Barraigh
| Math | ynys |
|---|---|
| Prifddinas | Castlebay |
| Poblogaeth | 1,174 |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Ynysoedd Allanol Heledd |
| Lleoliad | Cefnfor yr Iwerydd |
| Sir | Ynysoedd Allanol Heledd |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 5,875 ha |
| Uwch y môr | 383 metr |
| Gerllaw | Sea of the Hebrides |
| Cyfesurynnau | 56.9833°N 7.4667°W |
![]() | |
Un o Ynysoedd Allanol Heledd yng ngogledd-orllewin yr Alban yw Barraigh (Saesneg: Barra).
Saif yr ynys, sy'n un gymharol fechan, yn rhan ddeheuol Ynysoedd Allanol Heledd, i'r de-orllewin o ynys fwy Uibhist a Deas, gyda chulfor Caolas Bharraigh yn eu gwahanu. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 1,078, y rhan fwyaf ohonynt yn siaradwyr Gaeleg ac yn Gatholigion.
Ceir nifer o ynysoedd llai o'i chwmpas, yn cynnwys Eiriosgaigh a Bhatarsaigh. Tir isel yw'r rhan fwyaf o Barraigh, gyda chopa Beinn Eolaigearraidh yn cyrraedd 102 m. Mae fferi i bobl ar droed yn unig ym mhentref bychan Eolaigearraidh yn y gogledd-ddwyrain, yn cysylltu a Ludag ar Uibhist a Deas. Saif maes awyr bychan ar draeth Tràigh Mhòr ar ochr ddwyreiniol yr ynys, gyda'r awyrennau yn glanio ar y traeth ei hun. Y prif bentref yw Bagh a' Chaisteil ("Bae'r Castell"); y castell yw Ceiseamul, eiddo'r clan MacNeil, rheolwyr Barraigh am ganrifoedd. Oddi yma mae fferi i Loch Baghasdail, Oban a Mallaig.


