Ffonoleg Gaeleg yr Alban

Oddi ar Wicipedia
Canrannau nifer siaradwyr Gaeleg yn 2011

Nid oes gan Aeleg yr Alban ffonoleg safonol. Er bod yr wybodaeth isod yn berthnasol i bob neu bron pob tafodiaith, sonnir am dafodieithoedd gogledd-orllewin yr Alban (gogledd-ddwyrain yr Ucheldiroedd, Ynysoedd Heledd a'r Ynys Hir) yn fwy nag eraill gan mai dyna lle mae'r rhan fwyaf o siaradwyr yn byw.

Nodweddion ffonoleg Gaeleg yw:

  • nifer mawr o ffonemau corunol soniarus (9 ohonynt fel arfer)
  • set gyferbyniol o gytseiniaid taflodedig a didaflodi
  • acen gref ar sillaf gyntaf gair a lleihau llafariaid mewn sillafau diacen
  • rhaganadlu ffrwydrolion mewn rhai cyd-destunau
  • goslef ddisgynnol yn y mwyafrif o frawddegau, gan gynnwys cwestiynau
  • treiglad meddal a ffenomena sandhi eithafol

Oherwydd bod cymaint o siaradwyr Gaeleg ar hyd arfordir y gorllewin a'i ynysoedd niferus, mae tafodieithegwyr Gaeleg yn tueddu i ddweud bod gan bob ynys ei thafodiaith ei hun. Ar y tir mawr, nid ydynt wedi penderfynu ar ffiniau tafodieithol eglur hyd yn hyn ond, yn gyffredinol, y prif ardaloedd yw Argyllshire, Perthshire, Moidart/Ardnamurchan, Wester Ross a Sutherland.

Hanes y pwnc[golygu | golygu cod]

Mae disgrifiadau o'r iaith wedi canolbwyntio ar ei ffonoleg yn bennaf. Cyhoeddodd y naturiaethwr o Gymru, Edward Lhuyd, y gwaith pwysig cyntaf ar Aeleg yr Alban ar ôl casglu data yn Ucheldiroedd yr Alban rhwng 1699 a 1700, yn enwedig data am Gaeleg Argyll a thafodieithoedd gogledd-ddwyrain Inverness, sydd erbyn hyn wedi darfod.[1]

Ar ôl bwlch sylweddol, gwelwyd nifer helaeth o astudiaethau tafodieithol ynghanol ac ar ddiwedd yr 20g, yn enwedig gan ysgolheigion o Lychlyn, a oedd yn canolbwyntio ar ffonoleg yn bennaf:

  • 1938 Nils Holmer Studies on Argyllshire Gaelic cyhoeddwyd gan Brifysgol Uppsala
  • 1937 Carl Borgstrøm The Dialect of Barra cyhoeddwyd gan Norsk Tidskrift for Sprogvidenskap
  • 1940 Carl Borgstrøm The Dialects of the Outer Hebrides cyhoeddwyd gan Norsk Tidskrift for Sprogvidenskap
  • 1941 Carl Borgstrøm The Dialects of Skye and Ross-shire cyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Norwy
  • 1956 Magne Oftedal The Gaelic of Leurbost, Isle of Lewis cyhoeddwyd gan Norsk Tidskrift for Sprogvidenskap
  • 1957 Nils Holmer The Gaelic of Kintyre cyhoeddwyd gan Athrofa Uwchefrydiau Dulyn
  • 1962 Nils Holmer The Gaelic of Arran cyhoeddwyd gan Athrofa Uwchefrydiau Dulyn
  • 1966 Gordon MacGillFhinnein Gàidhlig Uibhist a Deas ("Gaeleg De Uist") cyhoeddwyd gan Athrofa Uwchefrydiau Dulyn
  • 1973 Elmar Ternes The Phonemic Analysis of Scottish Gaelic (focussing on Applecross Gaelic) cyhoeddwyd gan Helmut Buske Verlag
  • 1978 Nancy Dorian East Sutherland Gaelic cyhoeddwyd gan Athrofa Uwchefrydiau Dulyn
  • 1989 Máirtín Ó Murchú East Perthshire Gaelic cyhoeddwyd gan Athrofa Uwchefrydiau Dulyn

