac fe'i beirniadwyd gan rai yn hallt.
Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
- Die Vorzüge der Windhühner (cerddi, 1956)
- Die bösen Köche. Ein Drama (drama, 1956) "Y cogyddion drygionus"
- Hochwasser. Ein Stück in zwei Akten (drama, 1957) Y Llanw
- Onkel, Onkel. Ein Spiel in vier Akten (drama, 1958) Mister, Mister
- Danziger Trilogie
- Die Blechtrommel (1959)
- Katz und Maus (1961) yn y Gymraeg
- Hundejahre (1963)
- Gleisdreieck (cerddi, 1960)
- Die Plebejer proben den Aufstand (drama, 1966) trans. Y Plebeiaid yn paratoi'r gwrthryfel (1966)
- Ausgefragt (cerddi, 1967)
- Über das Selbstverständliche. Reden - Aufsätze - Offene Briefe - Kommentare (traethodau, darlithiadau, 1968)
- Örtlich betäubt (1969)
- Davor (drama, 1970)
- Aus dem Tagebuch einer Schnecke (1972)
- Der Butt (1979)
- Das Treffen in Telgte (1979)
- Kopfgeburten oder Die Deutschen sterben aus (1980)
- Widerstand lernen. Politische Gegenreden 1980–1983 "areithiau gwleidyddol"
- Die Rättin (1986)
- Zunge zeigen. Ein Tagebuch in Zeichnungen (1988)
- Unkenrufe (1992)
- Ein weites Feld (1995)
- Mein Jahrhundert (1999)
- Im Krebsgang (2002)
- Letzte Tänze (2003)
- Beim Häuten der Zwiebel (2006) Cyfrol gyntaf ei hunangofiant.
- Dummer August (cerddi, 2007)
- Die Box (2008) Ail gyfrol ei hunangofiant.
- Grimms Wörter (2010) Trydedd gyfrol ei hunangofiant.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- Nodiadau Nobel (amlieithog)
- Llinell amser
- Bywgraffyddol Archifwyd 2004-01-04 yn y Peiriant Wayback.
- Grass a Gdansk
- Grass yn y Waffen-SS, erthygl The Guardian