Cwm Idwal
![]() | |
Math | peiran ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.1137°N 4.0299°W ![]() |
![]() | |
Cwm yn Eryri yw Cwm Idwal; mae'r ffin rhwng Gwynedd a sir Conwy yn mynd trwy'r cwm.
Saif y cwm ychydig i'r de-orllewin o Lyn Ogwen a phriffordd yr A5. Ynghanol y cwm mae Llyn Idwal, ac amgylchynir ef gan nifer o fynyddoedd, yn enwedig y Glyder Fawr a'r Garn. Mae'r afon fechan sy'n llifo o'r llyn yn llifo i mewn i Afon Ogwen.
Mae Cwm Idwal yn gyrchfan boblogaidd iawn i dwristiaid, cerddwyr a dringwyr mynyddoedd, ac mae llwybr yn arwain o gwmpas y llyn. Ym mhen draw y cwm mae clogwyni serth Clogwyn y Geifr, gyda'r hollt enwog a elwir y Twll Du. Nodweddir y cwm gan olion rhewlif o Oes yr Iâ, sy'n ei wneud o ddiddordeb daearegol mawr.
Ceir amrywiaeth o blanhigion Arctig-alpaidd ar y clogwyni o gwmpas Cwm Idwal, yn cynnwys Lili'r Wyddfa (Lloydia serotina).
Dolenni allanol[golygu | golygu cod]
Llwybr Cwm Idwal, o safle we Parc Cenedlaethol Eryri Archifwyd 2007-09-28 yn y Peiriant Wayback.