Yn y cyfnod rhwng 1950 a 1963, gwnaethpwyd gwaith maes er mwyn dogfennu pob tafodiaith Aeleg a oedd yn bodoli, a arweiniodd at gyhoeddi pum cyfrol Survey of the Gaelic Dialects of Scotland gan Athrofa Uwchefrydiau Dulyn ym 1997. Roedd yr arolwg wedi casglu data gan bobl cyn belled ag Arran, Cowal, Brig o' Turk i'r de, Blairgowrie, Braemar a Grantown-on-Spey i'r dwyrain, Dunbeath a Portskerra i'r gogledd-ddwyrain a phob ardal i'r gorllewin o'r ardaloedd hyn, gan gynnwys St Kilda.

Llafariaid[golygu | golygu cod]

Dyma dabl o ffonemau lafarog unsain Gaeleg yr Alban:[2]

Llafariaid unsain Gaeleg yr Alban[3]
Blaen Blaen agos Canol Ôl
Crwn Anghrwn Crwn
Caeedig i ɯ u
ɪ
Hanner caeedig e ɤ o
ə
Hanner agored ɛ ɔ
Agored a[4]

Gall pob ffonem lafarog heblaw am ɪ ac ə fod yn hir (ː) ac yn fyr.

Deuseiniaid[golygu | golygu cod]

ei, əi, ai, ui, iə, uə, εu, ɔu, au, ia[5]

Cytseiniaid[golygu | golygu cod]

Fel ei chwaer-ieithoedd, Gwyddeleg Modern a Manaweg, mae Gaeleg yr Alban yn cynnwys cytseiniaid "llydain" a "chulion", i ddefnyddio'r termau traddodiadol. Yn hanesyddol, datblygodd cytseiniaid Gwyddeleg Cyntefig o flaen y llafariaid blaen /e/ ac /i/ gydynganiad fel [j], sy'n debyg i gytseiniaid taflodedig Rwseg[6][7], tra bod y cytseiniaid o flaen llafariaid anflaen /a/, /o/ ac /u/ wedi datblygu cydynganiad felar. Mae Gwyddeleg yn dal i wahaniaethu rhwng cytsain "lydan" (yn ffonelegol, cytsain felar neu felaredig) a "chul" (cytsain daflodol neu daflodedig), ond dim ond gyda /n̪ˠ l̪ˠ rˠ/ mae felareiddio yng Ngaeleg yr Alban. Mae hyn yn golygu bod cytseiniaid "llydain" eu horgraff yn rhai plaen, ond bod rhai "culion" yn daflodol neu'n daflodedig. Y cyseiniaid gwefusol (/p m f v/) yw'r prif eithriadau i hyn gan eu bod wedi colli eu ffurfiau taflodedig. Yr unig awgrym erbyn hyn fod ganddynt daflodi ar un adeg yw llithriad o flaen neu ar ôl llafariaid ôl, e.e. beul /pial̪ˠ/ ('ceg') yn erbyn beò /pjɔː/ ('byw'). Mae'r taflodoli wedi datblygu dros amser hefyd yn achosion rhai seiniau, e.e. mae "s gul" wedi'i thaflodoli gymaint nes ei bod yn ʃ ôl-orfannol. Bydd ieithyddion Celtaidd yn trawsgrifio cytseiniaid culion â chollnod ar ôl y gytsain (e.e. m′) a gadael cytseiniaid llydain heb nod.

Cytseiniaid Gaeleg yr Alban
Gwefusol Corunol Dorsal Glotol
Deintiol Gorfannol Taflodol Felar
Ffwydrol   p t̪ʰ   tʲʰ   kʲʰ     k
Ffrithiol f   v ʃ ç   ʝ x   ɣ h
Trwynol m n̪ˠ n ɲ
Amcanedig l̪ˠ l ʎ j
Cnithiedig ɾ ɾʲ
Crych

Mae rhai cytseiniaid, yn enwedig y ffritholion h x ç ɣ ʝ v a'r corunolion lenis l n ɾ ɾʲ, yn brin ar ddechrau gair onibai eu bod wedi'u treiglo.

