Esblygiad
Enghraifft o'r canlynol | math o broses |
---|---|
Math | proses fiolegol, esblygiad, patrwm natur, agwedd o hanes |
Y gwrthwyneb | Creadaeth |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Esblygiad yw'r ddamcaniaeth fod nodweddion etifeddadwy poblogaethau biolegol yn newid ac yn datblygu dros filiynau o flynyddoedd. Mae'r broses yn gyfrifol am y cymhlethdod a'r amrywiaeth enfawr sydd yn nodweddu bywyd fel y'i welir ar y Ddaear heddiw. Gan fod rhai unigolion yn atgenhedlu'n fwy llwyddiannus nag eraill—oherwydd nodweddion sy'n eu galluogi i oroesi'n well, i atynu cymar yn fwy llwyddiannus, neu i fanteisio'n well o'u amgylchedd—a gan fod yr unigolion hyn yn tueddu i drawsyrru i'w epil y nodweddion a arweinodd at eu llwyddiant, tueddir i rywogaethau addasu dros amser i'w hamgylchedd. Dyma brif fecaniaeth esblygiad.
Mae ein dealltwriaeth heddiw o fioleg esblygol yn cychwyn gyda chyhoeddiad papurau Alfred Russel Wallace a Charles Darwin ym 1858 a'i phoblogeiddio yn 1859 pan gyhoeddodd Charles Darwin ei On the Origin of Species. Cyplyswyd hyn a gwaith mynach o'r enw Gregor Mendel a'i waith ar blanhigion a'r hyn rydym yn ei alw'n etifeddeg a genynau.[1]
Oddeutu 4 biliwn o flynyddoedd yn ôl, yn dilyn adweithiau cemegol cryf, crëwyd moleciwlau a oedd yn medru creu copi ohonynt eu hunain drwy'r broses a elwir yn 'atgynhyrchu'. Hanner biwliwn o flynyddoedd yn ddiweddarach crëwyd yr hynafiad sy'n perthyn i bopeth byw. Drwy ddatblygu'r broses o ffotosynthesis, cynaeafwyd golau'r haul gan yr hynafiaid hyn a gynhyrchodd ocsigen moleciwlar (O2) a ymledodd drwy'r atmosffer,[2] a ffurfiodd yn ei dro darian o haen osôn a amddiffynnodd yr hyn a oedd yn brysur ddatblygu oddi tano: bywyd. O'r hynafiaid un-gell yma, datblygwyd y gallu i gell ffurfio oddi fewn i gell arall, gan greu organebau amlgellog sef ewcaryotau (eukaryotes). Drwy arbenigedd, ffurfiwyd mathau gwahanol a thrwy amsugno ymbelydredd electromagnetig uwchfioled, lledodd y bywyd newydd hwn ar draws ac ar hyd wyneb y Ddaear. Mae'r ffosil cyntaf (neu hynaf) a ganfuwyd hyd yma (2015) oddeutu 3.7 biliwn o flynyddoedd oed, mewn tywodfaen yng Ngorllewin yr Ynys Las.[3]
Syniadau newydd Darwin: esblygiad drwy ddetholiad naturiol
[golygu | golygu cod]Charles Darwin a Gregor Mendel yw sylfaenwyr damcaniaeth esblygiad fodern. Cyflwynodd Darwin ei syniadau am ddetholiad naturiol yn 1859. Roedd y syniad yma yn hanfodol bwysig i syniadau Darwin.
Dyma rai o gonglfeini detholiad naturiol:
- Pe bai pob organeb yn atgynhyrchu'n llwyddiannus, yna byddai poblogaeth y rhywogaeth hwnnw yn cynyddu tu hwnt i reolaeth[4]
- Mae adnoddau pob amgylchedd yn gyfyngedig (e.e. hyn-a-hyn o goed sydd ar ynys)
- Mae organebau yn wahanol, ac nid oes byth ddau organeb yn union yr un fath; mae gan bob rhywogaeth, felly, gyfoeth o amrywiaeth ac mae amrywiaeth hefyd, wrth gwrs, yn bodoli rhwng rhywogaethau.
