Muile

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Mull)
Jump to navigation Jump to search
Muile
Ben More (Mull).jpg
Math Ynys Edit this on Wikidata
Prifddinas Tobar Mhoire Edit this on Wikidata
Poblogaeth 2,800 Edit this on Wikidata
Cylchfa amser UTC±00:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynol Ynysoedd Mewnol Heledd Edit this on Wikidata
Sir Argyll a Bute Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Yr Alban Yr Alban
Arwynebedd 886 km² Edit this on Wikidata
Gerllaw Firth of Lorn Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 56.45°N 6°W Edit this on Wikidata

Un o Ynysoedd Mewnol Heledd yng ngogledd-orllewin yr Alban yw Muile (Saesneg: Mull neu Isle of Mull). Yn weinyddol, mae'n rhan o Argyll a Bute. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 2,667. Y brif dref yw Tobermory.

Mae'r enw yn gytras a Moel yn Gymraeg. Gydag arwynebedd o 875 km2, Muile yw'r ail-fwyaf o Ynysoedd Mewnol Heledd, a'r bedwaredd o ran maint ymhlith holl ynysoedd yr Alban. Ceir nifer o gestyll ar yr ynys: Castell Aros, Castell Duart a Chastell Torosay. Yn y de-orllewin, mae culfor bychan yn ei gwahanu oddi wrth ynys lai Iona, tra mae Ulbha yn un o nifer o ynysoedd bychain ger yr arfordir gorllewinol.

Mae nifer o gysylltiadau fferi a'r tir mawr: y pwysicaf yw'r fferi rhwng Oban a Craignure. Y copa uchaf yr ynys yw Ben More, 966 medr (3,170 troedfedd). Daw llawer o dwristiaid i'r ynys yn yr haf, llawer ohonynt i weld y bywyd gwyllt. Mae Muile yn un o'r mannau gorau ym Mhrydain i wylio'r dyfrgi, ac mae Eryr y Môr a'r Eryr Euraid yn nythu ar yr ynys.

Lleoliad Muile
Tobermory