Amrywio seinegol[golygu | golygu cod]

Gall fod gan ffonemau'r Aeleg wahanol aloffonau yn ogystal ag amrywiadau tafodieithol mewn ynganu nad ydynt yn y tabl uchod. Dyma'r rhain mwyaf cyffredin:

  • /tʲʰ/ fel tʃʰ neu tɕʰ[8]
  • /ɾʲ/ fel ð yn nhafodieithodd Ynysoedd Heledd[8]
  • /ɲ/ fel [8]

L felaredig[golygu | golygu cod]

Ardaloedd aloffonau "l" dywyll

Chwe phrif ynganiad sydd gan /l̪ˠ/ felaredig, a ddangosir ar y map:[8]

  • Ardal 1, y fwyaf poblog o bellffordd, â l̪ˠ. Mae'r ardal hon yn cynnwys y rhan fwyaf o Ynysoedd Allanol Heledd, yr Ucheldirodd a'r lleoedd i'r de o ardaloedd gorllewin canolog megis Kintyre, Arran, Argyll a Dwyrain Perthshire.
  • Ardal 2, Ardnamurchan, Moidart, Lochaber, South Lorn ac Upper Badenoch â l̪ˠw neu wl̪ˠ
  • Ardal 3, rhwng Mull a Lismore ag u̯ˠ leisioledig.
  • Ardal 4, yn ne Mull ac Easdale, â ð or ðˠ
  • Ardal 5, Islay, â t̪ˠ neu t̪ˠl̪ˠ
  • Ardal 6, (St Kilda) a oedd â w neu ʊ̯

Weithiau mae Arolwg Tafodieithoedd Gaeleg yr Alban yn cofnodi ffurfiau gwefusoledig fel l̪ˠw neu l̪ˠv y tu allan i'r ardaloedd y maent yn ymddangos ynddynt fel arfer, er enghraifft yn Harris a Wester Ross.

Anadlu[golygu | golygu cod]

Mae'r cytseiniaid ffortis /pʰ, t̪ʰ, tʲʰ, kʲʰ, kʰ/ yn ddi-lais ac anadlog. Daw'r anadlu hwn ar ôl y gytsain ar ddechrau gair ac, yn y mwyafrif o dafodieithoedd, o'i blaen ynghanol gair ar ôl llafariaid acennog.[9] Yn debyg i ymddangosiad anadlu, mae gan gystain gul ôl-lithriad taflodol pan ddaw ar ddechrau gair a rhaglithriad taflodol ynghanol neu ar ddiwedd gair.[10]

Rhaganadlu[golygu | golygu cod]

Dosbarthiad bras rhaganadlu yn nhafodieithoedd Gaeleg yr Alban

Mae cryfder rhaganadlu'n amrywio yn ôl y dafodiaith. Gellir cael ei ynganu fel ʰ neu h lotol neu gall amrywio gan ddibynnu ar fan ynganu'r gytsain raganadlog, hynny yw ç o flaen segmentau "culion" a x o flaen rhai "llydain".[11] Mae ymddangosiad rhaganadlu'n dilyn hierarchiaeth o c > t > p, sef, os bydd rhaganadlu ar /pʰ/ gan dafodiaith, bydd ef ganddi yn y mannau ynganu eraill hefyd. Yngenir rhaganadlu fel a ganlyn:[8]

  • Ardal 1, fel xk xt xp a çkʲ çtʲ çp
  • Ardal 2, fel xk xt hp a çkʲ çtʲ hp
  • Ardal 3, fel xk ht hp a çkʲ htʲ hp
  • Ardal 4, fel ʰk ʰt ʰp
  • Ardal 5, fel xk a çkʲ (heb raganadlu ar t na p)
  • Ardal 6, heb raganadlu