- Nid yw'r rhan fwyaf o'r epil yn goroesi (2% o bysgod sydd yn goroesi o'r epil (neu'r wyau) sydd yn cael ei gynhyrchu.)
- Bydd y rhai sy'n goroesi yn atgenhedlu a phasio eu nodweddion i'r genhedlaeth nesaf.
- Felly mae'r nodweddion sy'n galluogi'r unigolyn i oroesi yn cael eu cadw yn y boblogaeth.
Dyma rai o'r ffactorau sy'n penderfynu pa organebau sy'n goroesi:
- Ysglyfaethwyr
- Afiechyd
- Cystadlaeth am fwyd
- Cystadlaeth am dir neu (yn enwedig mewn planhigion) am olau ayyb.
Gelwir effaith y ffactorau hyn yn 'Ddetholiad Naturiol'.
Ar y pryd doedd Darwin ddim yn gwybod am gromosomau, ond erbyn heddiw rydym yn gwybod mai cromosomau sydd yn cludo gwybodaeth etifeddol.
Syniadau gwyddonol yn newid
[golygu | golygu cod]Fel mae gwybodaeth gwyddonol yn newid, oherwydd tystiolaeth neywdd, mae ein syniadau am bethau yn newid. Yn amser Darwin roedd y mwyafrif o bobl yn credu bod y rhywogaethau naturiol sy'n byw ar y ddaear wedi cael eu creu mewn chydig ddyddiau ac eu bod wedi goroesi heb newid ers hynny. Gelwir hyn yn Greadaeth (o'r gair 'creu'). Cafodd Darwin lawer o bobl crefyddol yn gwrthwynebu ei syniadau gwyddonol newydd. Erbyn heddiw, mae'r rhan fwyaf o wyddonwyr yn derbyn mai detholiad naturiol, ynghyd â mecaniaethau esblygiadol eraill, sy'n gyfrifol am amrywiaeth bywyd.
Tystiolaeth am Esblygiad
[golygu | golygu cod]Trwy astudio ffosilau mewn creigiau o wahanol oedran (fel y gwnaeth Darwin yng Nghwm Idwal) a'r newidiadau yn eu ffurf dros gyfnod o amser down i wybod mwy am amser a pha bryd y crëwyd y gwahanol rywogaethau.
Astudiaeth genetig
[golygu | golygu cod]Gellir edrych ar y genynau sydd mewn gwahanol rhywogaethau ac wedyn eu cymharu e.e. mae dyn a'r tsimpansî yn rhannu 98% o'u genynau.
Esblygiad bodau dynol: llinell amser
[golygu | golygu cod]o flynyddoedd (CP) |
55 | 17 | 8 | 4.4 | 4 | 2.8 | 2.3 | |
Primatau cyntaf yn ymddangos; tebyg i'r Marmoset | Yr epa mawr (neu'r Hominidae) yn hollti oddi wrth hynafiaid y gibon | Y Tsimpansî a pherthnasau eraill bodau dynol yn hollti oddi wrth y gorila. | Traed yr Ardipithecus yn medru 'gafael'. | Australopithecus afarensis yn ymddangos gydag ymennydd o faint y tsimpansî. | LD 350-1 yn ymddangos; efallai mai dyma'r cyntaf yn nheulu'r Homo | Homo habilis yn ymddangos yn Affrica | ||
- |
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan Saesneg National Health Museum
- ↑ Zimmer, Carl (3 Hydref 2013). ""Earth's Oxygen: A Mystery Easy to Take for Granted"". New York Times. Cyrchwyd 3 Hydref 2013.
- ↑ Yoko Ohtomo, Takeshi Kakegawa, Akizumi Ishida, Toshiro Nagase, Minik T. Rosing (8 Rhagfyr 2013). "Evidence for biogenic graphite in early Archaean Isua metasedimentary rocks". Nature Geoscience. doi:10.1038/ngeo2025. Cyrchwyd 9 Rhagfyr 2013.CS1 maint: uses authors parameter (link)
- ↑ Gweler: The Structure of Evolutionary Theory gan Stephen J Gould, cyhoeddwr: Harvard University Press, 2002, tudalen 1433; isbn = 0674006135