Ried fan de Fryske Beweging

Oddi ar Wicipedia
Logo'r mudiad iaith

Bwriad Ried fan de Fryske Beweging (RfdFB – Cyngor y Mudiad Ffriseg) yw dod â phobl sy'n cefnogi Frisia (Fryslân) ar arfordir yr Iseldiroedd a'r iaith Ffriseg a'i diwylliant, at ei gilydd. Mae'r Cyngor yn sefydliad annibynnol sy'n cael ei redeg gan wirfoddolwyr gyda sawl aelod-sefydliad a thros 500 o noddwyr ariannol.

Hanes[golygu | golygu cod]

Cafodd Ried fan de Fryske Beweging ei sefydlu yn 1945 fel grŵp ymbarel dros sawl mudiad Ffriseg llai ('It Selskip foar Fryske Tael en Skriftekennisse', 'It Kristlik Frysk Selskip', 'it Roomsk Frysk Boun' ac 'It Frysk Boun om Utens'). Y syniad oedd cael un sefydliad yn lle llawer i drafod gyda'r llywodraeth a gwleidyddion ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Un o'r prif amcanion oedd diogelu'r iaith Ffriseg yn gyfreithiol dan gyfraith yr Iseldiroedd. Cyn hynny prin fod gan yr iaith unrhyw statws swyddogol o gwbl. Rheolir y Cyngor gan fwrdd sy'n cynnwys cynrychiolwyr o'r aelod-sefydliadau a phobl a ddewisir gan y noddwyr. Ers 2005, mae'r Ried fan de Fryske Beweging wedi dechrau cynyddu nifer ei aelod-sefydliadau.

Aelodau[golygu | golygu cod]

Mae'r nmudiadau a sefydliadau hyn yn aelodau o'r Ried fan de Fryske Beweging:

  • De Fryske Rie
  • FBU = Frysk Boun om Utens
  • Federaasje = Federaasje fan Fryske Studinteferienings
  • FFE = Feriening foar in Federaal Europa
  • FFOF = Freonen fan Omrop Fryslân
  • FFU = Feriening foar Frysk Underwiis
  • IFAT = It Frysk Amateur Toaniel
  • Ons Bildt = Stichting 'Ons Bildt'
  • Jong Fryske Mienskip
  • Krúspunt = It eardere Kristlik Frysk Selskip
  • Selskip 1844 = It Selskip foar Fryske Taal- en Skriftekennisse
  • Stellingwarver Schrieversronte

Yn ogystal ceir rhai cannoedd o 'noddwyr'.

Gweithgareddau[golygu | golygu cod]

Prif amcan y Ried yw ennill statws cyfreithiol llawn i'r Ffriseg. Dros y 50 mlynedd diwethaf mae hynn yn cynnwys:

  • Cael awr o wersi Ffriseg yn yr ysgolion elfennol bob dydd (gofynnol yn ôl y gyfraith ers 1980). Yn 1993 daeth Ffriseg yn iaith ofynnol yn yr ysgolion uwchradd hefyd.
  • Ennill yr hawl i gyfathrebu gyda swyddogion yn Ffriseg a disgwyl cael ateb yn Ffriseg hefyd.
  • Caniatau i wleidydyddion, e.e. cynghorywr, siarad Ffriseg ac i gofnodion gael eu cadw yn yr iaith honno,
  • Yr hawl i ddefnyddio Ffriseg yn llysoedd talaith Fryslân gyda'r hawl i gael cyfieithydd pe bai rhaid.
  • Yr hawl i ddefnyddio Ffriseg mewn dogfennau swyddogol (ers 2005).

Prosiectau[golygu | golygu cod]

  • Swingel – cylchgrawn y Cyngor gydag erhyglau am ei waith ac am y diwylliant Ffriseg.
  • De Fryske Reklamepriis – i hybu hybysebion Ffriseg ar y teledu a'r radio.
  • Fear yn 'e Broek – gwobr flynyddol i rywun neu rywrai sy'n gweithio dros yr iaith.
  • Cylchlythyr blynyddol
  • Gwefan www.goedfrysk.nl – ar gyfer pobl sy'n dymuno cymorth i sgwennu Ffriseg.
  • Euregua – Gêm fwrdd Ffriseg i blant ac oedolion.
  • Trefnu darlithoedd am yr iaith
  • Gwefan www.itnijs.nl – gwefan newyddion am yr iaith Ffriseg.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]