Trwynoli[golygu | golygu cod]

Mewn rhai tafodieithoedd, yn enwedig yn y gogledd-orllewin, lleisir ffrwydrolion ar ddechrau sillaf acennog pan fyddant yn dilyn cytsieniaid trwynol y fannod, er enghraifft: taigh ('tŷ') t̪ʰɤj ond an taigh ('y tŷ') ən̪ˠ ɤj (gweler hefyd tombaca ('baco') t̪ʰomˈbaʰkə. Yn y tafodieithoedd hyn, mae'r ffrwydrolion lenis/p, t, tʲ, kʲ, k/ yn tueddu i gael eu trwynoli'n llwyr, felly doras ('drws') t̪ɔrəs ond an doras ('y drws') ə n̪ˠɔrəs. Mae rhwybeth tebyg yn digwydd yn y Wyddeleg (ei threiglad trwynol) ac yn ffonoleg Groeg Modern.

Treiglo'n feddwl a sillafu[golygu | golygu cod]

Mae gan gytseiniaid y treiglad meddwl ynganiadau arbennig.

Y treiglad meddal[12]
Cysefin Treiglad meddal
Llydan Cul Orgraff Llydan Cul
p pj[13] b bh v vj[13]
kʲʰ c ch x ç
d dh ɣ ʝ
f fj[13] f fh distaw
k g gh ɣ ʝ
l̪ˠ ʎ l l̪ˠ l
m mj[13] m mh v vj
n̪ˠ ɲ n n n
pʰj[13] p ph f fj[13]
r ɾ
ʃ s sh h hj[13]
t̪ʰ tʲʰ t th h hj[13]
^† Nid ysgrifennir y treiglad meddal ar "l n r". Ar ddechrau gair, cymerir bod gan y rhain eu gwerthoedd cryfion (/(l̪ˠ) ʎ n̪ˠ ɲ rˠ/) onibai eu bod wedi'u treiglo neu eu bod yn perthyn i grŵp bychan diffiniedig o eirynnau (ffurfiau'r arddodiaid "ri" a "le" yn bennaf). Mewn man arall, gall unrhyw un o ynganiadau "l n r" ddigwydd.

Ni threiglir /s̪/ pan ddaw o flaen /m p k/. Gall y treiglad meddal gael ei atal pan fydd cytseiniaid sy'n cael eu hynganu yn yr un man ynganu yn gwrthdaro â rheolau treiglo. Mae rhai o'r rheolau hyn yn weithredol o hyn (yn enwedig yn achos cytseiniaid deintiol), tra bod eraill wedi'u ffosileiddio (sef cytseiniaid felar a gwefusol). Er enghraifft, mae atal treiglo yn y cyfenw Caimbeul ('Campbell') (yn wahanol i Camshron 'Cameron') yn dangos atal treiglo wedi'i ffosileidio, ond mae atal treiglo yn air an taigh salach ('ar y tŷ brwnt') (yn wahanol i air a' bhalach mhath ('ar y bachgen da')) yn dangos y rheol atal treiglo weithredol.

Acen[golygu | golygu cod]

Ar y sillaf gyntaf mae'r acen fel arfer, e.e. drochaid ('pont') ˈt̪rɔxɪtʲ.

Llafariaid rhyngosodol[golygu | golygu cod]

Nodwedd ynganu'r Aeleg yw gosod llafariaid rhwng rhai cytseiniaid cyfagos. Mae hyn yn effeithio ar "l n r" orgraffyddol pan ddilynant b bh ch g gh m mh orgraffyddol ac ar "m" pan ddaw ar ôl "l r s ch".

tarbh ('tarw') t̪ʰaɾav
Alba ('yr Alban') al̪ˠapə.

Weithiau, ceir llafariad ryngosodol mewn lle annisgwyl, megis yn y gair Glaschu /kl̪ˠas̪əxu/ "Glasgow".

