Ffriseg

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Ffriseg
Frysk
Bilingual signs German-Frisian, police station Husum, Germany 0892.JPG

Arwydd dwyieithog yn Almaeneg a Ffriseg y Gogledd yn Husum, yr Almaen.
Siaredir yn Yr Iseldiroedd, Yr Almaen
Rhanbarth Fryslân, Groningen, Niedersachsen, Schleswig-Holstein
Cyfanswm siaradwyr 480,000
Teulu ieithyddol Indo-Ewropeaidd
Tafodieithoedd
System ysgrifennu Yr wyddor Ladin
Statws swyddogol
Iaith swyddogol yn Yr Iseldiroedd
Yr Almaen
Rheoleiddir gan Fryske Akademy (Ffriseg y Gorllewin)
Codau ieithoedd
ISO 639-1 Dim
ISO 639-2
ISO 639-3 variously:
fry – Ffriseg y Gorllewin
frr – Ffriseg y Gogledd
stq – Saterffriseg
Wylfa Ieithoedd 52-ACA
Frisian languages in Europe.svg

Dosbarthiad yr ieithoedd Ffriseg yn Ewrop:

     Ffriseg y Gorllewin      Saterffriseg      Ffriseg y Gogledd

Iaith Germanaidd orllewinol a siaredir yn yr Iseldiroedd a'r Almaen yw Ffriseg. Tri amrywiad sydd i'r iaith: Ffriseg y Gorllewin, Ffriseg y Gogledd a Saterffriseg (Ffriseg y Dwyrain); mae nifer o ieithyddion yn eu hystyried yn dair iaith ar wahân.[1] Ynghyd â'r ieithoedd Angliaidd maent yn ffurfio'r grŵp Eingl-Ffrisiaidd.[2] Ffriseg yw'r iaith sy'n perthyn yn agosaf at y Saesneg, ac eithrio'r Sgoteg.[3]

Tybir gan ambell ysgolhaig i iaith Eingl-Ffriseg fodoli yn y cyfnod cyn i'r Eingl-Sacsoniaid gyrraedd Prydain yn y 5g pan oedd y Ffrisiaid yn ymfudo i Loegr.[3] Yn yr Hen Ffriseg mae cofnodion ysgrifenedig hynaf yr iaith, sy'n dyddio o ddiwedd y 13g, a pharhaodd y cyfnod hwn o'r iaith hyd ddiwedd y 16g. Dangosa Hen Ffriseg y nodweddion sy'n gwahaniaethu Ffriseg fodern a Saesneg oddi ar yr ieithoedd Germanaidd eraill. Yn hanesyddol fe'i siaredir ar draws ardal Ffrisia: o'r Isalmaen (heddiw Noord-Holland) ar hyd arfordir Môr y Gogledd i Schleswig, ac Ynysoedd Ffrisia yng Ngeneufor yr Almaen. Anaml y defnyddid Ffriseg yn iaith ysgrifenedig yn y dair canrif nesaf, ond gwelir adfywiad yr iaith yn y ganrif ddiwethaf yng Ngorllewin Ffrisia. Yno mae cadarnle'r iaith, a'i defnyddir ar y cyd â'r Iseldireg; fe'i disodlir yn raddol gan yr Almaeneg yn Nwyrain a Gogledd Ffrisia.[4]

Dosbarthiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Ffriseg y Gorllewin[golygu | golygu cod y dudalen]

Ffriseg y Gorllewin yw'r iaith gryfaf o ran nifer ei siaradwyr: tua 470,000 a 467,000 ohonynt yn yr Iseldiroedd,[5] yn nhaleithiau Fryslân (gan gynnwys ynysoedd Schiermonnikoog a Terschelling)[4] a Groningen (yn bennaf bwrdeistref De Marne). Mae ganddi statws iaith daleithiol yn Fryslân ers 1996. Nifer isel sy'n llythrennog rugl, ond mae dros 70% o drigolion Fryslân yn medru siarad yr iaith. Ymhlith tafodieithoedd Ffriseg y Gorllewin mae Westerlauwers Fries, Súdhoeksk, Wâldfrysk, a Klaaifrysk.[5] Adfywiodd llenyddiaeth Ffriseg yn y 19g. Defnyddir y Ffriseg mewn ysgolion a llysoedd yn nhalaith Fryslân, a hyrwyddir yr iaith a'i diwylliant gan y mudiad iaith Ried fan de Fryske Beweging a'r Fryske Akademy.

Saterffriseg[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd ganddi tua 2000 o siaradwyr yn 2015, a'r rhan fwyaf ohonynt yn ganol oed neu'n hŷn. Fe'i chlywir yn nhalaith Niedersachsen yn yr Almaen: Saterland, Strücklingen, Ramsloh, a Scharrel yn ardal Cloppenburg.[6]

Ffriseg y Gogledd[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym 1976 roedd 10,000 o siaradwyr, o boblogaeth o 60,000 o Ffrisiaid Gogleddol, yn nhalaith Schleswig-Holstein yng ngogledd yr Almaen. Yr arfordir rhwng Afon Eider ac Afon Wiedau ac Ynysoedd Gogledd Ffrisia yw ardal yr iaith (ynysoedd Föhr, Amrum, Sylt, Norstrand, Pellworm, grŵp Halligen, a Helgoland). Ymhlith y tafodieithoedd mae Mooringer (tir mawr, Mooringa), Ferring (Fohr-Amrum), Sölreng (Sylt), a Helgoland. Er nad oes fawr o agwedd negyddol tuag at yr iaith, fe'i siaredir yn bennaf gan yr hen bobl ac yn y cartref a dim ond ychydig sy'n ei darllen. Parheir i glywed tafodiaith Ferring, ond mae tafodiaith Sölreng bron wedi diflannu. Nid oes gan yr iaith droedle yn yr ysgol, yr eglwys neu'r farchnad.[7]

Rhennir nifer o eirfa rhwng Ffriseg y Gogledd â'r Almaeneg Safonol ac Isel Sacsoneg Dwyrain Ffrisia, ac felly mae'n bosib i ambell siaradwr dwyieithog sy'n rhugl yn Ffriseg y Gorllewin a'r Almaeneg i ddeall Ffriseg y Gogledd.[7]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. (Saesneg) Frisian. Ethnologue. Adalwyd ar 29 Mai 2016.
  2. (Saesneg) Subfamily: Frisian. Glottolog. Adalwyd ar 29 Mai 2016.
  3. 3.0 3.1 (Saesneg) Tom McArthur (1998). Frisian. Concise Oxford Companion to the English Language. Encyclopedia.com. Adalwyd ar 29 Mai 2016.
  4. 4.0 4.1 (Saesneg) Frisian language. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 29 Mai 2016.
  5. 5.0 5.1 (Saesneg) Frisian. Ethnologue. Adalwyd ar 29 Mai 2016.
  6. (Saesneg) Saterfriesisch. Ethnologue. Adalwyd ar 29 Mai 2016.
  7. 7.0 7.1 (Saesneg) Northern Frisian. Ethnologue. Adalwyd ar 29 Mai 2016.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Wikipedia
Argraffiad Saterffriseg Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd