Etsy

Oddi ar Wicipedia
Etsy
Enghraifft o'r canlynolgwefan, busnes, online shop, cwmni cyhoeddus Edit this on Wikidata
Rhan oS&P 500 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu18 Mehefin 2005 Edit this on Wikidata
Aelod o'r  canlynolInternet Association Edit this on Wikidata
Isgwmni/aualittleMarket.com Edit this on Wikidata
PencadlysDumbo, Efrog Newydd Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.etsy.com/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Enghraifft o'r math o nwyddau penodol Gymreg gellid prynu ar Etsy
Siart baneri yr United States Encyclopedia a gyhoeddwyd yn 1904, enghraifft o'r math o nwyddau fintash (vintage) gwerthir ar Etsy

Wedi'i sefydlu yn 2005, mae Etsy yn wefan e-fasnach ac yn farchnad ar-lein ar gyfer prynu a gwerthu cyflenwadau celf a wnaed â llaw, vintage a chelf. Mae'r platfform gwerthu rhithwir yn cael ei weithredu gan y cwmni o'r un enw, Etsy, Inc. Mae pencadlys Etsy, Inc. ym mwrdeistref Brooklyn, Efrog Newydd. Mae'r cynnig yn cynnwys celf, ffotograffiaeth, ffasiwn, gemwaith, cynhyrchion cosmetig, teganau ac eraill. Er mwyn cael eu hystyried yn “vintage”, rhaid i eitemau a gynigir ar y llwyfan fod o leiaf 20 mlwydd oed.

Tŵf[golygu | golygu cod]

Aeth gwefan y farchnad ar-lein yn fyw ar 18 Mehefin 2005.[1] Yn 2011, roedd 800,000 o werthwyr gweithredol a 12 miliwn o brynwyr wedi'u cofrestru ledled y byd, a chafodd 25 miliwn o ymwelwyr eu cyfrif bob mis.[2] Yn 2010, agorodd Etsy gangen yn Berlin. Y prif gystadleuydd yn yr Almaen oedd platfform DaWanda, a ddaeth i ben yn 2018.[3][4] O 2021 ymlaen, adroddodd Etsy 4.7 miliwn o werthwyr gweithredol a 90.7 miliwn o brynwyr gweithredol ledled y byd.[5]

Mae'r llwyfan Handmade yn arbennig o lwyddiannus yn yr Unol Daleithiau. Yn ôl ei ddatganiadau ei hun, gwerthiannau yn ail chwarter 2022 oedd $585 miliwn ac elw net oedd $73 miliwn. [6]

Mae Etsy yn codi comisiwn o 6.5% a ffioedd eraill am werthiannau a wneir trwy'r wefan.[7]

Lleoleiddio[golygu | golygu cod]

Mae Esty wedi ymestyn a lleoleiddio ei gwasanaeth gan gynnig y llwyfan mewn sawl iaith heblaw'r Saesneg: Almaeneg, Sbaeneg, Ffrangeg, Eidaleg, Japaneg, Iseldireg, Pwyleg, Portiwgaleg, a Rwsieg. Ers canol 2012, mae Etsy wedi bod yn cynyddu ei gysylltiad ag Ewrop; er enghraifft, mae ap iPhone y platfform hefyd wedi bod ar gael mewn gwahanol ieithoedd megis Almaeneg ers mis Hydref 2012.[8] Yn ogystal â'r buddsoddwr o UDA Accel Partners , roedd y buddsoddwyr hefyd yn cynnwys y cyfalafwr menter dan arweiniad partner Acton Capital Partners o München. Ers 16 Ebrill 2015, mae cyfranddaliadau Etsy wedi'u masnachu ar Gyfnewidfa Stoc Efrog Newydd (NASDAQ).[9]

Esty a'r Gymraeg[golygu | golygu cod]

Mae nifer o fasnachwyr bychain Cymreig wedi gwneud mantais o lwyfan Etsy gan ei fod y cynnig lleoliad ar-lein cydnabyddiedig ryngwladol ar gyfer gwaith crefft sydd, yn aml, yn fwy cymwys ar gyfer nwyddau arbenigol gyda brandio Cymraeg neu Gymreig. Mae hefyd yn cynnig llwyfan ar gyfer cwmnïau neu hunan-fasnachwyr sydd â llinell gynhyrchu llai heb orfod cyfaddawdu a mynd drwy gwmni masnachol gydnabyddiedig fwy. Ym mis Medi 2022 roedd gan tudalen benodoedig 'Cymraeg' ar Esty dros mil o gofnodion relefant.[10] a thros 5,000 ar gyfer 'Cymru' (oedd yn cynnwys canran uchel iawn o ddeunydd yn arddel y Gymraeg).[11]

Ymhlith y math o nwyddau penodol Cymraeg a Chymreig sy'n cael eu gwerthu mae gwmaith, papurach, posteri, gwaith celf, hetiau bwced (fel sy'n boblogaidd gan ddilynwyr tîm pêl-droed Cymru, hetiau bobl, hwdis (siwmper gwcwll), dillad babi, addurniadau metal, pren ac ar gyfer y Nadolig. Mae llawer o'r nwyddau wedi yn arddel negeseuon Cymraeg neu sloganau adnabyddus fel Yma o Hyd, croeso, a cwtch sy'n adnabyddus i Gymry di-Gymraeg.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Kat Orland. "Web 2.0 Awards 2006". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-09-14.
  2. "Etsy ist der weltweite Marktplatz für Handgefertigtes". Cyrchwyd 2012-10-24.
  3. Martin Weigert (2011-09-13). "Etsy startet in Deutschland und trifft auf DaWanda". foerderland.de.
  4. Christine Imlinger (2011-12-17). "Dawanda: Die Renaissance des Bastelns". Die Presse. Cyrchwyd 2012-10-24.
  5. "Etsy: Presse". etsy.com. 2021-10-15.
  6. Michael Pohlgeers. "Etsy präsentiert starke Zahlen – dank Gebührenerhöhungen". Cyrchwyd 2022-08-05.
  7. admin. "Etsy erhöht Verkäufergebühren (erneut)". Cyrchwyd 2022-08-05.
  8. Jan Kluczniok (2012-10-23). "App-Tipp: Etsy - Kaufen und Verkaufen via iPhone nun auf Deutsch". netzwelt.
  9. "Crafts website company Etsy valued at $4 billion in market debut". Reuters. 2015-04-16. Cyrchwyd 2019-03-25.
  10. "Cymraeg". Etsy. 29 Medi 2022.
  11. "Cymru". Etsy. 29 Medi 2022.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]