Mae rhyngosod llafariaid yn digwydd yn Sgoteg a thafodiaethoedd Saesneg yr Alban hefyd, e.e. girl ɡʌɾəl "merch" a film fɪləm "ffilm", ac fe'i ceir yn y Gymraeg, yn enwedig yn y de, mewn geiriau fel e.e. aml amal, cefn keˑvɛn, Lloegr ɬɔigɛr.

Colli seiniau[golygu | golygu cod]

Collir ə diwedd gair o flaen gair sy'n dechrau â llafariaid, er enghraifft:

duine ('dyn') ˈt̪ɯɲə
an duine agad ('dy ddyn di') ən̪ˠ ˈt̪ɯɲ akət̪

Tonau[golygu | golygu cod]

Ymhlith yr ieithoedd Celtaidd, dim ond yn nhafodieithoedd Lewis[14] a Sutherland[15] mae gan eiriau donau, sef yng ngogledd pellaf yr ardal Aeleg ei hiaith. Yn seinegol ac yn hanesyddol, mae'r tonau hyn yn debyg i rai ieithoedd Norwy, Sweden a gorllewin Denmarc, â phatrymau tonyddol penodol mewn geiriau unsill a deusill. Yng Ngaeleg Lewis, mae'n anodd cael hyd i barau cyferbyniol ond ymhlith yr enghreifftiau prin mae bodh(a) ('craig dan ddŵr') po.əyn erbyn ('buwch') poː, a fitheach ('cigfran') fi.əx yn erbyn fiach ('dyled') fiəx. Enghraifft arall yw'r gwahaniaeth tonyddol rhwng ainm ('enw') ɛnɛm ac anam ('enaid') anam, lle mae gan yr ail un batrwm tonyddol sy'n briodol i ddeusill. Ni cheir y gwahaniaethau tonyddol hyn yn Iwerddon nac yn unman arall yn y Gàidhealtachd.[16]

Nodiadau[golygu | golygu cod]

  1. Campbell, JL & Thomson, D. Edward Lhuyd in the Scottish Highlands 1699-1700 Rhydychen (1963)
  2. MacAulay, Donald (1992). The Celtic Languages. Gwasg Prifysgol Caergrawnt. t. 236.
  3. Bauer, M. Blas na Gàidhlig (2010) Akerbeltz ISBN 978-1-907165-00-9
  4. Noder bod a yn ymddwyn yn ffonoleg fel llafariad flaen ac ôl gan ddibynny ar yr ardal ddaearyddol a hyd y llafariad.
  5. MacAulay, Donald (1992). The Celtic Languages. Gwasg Prifysgol Caergrawnt. t. 237.
  6. Nodyn:Harvcoltxt
  7. Nodyn:Harvcoltxt
  8. 8.0 8.1 8.2 8.3 8.4 Ó Dochartaigh, C. Survey of the Gaelic Dialects of Scotland I-V Athrofa Uwchefrydiau Dulyn (1997) ISBN 1-85500-165-9
  9. Nodyn:Harvcoltxt
  10. Nodyn:Harvcoltxt, citing Nodyn:Harvcoltxt
  11. Nodyn:Harvcoltxt
  12. Seiliedig ar Nodyn:Harvcoltxt
  13. 13.0 13.1 13.2 13.3 13.4 13.5 13.6 13.7 Nid oes cyferbyniad cul a llydan ar gytseiniaid gwefusol /m p b f v/, er, o flaen neu ar ôl llafariaid ôl, mae cytseiniaid a fu'n gul wedi troi'n glystyrau o gytsain gwefusol a j. Ar ddechrau gair, mae'r j yn dilyn y gytsain ac ar ôl gair, mae'n dod o'i blaen. Mae'r un amgylchedd llafarog yn cynhyrchu /hj/ o ganlyniad i dreiglo /tʲʰ/ a ʃ
  14. Nodyn:Harvcoltxt
  15. Nodyn:Harvcoltxt
  16. Nodyn:Harvcoltxt

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Nodyn:Gaeleg yr Alban Nodyn:Ffonoleg