Francis Jayne
Francis Jayne | |
---|---|
Ganwyd | 1 Ionawr 1845 Llanelli |
Bu farw | 23 Awst 1921 Croesoswallt |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | offeiriad |
Swydd | Esgob Caer |
Roedd Francis John Jayne (1 Ionawr 1845 – 23 Awst 1921) yn offeiriad Anglicanaidd Cymreig a wasanaethodd fel Prifathro Coleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan ac fel Esgob Caer.[1]
Bywyd Personol
[golygu | golygu cod]Ganwyd Jayne yn Llanelli, Sir Frycheiniog (Sir Fynwy bellach) yn fab i John Jayne, perchennog glofa, ac Elisabeth (née Hains) ei ail wraig.[2]
Addysg
[golygu | golygu cod]Cafodd ei addysgu yn Ysgol Rugby a Choleg Wadham, Rhydychen, lle graddiodd efo gradd dosbarth cyntaf yn ‘’Literae Humaniores’’ (astudiaeth o ieithoedd, hanes ac athroniaeth glasurol Groeg a Rhufain) ym 1865. Graddiodd, efo gradd dosbarth cyntaf eto, ym 1868 mewn Cyfreitheg a Hanes Cyfoes. Ym 1868 daeth yn gymrawd Coleg yr Iesu Rhydychen.
Teulu
[golygu | golygu cod]Priododd Emily Sarah, merch hynaf Watts John Garland. Bu iddynt chwe mab a thair merch.
Priododd chwaer Watts John, Mary Garland, ag Alfred George Edwards, Archesgob cyntaf Cymru.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Ym 1870 ordeiniwyd Jayne fel offeiriad Eglwys Loegr gan gael ei benodi yn gurad Eglwys St Clemence, Rhydychen. Ym 1871 cafodd ei benodi yn diwtor yng Ngholeg Kebel, Rhydychen.
Coleg Llanbed
[golygu | golygu cod]Ym 1879 cafodd ei benodi'n brifathro Coleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan; coleg diwinyddol ar gyfer paratoi dynion i’r offeiriadaeth Anglicanaidd. Yn ystod ei brifathrawiaeth llwyddodd Jayne i godi bri'r coleg. Llwyddodd i greu cysylltiadau rhwng Coleg Dewi Sant a Cholegau Rhydychen a Chaergrawnt; adeiladodd neuaddau preswyl newydd a dyblodd nifer yr efrydwyr.
Awgrymodd Adroddiad yr Arglwydd Aberdâr (1881) cysylltu Coleg Dewi Sant a Phrifysgol Aberystwyth. Roedd yn anghyfreithiol, ar y pryd, i golegau “enwadol” cael nawdd o’r llywodraeth.
Barn y Y Pwyllgor i Ymchwilio i Addysg Ganolradd ac Uwchradd yng Nghymru, oedd bod Coleg Llanbed yn cynnig addysg o’r safon uchaf a byddai modd cefnogi Coleg Llanbed o gael ei huno ag Aberystwyth fel cyd goleg oedd yn cynnig mwy nag addysg enwadol. Roedd yr enwadau anghydffurfiol yn gandryll yn erbyn y syniad. Roedd Jayne hefyd yn gandryll yn erbyn y syniad.
Yn hanes yr anghydffurfwyr Cymreig, llwyddodd yr anghydffurfwyr Cymreig i fethu caniatáu i Lanbed dod yn rhan o Brifysgol Cymru ym 1881.
Yn hanes Eglwys Loegr (a Choleg Llanbed) Jayne bu awdur annibyniaeth Coleg Llanbed.
Esgob Caer
[golygu | golygu cod]Ymddiswyddodd Jayne o brifathrawiaeth Llanbed ym 1886, ar gael ei benodi’n Ficer plwyf Leeds. Plwyf enfawr, nad oedd yn ddinas ar y pryd. Dwy flynedd yn niweddarach cafodd ei benodi'r Esgob Caer.
Ymddeolodd o’r Esgobaeth ym 1919 wedi torri ei iechyd.
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Bu Jayne farw yng Nghroesoswallt ym 1921, a chladdwyd ei weddillion yn Eglwys Bowden, Caer.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ D. T. W. Price, ‘Jayne, Francis John (1845–1921)’, Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, 2004; online edn, Jan 2007 accessed 21 May 2017
- ↑ JAYNE , FRANCIS JOHN ( 1845 - 1921 ), esgob adalwyd 21 Maii 2017